Myfyrwyr HÅ·n Newydd a Chyfredol
Os ydych chi'n un o'n myfyrwyr, cofiwch:
Gwnewch y mwyaf o'ch profiadau yma
Ar wahân i astudio mae digonedd o gyfleoedd ychwanegol ar gael i chi ni waeth faint oed ydych chi.
- Paned Hŷn: Dewch draw i gwrdd â myfyrwyr eraill sy'n ystyried eu hunain fel myfyrwyr hŷn. Prynhawniau Mercher 1:00 - 3:00 Undeb, 4ydd llawr Pontio.
- Mae'r Undeb yn cynnal rhaglen amrywiol o weithgareddau sydd ar gael i bob myfyriwr a gallwch ymuno unrhyw adeg o'r flwyddyn
- Dros 60 o glybiau chwaraeon
- Dros 90 o gymdeithasau sy'n darparu ar gyfer llawer o wahanol ddiddordebau
- Dros 60 o brojectau gwirfoddoli / projectau cymunedol
ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý
- Mae'r Ganolfan Sgiliau a Datblygu yn cynnig cyfleoedd gwaith a chyfleoedd profiad gwaith yn ogystal â chynnal cynllun Arweinwyr Cyfoed
- Yn aml bydd gan Ysgolion Academaidd gyfleoedd allgyrsiol i'w cynnig hefyd felly cadwch olwg amdanynt
Gofynnwch os bydd arnoch angen unrhyw beth
Mae adegau pan fydd ar fyfyrwyr angen gwybodaeth neu arweiniad ni waeth faint oed ydyn nhw. Efallai y byddech yn synnu pa mor aml mae myfyrwyr iau yn holi am yr un pethau â chi, mewn perthynas ag astudio, cyllid, cyfrifoldebau teuluol neu broblemau personol. Isod ceir cysylltiadau at wybodaeth ddefnyddiol
Gwasanaethau Myfyrwyr ÌýÌýÌý
Cyngor ariannolÌýÌýÌýÂ ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÂ
Peidiwch ag anghofio, os oes arnoch angen siarad â rhywun mae croeso i chi gysylltu â'r adran berthnasol o fewn y Gwasanaethau Myfyrwyr, eich Tiwtor Personol neu'r Personau Cyswllt dynodedig ar gyfer Myfyrwyr HÅ·n.Â
Gwasanaethau Myfyrwyr |
|
Undeb Bangor |
---|---|---|
Huw Jones |
|
Ymholiadau Cyffredinol |
|