Ar y dudalen
- Maer`r Gwasanaethau Anabledd yma i chi!
- Adnoddau Iechyd Meddwl
- Polisi Prifysgol
- Myfrywyr Wrecsam
- Eich Adborth
Newyddion Diweddaraf
Cysylltiadau eraill
Mae'r Gwasanaethau Anabledd yma i chi!
Mae'r Gwasanaethau Anabledd bellach ar-lein ac mi allwch chi fynd at ein gwasanaethau lle bynnag yr ydych chi - wyneb yn wyneb, ar e-bost, siarad dros y ffôn neu alwad fideo, beth bynnag sydd orau gennych. Mae ein Timau Cynghori yn cynnig apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw, wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae staff yn gweithio oriau swyddfa arferol ac yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthych - ymwelwch â'r Dderbynfa RithiolÌý²Ô²¹·É°ù!
Gweler ein Cwestiynau CyffredinÌý²¹Ìý'Beth rydyn ni'n ei wneud ar gyfer myfyrwyr' i gael mwy o wybodaeth. Bydd diweddariadau ar dudalen y Newyddion Diweddaraf.
Polisi Prifysgol
Nod y Brifysgol yw cymryd yr holl gamau posib i gael gwared â rhwystrau diangen a chaniatáu i fyfyrwyr anabl fedru cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd Prifysgol. Am fwy o wybodaeth am bolisi a dulliau gweithredu, gweler Cod Ymarfer ar y Ddarpariaeth i Fyfyrwyr Anabl a Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Brifysgol.
Rydym yn falch o ddweud fod nifer y myfyrwyr anabl sy’n astudio yn y Brifysgol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae ein tîm wedi tyfu i ateb y galw. Rydym wedi cael ymateb gwych gan fyfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol.
Cysylltu Gyda Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon ebost atom i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ein ffonio ar 01248 382032 .
Myfyrwyr Wrecsam
Eich Adborth
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Rheolwr Anabledd (Gwasanaethau Dysgu) Rheolwr Cymorth Anabledd |