Y Frech Goch – Gwybodaeth bwysig i fyfyrwyr
I gael mwy o wybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag Iechyd Myfyrwyr, gweler ein ar-lein.
Mewn ymateb i’r achosion diweddar o’r frech goch yn Ne Cymru mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog plant ac OEDOLION IFANC ar draws Cymru i gymryd camau i’w hamddiffyn eu hunain rhag clefyd a all ladd.
Erbyn 15 Ebrill 2013, roedd 700 o achosion wedi eu cofnodi a’u cadarnhau yn Ne Cymru, a 73 o’r rheini wedi eu cofnodi a’u cadarnhau o fewn dau ddiwrnod yn unig.
Nid yw byth yn rhy hwyr i gael y brechiad MMR
Beth yw’r Frech Goch?
Clefyd hynod o heintus a achosir gan firws yw’r frech goch.
Babanod, pobl ifanc yn eu harddegau a’r henoed yw’r rhai sydd yn wynebu’r perygl mwyaf o ddatblygu cymhlethdodau os ydynt yn dal y clefyd. Gallant golli eu clyw, neu ddatblygu llid yr ymennydd, enseffalitis a niwmonia – a gall y rhain fod yn farwol!
Haint ar y glust (tua un mewn 20)
Broncitis/niwmonia (tua un mewn 25)
Ffitiau (tua 1 mewn 200) ac mewn achosion prin
Enseffalitis (haint ar yr ymennydd)
neu lid yr ymennydd (1 ym mhob 1000)
Gall y frech goch daro UNRHYW UN sydd heb ddatblygu imiwnedd naturiol neu sydd heb ei frechu yn erbyn y clefyd.
Beth yw’r symptomau’r Frech Goch?
Fel arfer mae rhywun yn dechrau mynd yn sâl rhwng wythnos i ddeg diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â’r frech goch. Hynny yw, mae’r ‘cyfnod magu’ yn para 10 diwrnod ar gyfartaledd.
- Y symptomau dechreuol yw gwres uchel, symptomau tebyg i annwyd, trwyn yn llifo, llygaid yn brifo ac yn rhedeg (ac o bosib yn sensitif i olau), peswch sych tebyg i ‘croup’.
- Smotiau gwyn ar gig y dannedd (2il a’r 3ydd diwrnod fel rheol).
- Brech ar y croen (yn datblygu ar y 3ydd a’r 4ydd diwrnod fel arfer) yn dechrau ar yr wyneb a’r tu ôl i’r clustiau ac yna’n ymledu dros y corff i gyd. Gall y frech ar y croen bara am 5–8 diwrnod.
Sut mae’n ymledu?
Mae’r frech goch yn ymledu trwy’r awyr neu drwy drosglwyddiad diferion bach felly gellir ei ledaenu trwy besychu neu disian. Gall UN achos o’r frech goch heintio mwy na PHYMTHEG o bobl eraill – oni bai fod y bobl hyn wedi cael eu brechu neu wedi cael y frech goch eisoes ac wedi datblygu imiwnedd. Mae’n bosib dal y frech goch trwy gyffwrdd ag eitemau sydd wedi eu halogi gan secretiadau e.e. hancesi defnydd neu bapur.
Sut ydw i’n gwybod os ydw i wedi cael fy mrechu ai peidio?
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi wedi cael eich brechu ai peidio yna gallwch holi eich rhieni/teulu i weld oes ganddynt unrhyw gofnod o’ch brechiadau. Os nad ydynt yn gwybod, dylai fod gan eich meddygfa deuluol leol gofnodion a gallant wneud allbrint ohonynt i chi os gofynnwch iddynt. Mae’n syniad da dod â chopi o’r allbrint i’r feddygfa leol ym Mangor fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion yma hefyd.
Os nad oes gan eich meddyg teulu na’ch teulu wybodaeth bendant am hyn yna gall eich meddyg teulu gysylltu ag uned arolygu plant leol lle mae cofnodion yr HOLL blant a gafodd frechiadau yn yr ysgol yn cael eu cadw, a gallant gadarnhau a ydych chi wedi cael eich brechu ai peidio.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ni fydd yn gwneud niwed i chi i gael y brechiad.
