Ysmygu
Dim ’Smygu Cymru
Yma cewch wybodaeth am roi'r gorau i ysmygu a sut i dderbyn cymorth am ddim os ydych chi, neu rywun agos atoch, eisiau rhoi'r gorau iddi. Credir bod dau rhan o dri o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau i ysmygu felly nid ydych chi ar eich pen eich hun.
Ffoniwch yn rhad ac am ddim 0800 085 2219
Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol
Siaradwch a chynghorwyr di-ysmygu ar 0800 169 0 169
Mae'r tîm o gynghorwyr hyfforddedig yno i'ch helpu. Gallant roi gwybodaeth i chi am feddygaeth i'ch helpu chi rhoi'r gorau i ysmygu, cyngor ar sut i roi'r gorau a gallant hefyd ddweud wrthych am Wasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu sydd am ddim gan eich GIC lleol. Pan ydych wedi rhoi'r gorau i ysmygu, gallwch ffonio am fwy o gyngor ac anogaeth pan fyddwch ei angen.
Her Iechyd Cymru
Mae ysmygu yn lladd 6,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn cynyddu'r posibilrwydd y byddwch yn byw bywyd hir ac iach. Dyma rhai canllawiau i'ch helpu:
Quit
Nid yw'n hawdd rhoi'r gorau i ysmygu ond mae YN bosibl. I fod yn llwyddiannus mae'n rhaid i chi fod wir eisiau rhoi'r gorau iddi a bod yn barod am yr her. Mae gwefan Quit yn rhoi arweiniad ymarferol i chi am sut i roi'r gorau iddi.
Stub
Nid yw'r wefan yma yn rhoi araith i chi am beryglon ysmygu. Yn hytrach mae'n eich annog i roi'r gorau iddi gan gynnig gwybodaeth a chanllawiau i wneud pethau'n haws.