Gwybodaeth i Gyrff Cyllido ac Aseswyr Lwfans Myfyrwyr Anabl
Os hoffech ragor o wybodaeth am y manylion cyllido a amlinellir isod, cysylltwch â:
Cydlynydd Cymorth Anfeddygol, Gwasanaethau Anabledd, Gwasanaethau Myfyrwyr, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
Ffôn: 01248 383022 neu e-bostiwch: gwaithcefnogi@bangor.ac.uk.
PWYSIG
Ni waeth i ba ddarparwr y dyfernir y gefnogaeth cynorthwywr anfeddygol (NMH) gan y darparwr cyllid, mae'n hynod o bwysig bod y myfyrwyr yn cael eu cyfeirio i gofrestru â Gwasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor fel y gellir cydlynu eu cefnogaeth drwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol. Dylai myfyrwyr gael eu cyfeirio at gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk yn y lle cyntaf.
Darpariaeth Cymorth Anfeddygol ym Mhrifysgol Bangor - Sgiliau Astudio Un i Un Arbenigol a Cefnogaeth Strategaeth - Y cyfnod dan sylw - 01/04/2024 hyd at 31/03/2025
Mae tîm mewnol Prifysgol Bangor o diwtoriaid un-i-un arbenigol yn darparu Sgiliau Astudio Un i Un Arbenigol a Chymorth Strategaeth.
Mae'r tabl isod yn dangos cyfraddau NMH.
Nodyn: Dangosir Cyfraddau Cymorth NMH yr awr yn y tabl isod.
24/10/24 - Ar hyn o bryd nid oes gennym y gallu i gynnig Cefnogaeth Strategaeth a Sgiliau Astudio Un i Un Arbenigol (ASC) i fyfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr
Graddfa Safonol (wyneb yn wyneb) |
Cyfradd Safonol (O Bell, e.e. Timau) | Dysgu o bell yn unig (yn bersonol, adref) | |||||||
|
Net |
TAW |
Cyfanswm |
Net |
TAW |
Cyfanswm |
Net |
TAW |
Cyfanswm |
Hwyluswyr Hygyrchedd a Dysgu Arbenigol Band 4 |
|||||||||
Cefnogaeth Sgiliau Astudio Arbenigol un-i-un ac Cymorth Strategaeth - Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) |
£58.00 |
n/a |
£58.00 |
£58.00 | n/a |
£58.00 | |||
Cefnogaeth Sgiliau Astudio Arbenigol un-i-un ac Cymorth Strategaeth - Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) | £58.00 |
n/a |
£58.00 |
£58.00 | n/a |
£58.00 |
Darpariaeth Cymorth Anfeddygol ym Mhrifysgol Bangor
Mae Gwasanaethau Anabledd Prifysgol Bangor yn gallu darparu’r cymorth isod i fyfyrwyr sy’n astudio ar gampws Bangor ar gyfer yr holl gyrff cyllido nad oedd angen cofrestriad DSA-QAG arnynt gan gynnwys Cyllid Myfyrwyr Cymru.Cysylltwch â ni ynglŷn â chefnogaeth i fyfyrwyr sy'n astudio ar gampws Wrecsam.
Cyfraddau cymryd nodiadau Prifysgol Bangor: |
|
Cymryd nodiadau â llaw |
£19.98 yr awr (heb TAW) |
Cymryd nodiadau arbenigol |
£36.98 yr awr (heb TAW) |
Cefnogaeth Arweinydd â Golwg |
£19.98 yr awr (heb TAW) |
Cynorthwy-ydd Ymarferol |
£19.98 yr awr (heb TAW) |
Cynorthwy-ydd Llyfrgell | £19.98 yr awr (heb TAW) |
Cefnogaeth Symudedd Campws | £19.98 yr awr (heb TAW) |
Mentor Arbenigol |
£50.90 yr awr (heb TAW) |
Cefnogaeth Ymarferol Arbenigol | £26.96 yr awr (heb TAW) |
Darllenydd | £19.98 yr awr (heb TAW) |
Ysgrifennwr | £19.98 yr awr (heb TAW) |
Randstad Student Support
Mae gan Randstad Student Support gytundeb lefel gwasanaeth hirsefydlog â Phrifysgol Bangor ac maent yn gallu darparu cymorth anfeddygol, yn cynnwys cefnogaeth cymryd nodiadau, i Student Finance England.
Ewch i'w gwefan ar gyfer Cyfraddau Rhanbarthol Cymru am rolau chyfraddau codi tâl.
Cyswllt: Randstad Student Support, 5ed Llawr, 125 Deansgate, Manchester, M3 2BY
Tel: 0161 247 8800, Fax: 0845 130 2714.
Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau.
Darpariaeth Gynhwysol ym Mhrifysgol Bangor:
Recordio darlithoedd
Mae darpariaeth recordio darlithoedd ar Panopto ar gael yn yr holl ystafelloedd dysgu mawr. Mae Panopto yn rhoi cyfle rhagorol i leihau neu oresgyn rhwystrau sy'n wynebu llawer o fyfyrwyr, yn cynnwys myfyrwyr anabl, yn enwedig mewn darlithoedd o fath traddodiadol.
Wrth ddefnyddio Panopto gofynnir i staff dysgu ym Mhrifysgol Bangor recordio sain darlith fan leiaf a chadw sgrinluniau o'r sgriniau PowerPoint. Dylai'r sleidiau gydymffurfio â chanllawiau print clir y Brifysgol a dylid eu cyflwyno ar gyflymder addas.
Lle nad yw'r dulliau dysgu'n gydnaws â Panopto, bydd angen i staff dysgu ddefnyddio strategaethau cyfatebol ar gyfer darlithoedd a seminarau. Gallai’r rhain gynnwys:
-
Darparu cwestiynau allweddol, brasluniau sesiynau neu sleidiau PowerPoint o leiaf 24 awr cyn y dosbarth, lle bynnag y bo modd.
-
Darparu geiriau allweddol a fformiwlâu lle bo'n briodol (neu gyfeirio'r myfyriwr at destunau cefnogol/deunydd darllen priodol) o leiaf 24 awr cyn y dosbarth, lle bynnag y bo modd.
-
Cynllunio'r man dysgu a'r trefniadau eistedd yn y ffordd orau bosibl lle bo hynny'n bosibl wrth ddysgu grwpiau llai (e.e. er mwyn hwyluso pethau i fyfyriwr sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau).
Rhoi canllawiau clir ynghylch gwybodaeth ychwanegol/atodol y gall myfyrwyr eu defnyddio fel sail i astudiaeth bellach.
Meddalwedd Technoleg Gynorthwyol
Mae TextHelp Read and Write ac Inspiration 9 wedi ei osod ar gyfrifiaduron mynediad agored ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'r pecyn hwn ar gael i fyfyrwyr ei ddefnyddio ar y campws yn unig.
Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (CCDP)
Bydd CCDP myfyriwr yn nodi addasiadau rhesymol y mae angen eu gwneud ar gyfer myfyrwyr sy'n hysbys i'r Gwasanaethau Anabledd. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn: /regulations/codes/code11.php.cy a
/studentservices/disability/info_staff.php.cy
Diweddaru mis Hydref 2024