Cysylltiadau eraill
Newyddion Diweddaraf
- NEWYDD! Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
- Coronafeirws – Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
- Trefniadau Arholiadau - Mai 2021
- Sesiwn Galw Heibio ar-lein Cynghorwyr Anabledd
- Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl ar-lein
- Gwybodaeth ddefnyddiol
- TextHelp Read & Write
- Colli cyfarfodydd gyda'ch Mentor
- Gwasanaeth Anableddau wedi ennill statws 'Epilepsy- Gyfeillgar'
NEWYDD! Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Ydych chi ar fin graddio, ond nid ydych chi'n siŵr ble i ddechrau chwilio am swydd, neu efallai yr hoffech chi gael mwy o gefnogaeth i fynd i mewn i fyd gwaith?
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion newydd yn cefnogi graddedigion o 2019, 2020 a 2021 sydd wedi'i chael hi'n heriol dod o hyd i waith o ganlyniad i'r pandemig.
Bydd y rhaglen yn rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar raddedigion (gan gynnwys ôl-raddedigion) i ddod o hyd i gyflogaeth.  Bydd y gefnogaeth yn cynnwys cyfres oddigwyddiadau cyflogadwyedd wythnosol, cefnogaeth 1:1, rhaglen strwythuredig o ddysgu ynghyd â lleoliadau a chyfleoedd gwaith.
Manylion llawn a sut i gofrestru trwy'r wefan:Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor
Neu e-bostiwch: graduatesupport@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth
Coronafeirws – Gwybodaeth Bwysig i Fyfyrwyr
Gwybodaeth am Coronafeirws (Covid-19)Llyfryn Gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru.
Ewch i i gael help i'ch cefnogi trwy'r pandemig coronafirws.
Trefniadau Arholiadau - Mai 2021
Am ragor o wybodaeth ewch i dudalen we Trefniadau Arholiadau.
Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
Mae'r Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol (ATRs) yn fannau mynediad cyfyngedig, i'w defnyddio gan fyfyrwyr â'r addasiad hwn yn eu Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol . Er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol, dim ond un person ar y tro all ddefnyddio'r ystafelloedd bach hyn. I drefnu amser i ddefnyddio'r YTG/ATR ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, e-bostiwch iss808@bangor.ac.uk. Gellir dal i ddefnyddio'r YTG/ATR yn Llyfrgell Deiniol ar sail galw heibio, cyn belled nad oes unrhyw un arall eisoes yn defnyddio'r ystafell.
Sesiwn Galw Heibio ar-lein Cynghorwyr Anabledd
Mae Cynghorwyr Anabledd ar gael ar gyfer slot bob dydd Mawrth 12-1 yn ystod y tymor.
Mae Sesiynau Galw Heibio Iechyd Meddwl ar-lein
Brynhawn Mercher rhwng 2pm a 3.30pm
Yn wyneb y sefyllfa bresennol mae Cheryl, Fiona a Sioned yn cymryd ein wythnosol ar-lein. Bydd yn rhaid i ni ei weithio ychydig yn wahanol fel y gallwn reoli ac ymateb yn deg i fyfyrywr sydd angen siarad â ni.
E-bostiwch cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk gan nodi amlinelliad eich sefyllfa a sut mae`n well gennych i ni gysylltu â chi (galwad fideo / sain 'Microsoft Teams', galwad ffôn neu e-bost). Yna bydd yn cysylltu â chi.
Neu
fe allech chi ymuno â ni yn ein trafodaeth grŵp, a gynhelir trwy ‘Microsoft Teams’ ymlaen llaw, 1pm - 1:30pm, gweithio ochr yn ochr â - svbconnect@undebbangor.com i siarad am bob agwedd ar lesiant. Nid ydych o dan unrhyw bwysau i siarad; gallwch wrando, ac anfon neges breifat at un o'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl i ofyn am apwyntiad yn y sesiwn galw heibio sy'n dilyn.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Rheoli pryder
Mae'r elusen iechyd meddwl, MIND, yn darparu rhai cysylltiadau rhagorol yn ymwneud â . Mae cyswllt i awgrymiadau ymarferol ynglŷn â gofalu am eich lles wedi'i chynnwys ar waelod y dudalen hon.
Adnoddau Iechyd Meddwl Ar-lein
Coronafirws (Covid-19)
Os ydych yn ansicr â phwy i gysylltu, e-bostiwch gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk . Sylwer y bydd staff yn gweithio eu horiau swyddfa arferol ac yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallant.
