Dewislen
- Beth yw cynghori?
- Pwy ydym ni?
- Beth ydym ni'n ei gynnig?
- Sesiynau Cefnogi
- Digwyddiadau
- Gwneud Apwyntiad
- Lle'r ydym ni / Oriau agor
- Help arall a linciau defnyddiol
- Cyfrinachedd
- Mynediad at gofnodion
- Datganiad Cydraddoldeb
- Poeni am Rhywun
- Beth mae ein myfyrywyr yn dweud am y Gwasanaeth
- Cysylltiadau Hunangymorth, Phodcastiau a APPS
- Taflenni Gwybodaeth
Beth ydym yn ei gynnig?
Deunyddiau Hunangymorth
Rydym wedi cynnwys cysylltau ar ein hafan i amrywiaeth o wefannau hunangymorth - llyfrau gwaith, cyrsiau ar-lein, phodcastiau and apps - yn cynnwys deunyddiau ar bryder, iselder, oedi, straen arholiad, profedigaeth, problemau cyffuriau ac yfed, anhwylderau bwyta, trais a phynciau eraill.
Rydym hefyd wedi paratoi taflenni gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, ac rydym yn gobeithio y byddent o ddefnydd i chi.
Gallai’r tudalennau hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol i chi cyn cysylltu â ni neu tra byddwch yn disgwyl i gael sesiynau rheolaidd gydag un o’n cwnselwyr. Gweler y dewislen.
Gweithdai a Darlithoedd gan y Gwasanaeth
Bydd ein Rhaglen Gweithdai a Darlithoedd ar faterion yn ymwneud ac iselder, pryder a straen arholiadau yn ail gychwyn mis Hydref 2022 ac fe fydd ar gael i holl fyfyriwr y Brifysgol.
Yn y cyfamser, os yr hoffech wybodaeth pellach ar unrhyw fater sydd yn eich pryderu, cysylltwch gyda ni ar wellbeingservices@bangor.ac.uk
Sesiynau Cefnogi
Yn ystod yr wythnos rydym yn cynnig sesiynau hanner awr i rai a fyddai'n hoffi peth cefnogaeth yn syth. Archebwch le ar y diwrnod gyda’r Gweinyddwr os gwelwch yn dda. Â
Sesiynau cwnsela unigol
Gwnewch gysylltiad gyda ni drwy wellbeingservices@bangor.ac.uk os yr hoffech drefnu asesiad/derbyn fwy o wybodaeth am sesiynau cynghori.
Yn yr apwyntiad gyntaf, byddwn yn gwrando ac yn sgwrsio gyda chi, a gyda'n gilydd byddwn yn dod i benderfyniad ynghylch yr hyn y gallwn ei gynnig a'r hyn fyddai orau ar gyfer eich anghenion. Pryd hynny gallwn argymell eich cyfeirio at fath arall o gymorth neu awgrymu un neu ragor o'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Yn dilyn hyn, efallai cewch gynnig nifer o apwyntiadau gyda chwnselydd. Fel rheol, ceisiwn weithio gyda'n cleientiaid dros gyfnod byr, ond rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn wahanol. Gall un sesiwn fod yn gymorth i un unigolyn, tra bod angen cymorth dros gyfnod hirach ar rywun arall. Bydd eich cwnselydd yn ceisio rhoi awgrym i chi o'r nifer sesiynau a gynigir i chi yn eich sesiwn gwnsela gyntaf. Nod y gwasanaeth yw bod yn ymatebol ac yn deg, ond gwaetha'r modd mae yna adegau pan fydd llawer o alw a'r pryd hynny mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar yr hyn y gallwn ei gynnig.