Ydy’r brechiad MMR yn ddiogel?
Ydy. Bu cryn ddadlau ynghylch y cwestiwn a allai’r brechiad MMR achosi awtistiaeth ai peidio, yn dilyn astudiaeth a gyhoeddwyd yn 1998 gan Dr Andrew Wakefield. Honnodd fod cysylltiad rhwng y brechiad MMR ac awtistiaeth neu glefyd y coluddion. Ers hynny, profwyd nad oedd dim sail i’w honiadau ac mewn astudiaethau dilynol ni chafwyd unrhyw gysylltiad rhwng y brechiad MMR a chlefyd y coluddion.
Enwau brand y brechiadau MMR a roddir yn y Deyrnas Unedig yw PRIORIX neu MMRVaxPRO.
Ni fydd y brechiad MMR yn gwaethygu symptomau’r frech goch os ydych chi wedi ei ddal eisoes ac yn y ‘cyfnod magu’.
Faint o bigiadau y mae’n rhaid i mi gael?
Cyflwynwyd y drefn imiwneiddio yn 1988 fel rhan o’r drefn imiwneiddio plant, gydag un brechiad pan oedd y plentyn yn 12 mis oed ac yna rhwng 3 a 4 oed. Dylid rhoi DAU bigiad i gael yr amddiffyniad gorau.
Os oes gennych un brechiad MMR yn unig ar eich cofnod yna bydd yn rhaid i chi gwblhau’r cwrs a chael AIL frechiad.
Fel arfer bydd mis rhwng y ddau frechiad. Rhoddir y pigiad yn rhan uchaf y fraich fel rheol.
Beth am y sgil-effeithiau... Mae gennyf arholiadau pwysig cyn bo hir? Ydy’n well os ydw i’n aros tan wedyn??
Na, yn ddelfrydol ni ddylech aros tan ar ôl eich arholiadau.
Mae’r brechiad MMR yn cynnwys fersiwn gwannach o firysau byw’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae’r brechiad yn gweithio trwy ysgogi’r system imiwn i gynhyrchu gwrthgyrff yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela.
6–10 diwrnod ar ôl y brechiad cyntaf gall rhai pobl ddatblygu brech ysgafn ar y croen ac ychydig o wres a fydd yn cilio ar ôl ychydig o ddyddiau.
Nid yw’r frech goch yn glefyd braf o gwbl a dylech ystyried o ddifrif cael eich brechu’n awr ac ar gyfer eich dyfodol yn y brifysgol.
Beth ddylwn ei wneud os ydw i’n credu bod y frech goch arnaf i neu rywun agos ataf?
Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu ym Mangor/neu ger eich cartref a thrafod eich pryderon.
Gallwch hefyd ffonio NHS Direct/Galw Iechyd Cymru i gael cyngor 0845 4647.
Mae’r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Arferol yn gallu cynnig cyngor ar ôl 6.30 pm, dros nos neu drwy’r dydd ar wyliau banc ac ar y penwythnos 03001235566.
Gan fod y frech goch yn HYNOD o heintus mae’n well peidio â mynd i’r adran ddamweiniau, oni bai eich bod yn teimlo’n sâl iawn ac yn credu efallai eich bod yn dioddef o’r cymhlethdodau y soniwyd amdanynt uchod. Dywedwch wrth y derbynnydd wrth gyrraedd eich bod yn poeni bod y frech goch arnoch fel y gallant roi ystafell aros o’r neilltu i chi.
Os yw’r frech goch arnoch rydych yn heintus cyn i chi ddatblygu symptomau, ac am 5 diwrnod o leiaf ar ôl i chi ddatblygu brech.
Mae’n bwysig bod plant yn cael eu cadw adref o’r ysgol/meithrinfa ac nad yw myfyrwyr prifysgol yn mynychu darlithoedd am 5 diwrnod o leiaf ar ôl i’r frech ymddangos.
Ein hamcan yw cymryd camau rhag blaen er mwyn sicrhau na fydd achosion o’r clefyd ym Mhrifysgol Bangor. Rydym bob amser wedi argymell yn gryf bod myfyrwyr yn cael dau frechiad MMR cyn iddynt ddechrau yn y brifysgol ym Mangor ond nid yw hyn yn orfodol.