Gwybodaeth i staff
Gweithio gydag Ysgolion Academaidd
Rydym yn gweithio gyda staff academaidd a staff cefnogi er mwyn sicrhau bod gweithgareddau addysgu a dysgu ar gael yn hwylus i fyfyrwyr anabl. Mae hyn yn golygu galluogi myfyrwyr i fynd at gynnwys cwrs, cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau dysgu a dangos eu gwybodaeth a'u cryfderau mewn asesiad. Caiff Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP) eu llunio ar gyfer myfyrwyr unigol ac mae Cynghorwyr yn trafod gyda Tiwtoriaid Anabledd Ysgolion a staff academaidd ynghylch addasiadau rhesymol i gael gwared ar rwystrau.
Rydym yn gweithio'n agos hefyd gyda Thiwtoriaid Derbyn a Thiwtoriaid Anabledd i sicrhau y gellir gwneud addasiadau rhesymol a bod cyrsiau'n hygyrch i fyfyrwyr unigol.
Polisi a Dulliau Gweithred
Mae Cod Ymarfer PB ar Ddarpariaeth ar gyfer Myfyrwyr Anabl yn cynnwys polisïau a dulliau gweithredu ar yr amgylchedd dysgu, asesu, derbyn myfyrwyr, cyfrinachedd.
Datblygu Staff
Rydym yn cynnig sesiynau datblygu pwrpasol ar gyfer holl staff y Brifysgol, gyda’r amcanion isod:
-
cynyddu ymwybyddiaeth o'r problemau a'r rhwystrau a wynebir gan fyfyrwyr anabl
-
ymchwilio i strategaethau ar gyfer darparu profiad dysgu cynhwysol
-
amlinellu cyfrifoldebau’r Brifysgol mewn perthynas â myfyrwyr anabl
-
cyfarwyddo staff ar bolisïau a dulliau gweithredu perthnasol y Brifysgol
Mae’r sesiynau datblygu sydd ar gael ar hyn o bryd ar gais yn cynnwys:
-
Hyfforddiant ymwybyddiaeth yn y meysydd canlynol:
-
Dyslecsia / Dyspracsia / Anawsterau Dal Sylw
-
Syndrom Asperger a chyflyrau cysylltiedig
-
Nam ar y golwg
-
Ymwybyddiaeth o Fyddardod
-
Anawsterau iechyd meddwl
-
Deddfwriaeth yng nghyswllt myfyrwyr anabl
-
Systemau cefnogi Bangor i fyfyrwyr anabl
Rydym hefyd yn sylweddol y gall agwedd flaengar tuag at gynhwysiant olygu bod staff academaidd yn treulio llai o amser yn gweithio ar sail un-i-un gyda myfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu. O'r herwydd, rydym yn cydweithio'n agos gyda’r Canolfan Gwella Addysgu a Dysgu (CELT) i ddatblygu a chyflwyno gweithdai ar ddysgu cynhwysol.
Os hoffech sicrhau bod eich dysgu'n hygyrch i fyfyriwr unigol neu os ydych eisiau gwybod mwy am ddulliau o sicrhau bod eich dysgu'n gynhwysol yna cysylltwch â ni.
Gwasanaethau Anabledd Adnoddau i Staff
- Cyngor gan y Gwasanaethau Anabledd ynghylch Asesiadau Cynhwysol
- Asesiadau ar gyfer y Gwasanaeth Anabledd
- Cefnogi Myfyrwyr â Nam ar eu Clyw wrth Ddysgu o Bell
- Hygyrchedd ac E-ddysgu
- Sut i wneud eich Adnoddau yn Hygyrch
- 'Fformatau eraill o hunan-wasanaeth' (MP3, DAISY, EPUB, etc)
- Bwletin Rhoi Sylw i Addysgu Cynhwysol
- Addasiadau Rhesymol - Cwestiynau cyffredin
- Beth yw Cynllun Cefnogi Dysgu Personol a sut mae myfyriwr yn cael un?
- Gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl
Pwy all weld y CCDP?
-
Tiwtoriaid Anabledd - Gall pob Tiwtor Anabledd mewn Ysgolion weld adroddiad ar yr holl fyfyrwyr yn eu Hysgol sydd â CCDP yn yr app CCDP yn .
