Cyrsiau wedi'u cyllido gan y GIG
Cymhwyso ar gyfer cyllid GIG Cymru
Mae pecyn Bwrsariaeth y GIG yn wahanol i'r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr nad ydynt yn rhai GIG. Er mwyn bod yn gymwys am gefnogaeth gyllidol y GIG:
- Rhaid i chi gael eich derbyn am le a gyllidir gan y GIG ar gwrs llawn amser neu ran-amser.
- Rhaid i chi fod wedi byw yn y Deyrnas Unedig am dair blynedd yn syth cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r cwrs yn dechrau ynddi, ac yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
- ÌýAc ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod o DDWY flynedd yn dilyn graddio
- Os dewiswch BEIDIO ag ymrwymo i'r Telerau ac amodau uchod cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys ar gyfer cyllid gan Gyllid Myfyrwyr.
Pwy all wneud cais?
Er mwyn bod yn gymwys am gefnogaeth gyllidol y GIG, rhaid i fyfyrwyr gael eu derbyn am le a gyllidir gan y GIG ar gwrs llawn amser neu ran-amser, ar un o'r cyrsiau canlynol;
- Nyrsio Oedolion
- Nyrsio Plant
- Nyrsio Iechyd Meddwl
- Nyrsio Anabledd Dysgu
- Radiograffeg Diagnostig
- Bydwreigiaeth
Ffioedd Dysgu
Cymorth Ffioedd Dysgu i fyfyrwyr sy'n dewis cyllid GIG Cymru:
- Caiff y ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn rhai meddygol eu talu'n unionyrchol gan y GIG yn achos myfyrwyr sy'n dewis ymrwymo i weithio yng Nghymru am gyfnod o DDWY flynedd yn dilyn graddio felly nid oes angen i fyfyrwyr cymwys dalu ffioedd dysgu.
Cyllido eich Costau Byw
Mae'r cymorth ariannol gan GIG Cymru:
- Grant o £1,000 heb brawf modd
- Bwrsariaeth sylfaenol â phrawf modd o:-
- hyd at £2,643 (30 wythnos) ynghyd â £84 am bob wythnos ychwanegol (‘Cyfradd Mannau Eraill’ yw'r enw ar hyn, ac fe'i telir i fyfyrwyr sy'n byw i ffwrdd o gartref eu rhieni yn ystod y cwrs)
- hyd at £2,207 (30 wythnos) ynghyd â £54 am bob wythnos ychwanegol (‘Cyfradd Cartref Rhieni’ yw'r enw ar hyn, ac fe'i telir i fyfyrwyr sy'n byw yng nghartref eu rhieni yn ystod y cwrs)
Sut a phryd i wneud cais am gyllid GIG Cymru
- Bydd Uned Gwobrau Myfyrwyr GIG Cymru yn anfon ffurflen gais gychwynnol atoch.
- Ar ôl derbyn eich ffurflen gais gyflawn gyntaf, fe fydd ffurflen asesiad ariannol yn cael ei yrru atoch er mwyn gallu cyfrifo faint o fwrsariaeth rydych yn gymwys i’w dderbyn.
- Pan fydd hwn wedi ei gwblhau byddwch yn derbyn llythyr yn eich cynghori ar lefel eich grant, unrhyw gyfraniad rhiant neu briod, ac unrhyw gyfraniad at gostau teithio.
Benthyciadau Cynhaliaeth
Myfyrwyr o Gymru Ìý
Ìý |
Cychwyn yn 2024/25 |
Cychwyn yn 2023/24 |
Byw oddi gartref:ÌýÌýÌý |
£11,150Ìý |
£5,360Ìý |
Byw gartref hefo rhieni: |
£9,315Ìý |
£4,475Ìý |
- Gwnewch gais ar-lein neu lawrlwytho ffurflen bapur oddi ar:
Benthyciadau Cynhaliaeth i fyfyrwyr o LoegrÌý
Ìý |
Cychwyn yn 2024/25 |
Cychwyn yn 2023/24 |
Byw oddi gartref:ÌýÌýÌý |
£2,670Ìý |
£2,605 |
Byw gartref hefo rhieni: | £2,004 |
£1,955 |
- Gwnewch gais ar-lein neu lawrlwytho ffurflen bapur PN1oddi ar:
Manylion pellach
Cymorth Ariannol Ychwanegol
Yn ogystal, gall myfyrwyr wneud cais am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cyflawni meini prawf ychwanegol. Rhoddir y lwfansau hyn ar ôl prawf modd, sef:-
- Lwfansau Dibynyddion
- Lwfans Dysgu i Rieni
- Lwfans Gofal Plant
Cyllid i rai sy'n astudio ail radd israddedig
Bydd myfyrwyr sy'n mynd yn ôl i'r Brifysgol i astudio am ail radd yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol y GIG (cyllid ffioedd dysgu a bwrsariaeth prawf modd) ac benthyciad cynhaliaeth gostyngedig. Rhaid derbyn myfyrwyr i astudio yn un o'r cyrsiau israddedig uchod (gwelerÌýPwy all wneud cais?).
Costau Lleoliadau Clinigol/Ymarfer
Mae'n bosib y gall myfyrwyr hefyd dderbyn cymorth gyda chostau lleoliadau clinigol/ymarfer, yn dilyn prawf modd. Dylai myfyrwyr gysylltu â'u prifysgol am gyngor sut i hawlio costau lleoliadau clinigol/ymarfer.
Lwfansau Myfyrwyr Anabl
Mae'n bosib y gall myfyrwyr anabl sydd angen cymorth ychwanegol neu offer i gwblhau eu cwrs hefyd dderbyn cymorth dan y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Dylai myfyrwyr gysylltu â'u prifysgol am gyngor sut i hawlio Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Sut ydw i'n gwneud cais am Fwrsariaeth GIG a roddir drwy brawf modd?
Pan gynigir lle a gyllidir gan y GIG i chi, bydd eich coleg yn rhoi gwybod am y cynnig i Uned Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru. Bydd yr Uned yn anfon ffurflen gais gychwynnol atoch. Ar ôl i’ch ffurflen gais gychwynnol gael ei derbyn, anfonir ffurflen asesu ariannol atoch er mwyn medru cyfrifo'ch hawl i fwrsariaeth. Ar ôl llenwi hon, anfonir llythyr atoch yn rhoi gwybod am y grant yr ydych i’w chael, unrhyw gyfraniad a ddisgwylir gan rieni neu briod, ac unrhyw gyfraniad at deithio.
Manylion cyswllt
Uned Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru (Mae Uned Grantiau Myfyrwyr GIG Cymru yn gweithredu Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, sy’n rhoi cyllid i fyfyrwyr gofal iechyd ar gyrsiau a gyllidir gan y GIG yng Nghymru).
Ffôn: 029 2090 5380
Ebost: abm.sas@wales.nhs.uk
Wefan:
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.