TextHelp Read & Write
Mae gan Brifysgol Bangor drwydded safle ar gyfer TextHelp Read & Write - meddalwedd testun-i-leferydd sy'n galluogi myfyrwyr i wrando ar unrhyw ddogfen, gan gynnwys Word, PDFs a thudalennau gwe. Oherwydd bod campws y brifysgol wedi cau, mae bellach yn bosibl cael y feddalwedd dros dro ar gyfer eich cyfrifiadur cartref eich hun, i'ch galluogi i barhau i ddefnyddio Read&Write tan ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gosod y feddalwedd i'w defnyddio gartref, gwiriwch eich e-bost at canolfan_access@bangor.ac.uk  am gyfarwyddiadau.
Colli cyfarfodydd gyda'ch Mentor
Newidiadau i'r Lwfans Myfyrwyr Anabl
Bellach mae rheolau llym iawn ynglŷn â cholli sesiynau a rhaid inni fonitro presenoldeb myfyrwyr yn fanwl. Telir am uchafswm o ddwy sesiwn sydd wedi'u colli bob semester, ac ar ôl hynny efallai y
bydd cymorth yn cael ei atal.
Rydym yn deall nad yw bob amser yn bosib rhoi mwy na 24 awr o rybudd, ond mae'r newid i'r rheolau cyllido yn gaeth iawn, felly rydym yn monitro presenoldeb yn fanwl, ac yn gobeithio lleihau'r nifer o
sesiynau sy'n cael eu colli.
Os oes angen ichi golli sesiwn
Rhowch wybod i'ch mentor cyn gynted â phosib. Os byddwch yn rhoi gwybod iddynt fwy na 24 awr ymlaen llaw, ni fydd y sesiwn yn cael ei hystyried fel sesiwn sydd "wedi'i cholli".
Os rhoddwch lai na 24 awr o rybudd, neu os na fyddwch yn bresennol yn y sesiwn, rhaid iddi gael ei chofnodi fel sesiwn sydd "wedi'i cholli". Ni fydd mwy na dwy sesiwn sydd wedi'u colli'n cael eu cyllido drwy eich Lwfans Myfyrwyr Anabl a bydd angen i Ymgynghorydd siarad â chi cyn y gellir trefnu mwy o gefnogaeth fentora. Os byddwch yn colli sesiynau'n gyson, mae'n bosib y bydd eich arian ar gyfer cefnogaeth fentora'n cael ei dynnu'n ôl yn gyfan gwbl.
Methu mynd i'ch sesiwn fentora?
Peidiwch â phoeni! Gallwch newid ffurf eich sesiwn fentora ar y funud olaf, er enghraifft, i sesiwn dros e-bost neu ar y ffôn. Cyn belled a'ch bod mewn cysylltiad gyda'ch Mentor yn ystod yr amser a drefnwyd, nid ydych yw'r sesiwn wedi ei "cholli". Os ydych yn credu y byddai cael yr opsiwn hwn yn ddefnyddiol yn eich sefyllfa chi, gadewch i'r Ymgynghorwyr wybod a thrafodwch y peth gyda'ch Mentor.
Y prif beth yw cadw mewn cysylltiad!
Gwasanaeth Anableddau wedi ennill statws 'Epilepsi-Gyfeillgar'
Mae'r Gwasanaethau Anabledd ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r sefydliad 'Young Epilepsy' ac yn gymwys i gael statws 'Epilepsi-Gyfeillgar’. Ruth Coppell (Cynghorydd Anabledd) yw ein cynrychiolydd. Bwriad y nod Epilepsi-Gyfeillgar yw cydnabod y sefydliadau addysg uwch sy'n mynd gam ymhellach i wella eu dealltwriaeth o epilepsi a chefnogi eu myfyrwyr yn well.
Mae epilepsi yn aml yn cael ei gamddeall ac felly ceir dryswch wrth ddarparu cefnogaeth. Mae'r nod Epilepsi-Gyfeillgar yn rhoi'r sicrwydd bod sefydliad yn gweithio i wella ei ddealltwriaeth am epilepsi a'r gefnogaeth y gallant ei darparu.
Mae gan Young Epilepsy adran ar eu gwefan yn arbennig ar gyfer pobl ifanc mewn addysg uwch sydd ag epilepsi.
15.06.2021