-
Tiwtoriaid Personol a Uwch Diwtoriaid - Bydd tiwtoriaid yn gallu gweld y data CCDP perthnasol sy'n ymwneud â'u myfyrwyr. Mae'r system i diwtoriaid yn integreiddio gwybodaeth o CCDP myfyrwyr unwaith y cafwyd eu caniatâd. Unwaith y bydd Tiwtor Personol yn clicio ar enw myfyriwr, dylai gwybodaeth amdanynt ymddangos ar y sgrin, dan y tab CCDP yn . Gall Uwch Diwtoriaid fynediad at holl CCDP o fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru ar gyrsiau yn eu hysgolion.
-
Trefnwyr Modiwlau - Er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i holl anghenion dysgu eu myfyrwyr, mae Trefnwyr Modiwlau'n medru mynd at dab rhestr dosbarth lle gallant weld yr addasiadau addysgu a dysgu y mae gan fyfyrwyr unigol yr hawl i'w cael. Gellir gweld hyn yn y system i fodiwlau ac asesiadau, dan y tab CCDP yn Gall pob staff addysgu a neilltuwyd i fodiwl weld rhestr o addasiadau rhesymol ond oni bai mai nhw yw tiwtor personol y myfyriwr, ni fyddant yn gallu gweld y CCDP cyfan.
- ³Ò²¹±ô±ôÌýarweinwyr rhaglenni weld tab sy'n rhestru aelodau'r dosbarth sy'n dangos gofynion addysgu a dysgu unigol myfyrwyr.
- Swyddogion Arholiadau / Gweinyddwyr - Gall gweinyddwyr ysgolion a swyddogion arholiadau weld adroddiad o'r holl fyfyrwyr sydd angen addasu arholiadau, a gallant weld CCDP unigolion yn .
Gwefannau Defnyddiol
SCIPS (Strategies for the Creation of Inclusive Programmes of Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ)
Mae'r adnodd hwn wedi ei anelu at staff academaidd ac eraill ac mae'n cynnig strategaethau i hyrwyddo addysgu, dysgu ac asesu cynhwysol o fewn rhaglenni astudio Addysg Uwch. Mae'n nodi sialensiau posibl y gall myfyrwyr anabl eu hwynebu wrth gyflawni ac/neu arddangos sgiliau a nodweddion fel y cânt eu diffinio o fewn Datganiadau Meincnod Pwnc. Mae hefyd yn awgrymu strategaethau ac addasiadau i arferion y gall staff academaidd eu hystyried i gynorthwyo myfyrwyr i oresgyn y sialensiau hyn.
Myfyrwyr Ôl-radd
Mae’r casgliad hwn o adnoddau yn cartref i amrywiaeth o ddefnyddiau i staff a myfyrwyr yng nghyswllt ymwybyddiaeth a datblygiad ar gyfer staff a myfyrwyr, yn cynnwys arolygwyr ymchwil, rheolwyr a myfyrwyr ôl-raddedig. Bydd angen ichi gofrestru ac yna chwilio yn ôl 'anabledd'.
Deddfwriaeth
Cyhoeddiad a ddatblygwyd gan yr Uned Her Cydraddoldeb i helpu sefydliadau i fabwysiadu dull mwy strategol o ymwneud â'r cylch cynllunio cyffredinol, fydd yn arwain at ddiwylliant mwy cynhwysol ac arbedion cost ac effeithlonrwydd yn y tymor hir.
- Deddfwriaeth ar Anabledd: Cyfarwyddyd Ymarferol ar gyfer Academyddion
Llyfr a luniwyd gan yr Uned Her Cydraddoldeb a’r Academi Addysg Uwch i helpu staff academaidd i gymhwyso’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd Rhan 4 at addysgu a dysgu. Tra bod y ddogfen yn cyfeirio at y DGSA, sydd bellach wedi ei disodli gan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae llawer o'r wybodaeth mewn perthynas â dysgu ac addysgu yn parhau i fod yn berthnasol.
Cydraddoldeb ac amrywiaeth i academyddion
Cyfres o daflenni gwybodaeth wedi eu cynhyrchu gan Unedau Herio Cydraddoldeb a’u hanelu at staff academaidd yng Nghymru a Lloegr.
Asesiadau Cynhwysol
Mae’r adnodd hwn yn deillio o Broject 3 blynedd dan nawdd HEFCE i ddatblygu a hyrwyddo ffurfiau amgen ar asesu er hwyluso dull mwy cynhwysol o asesu.
Wedi'i ddiweddaru 11.08.2022