Gwasanaeth Asesu Diagnostig
Ein Swyddogaeth Ni
Gallwn asesu myfyrwyr am Wahaniaethau Dysgu Penodol (SpLD), gan gynnwys Dyslecsia, Dyspracsia, Dyscalcwlia, Dysgraffia ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)*. Gall pob asesiad roi sylw i bob Gwahaniaeth Dysgu Penodol ac felly nid oes angen asesiad ar gyfer pob un yn unigol. Sylwch nad ydym yn asesu am awtistiaeth - rhaid gwneud trwy gael atgyfeiriad gan y meddyg teulu neu asesiad preifat.
Ar ôl cael diagnosis, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael addasiadau rhesymol gan y brifysgol trwy'r drefn Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSP), a gallant fod yn gymwys i gael y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
*Rydym yn gallu gwneud diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD)/Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ar gyfer dibenion astudio - i fod yn gymwys i gael addasiadau trwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol a’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Caiff y drefn hon ei chydnabod yn eang yn y Deyrnas Unedig a chynghorir myfyrwyr, pe bai'n well ganddynt gael diagnosis meddygol, i fynd i weld eu meddyg teulu neu drefnu apwyntiad preifat.
Disgwylir i fyfyrwyr dalu £100 tuag at gost yr asesiad llawn. Os na allant fforddio hynny, fe'u cynghorir i gysylltu â’r uned Cymorth Ariannol i holi am y Gronfa Caledi.
Y broses atgyfeirio
Gall myfyrwyr hunan-gyfeirio trwy e-bostio asesiad@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 383030.
Gall staff atgyfeirio myfyrwyr - yn ddelfrydol trwy e-bostio asesiad@bangor.ac.uk a chynnwys y myfyriwr i dderbyn copi o’r neges.
Yna gofynnir i fyfyrwyr lenwi holiadur (am ddim) ac os yw'r atebion yn arwain at atgyfeiriad am asesiad, anfonir e-bost at y myfyrwyr i dalu £100 trwy siop ar-lein y brifysgol.
Y Ganolfan Access
Ein Swyddogaeth Ni
Gallwn asesu myfyrwyr am ystod eang o anableddau, e.e. Gwahaniaethau Dysgu Penodol (SpLD), iechyd meddwl, awtistiaeth, cyflyrau meddygol, nam corfforol, nam ar y synhwyrau.
Mae angen i fyfyrwyr fod wedi cael diagnosis o'u hanabledd eisoes, ac mae angen i hyn fod wedi'i dderbyn mewn perthynas â’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (gallwn gynghori ynglÅ·n â hyn).
Yn dilyn yr asesiad, argymhellir eitemau i fyfyrwyr y telir amdanynt trwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl - hynny yw eitemau unigryw i gefnogi eu hanabledd. Gall hyn fod ar ffurf cefnogaeth ddynol, offer a/neu feddalwedd. Nid yw'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn talu am unrhyw feddalwedd, offer na chostau y byddai disgwyl i fyfyriwr nad yw'n anabl dalu amdanynt (e.e. meddalwedd CAD i fyfyriwr ar radd wedi'i seilio ar CAD). Fel rheol, telir costau’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn uniongyrchol i ddarparwyr y gefnogaeth - nid yw myfyrwyr anabl yn elwa'n ariannol ac yn wahanol i fenthyciadau myfyrwyr nid yw'n ofynnol i iddynt ad-dalu unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
Y broses atgyfeirio
Gall myfyrwyr hunan-gyfeirio trwy e-bostio canolfan_access@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 388101.
Gall staff atgyfeirio myfyrwyr - yn ddelfrydol trwy e-bostio canolfan_access@bangor.ac.uk a chynnwys y myfyriwr i dderbyn copi o’r neges.
Yna gofynnir i fyfyrwyr e-bostio copïau o'u tystiolaeth anabledd ynghyd â gwybodaeth berthnasol am eu Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Fel rheol byddwn yn tywys y myfyrwyr trwy'r broses a gallwn roi cyngor ynglŷn â hyn.