Sut i wneud eich Adnoddau yn Hygyrch
Canllawiau ar Argraffu Clir
Gofalwch bod eich HOLL fyfyrwyr yn medru defnyddio eich dogfennau!
Fformat:
- Defnyddiwch yr arddulliau penawdau a ddarperir. ÌýÌýMae’r rhain yn creu elfennau strwythurol i roi dilyniant ystyrlon sy’n neilltuol ddefnyddiol i ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol (er enghraifft: darllenyddion sgrin sy’n ‘siarad’ cynnwys sgrin).
- Mwya’i gyd gorau’i gyd. ÌýGofalwch bod eich testun yn fawr – yn ddelfrydol rhwng 12 a 18 pwynt, yn dibynnu ar y ffont (mae maint pwyntiau’n amrywio rhwng ffontiau).
- Dylai’r ffont a ddewiswch fod yn glir, gan osgoi unrhyw beth ffansi. Ìý
- Dylai’r holl destun fod wedi’i alinio â’r ymyl chwith. ÌýÌýPeidiwch ag unioni’r ochr dde. Ìý
- Gofalwch bod cynllun y testun yn glir, yn syml a chyson.
- Wrth ddefnyddio pwyntiau bwled a rhestrau, gofalwch fod atalnod (e.e. atalnod llawn, hanner colon neu goma) ar ddiwedd pob pwynt
- Bydd hyn yn galluogi defnyddiwr darllenydd sgrin i wahaniaethu rhwng gwahanol syniadau. ÌýHeb yr atalnodi hwn, darllenir gwahanol syniadau fel un frawddeg, heb oedi rhwng cysyniadau.
- Defnyddiwch brint trwm yn gynnil, gan amlygu ychydig eiriau ar y tro.
- Osgowch ddefnyddio blociau o BRIFLYTHRENNAU a rhai wedi’u hitaleiddio, a cheisiwch beidio â defnyddio unrhyw danlinellu.Ìý
- Ni ddylid gosod testun ar ben delweddau. Ìý
- Gofalwch bod digon o gyferbyniad lliw rhwng y testun a’r cefndir, gan gadw mewn cof na ddylid cael cyferbynnu rhy gryf i rai sy’n cael anghysur gyda’u golwg.
- Dylai’r holl destun fynd i’r un cyfeiriad ar y dudalen. Ìý
- Dylai lle gwag rhwng colofnau testun fod yn ddigon mawr i fod yn amlwg. Ìý
- Rhifwch y tudalennau.
Papur:
Osgowch bapur sgleiniog neu bapur sy’n adlewyrchu. Ìý
Gofalwch fod y papur yn ddigon trwchus fe na ellir gweld teip drwyddo. Ìý
Gwybodaeth weledol:
- Cofiwch y bydd defnyddwyr darllenyddion sgrin angen i unrhyw wybodaeth a gaiff ei chyfleu mewn lliw neu drwy ddelweddau gael ei disgrifio.Ìý ÌýÌýNodir hyn yng Nghynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) myfyrwyr ynghyd â chyfarwyddiadau. Ìý
Adnoddau dwyieithog
Wrth gynhyrchu adnoddau dwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am gyrsiau, taflenni a sleidiau PowerPoint, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu gweld y wybodaeth, mae angen gwahanu'r Gymraeg a'r Saesneg yn glir. Er enghraifft, dylech sicrhau bod o leiaf blwch un llinell glir rhwng y ddwy iaith. Gorau oll os allwch wahanu'r ieithoedd i wahanol adrannau. Dylid creu ffurflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg yn hytrach na chymysgu'r ieithoedd yn yr un ddogfen.
Mae hyn yn well o ran eu gwneud yn haws i'w darllen, ac mae hefyd yn ddefnyddiol pan fydd myfyrwyr eisiau argraffu deunyddiau yn eu dewis iaith.
04.05.2020