Cymorth Ariannol
Mae’r Uned Cymorth Ariannol yn rhan o’r Tîm Cymorth i Fyfyrwyr, a gall yr aelodau staff profiadol roi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr. Rydym am i'ch amser yn y brifysgol fod yn bleserus ac yn werth chweil, ac felly mae Prifysgol Bangor yn darparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth i'w myfyrwyr a fydd yn eich galluogi i gael y gorau o'ch profiad prifysgol. Yn benodol, mae'n bwysig na ddylai eich amser yma gael ei ddifetha gan bryderon ariannol diangen.
Sut gallwn ni eich helpu chi
 Poeni am gostau byw fel myfyriwr? Ewch i'n tudalen Costau Byw a Chymorth Ariannol i gael cyngor ac arweiniad ar gadw eich costau i lawr tra'n byw fel myfyriwr.
 Os ydych chi’n poeni am arian, yna mae’r Uned Cymorth Ariannol yma i helpu. Gall ein cynghorwyr eich helpu:
- asesu eich sefyllfa ariannol a’ch cefnogi i greu cyllideb gwariant a fydd yn diwallu eich anghenion hanfodol.
- gwnewch yn siŵr eich bod yn cael mynediad at eich holl hawliau bwrsariaeth Cyllid Myfyrwyr a Bangor
- yn ogystal ag edrych ar ffyrdd y gallwch arbed costau.
Mae gennym nifer o sytemau cymorth ar waith i’ch helpu gyda phroblemau ariannol gan gynnwys:
- cronfa caledi prawf modd a benthyciadau tymor byr.
- Grantiau Argyfwng a thalebau bwyd pan fo angen dybryd.
 Beth bynnag fo’ch pryderon ariannol, mae ein Cynghorwyr Ariannol yma i helpu.
Am wybodaeth bellach
- Cyllid israddedig ar gyfer cyrsiau llawn amser a rhan amser
- Cyrsiau Israddedig wedi eu cyllido gan y GIG
- Cyllid ôl-raddedig
- Cyllidio ar gyfer cyrsiau Diploma Addysg Uwch ac MSc GIG
- Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Prifysgol
- Cyllid i Fyfyrwyr Presennol
- Cronfa Caledi a Grantiau Argyfwng
- Cyllidebu
- Cefnogaeth i fyfyrwyr sydd wedi Ymddieithrio
- Cefnogi Myfyrwyr sy’n Ofalwyr
- Cefnogaeth i Fyfyrwyr gyda Phlant neu Oedolion Dibynnol
Ble i ddod o hyd i’r Uned Cymorth Ariannol
Mae’r Uned ar yr Ail Lawr, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DF.
Adeilad rhif 70 ar fap y Brifysgol ydi Neuadd Rathbone
Ffon |
Ebost |
01248 38 3566 / 3637 |
Ydych chi’n fyfyriwr Prifysgol Bangor mewn lleoliad tu allan i Fangor?
Dim ots ble yr ydych yn astudio gallwch gael yr un cymorth gan yr Uned Cymorth Ariannol. Ffoniwch neu e-bostiwch yr Uned yn y lle cyntaf a bydd y Cynghorwyr yn trefnu’r hyn sydd orau i chi.
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o’r canlynol:
Enw | Swydd |
---|---|
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Danielle Barnard | Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |