Judith Ainsworth - Bywyd fel myfyriwr hÅ·n ym Mhrifysgol Bangor
Mi wnes i adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau yn bymtheg oed a thros y blynyddoedd ro'n i'n jyglo bod yn fam i dri o blant efo gwahanol swyddi. Doedd gen i ddim llawer o amser hamdden, ond yn yr amser oedd gen i ro'n i'n darllen ac ysgrifennu ac mi es i sawl gwaith i ysgol haf yr adran Dysgu Gydol Oes.
Yn 55 oed, penderfynais fy mod i erbyn hyn wedi cynnal fy mhlant trwy Brifysgol a'u gweld yn dechrau ar eu taith trwy fywyd, ac mai fy nhro i oedd hi bellach i ddal i fyny â fy addysg. Ro'n i'n teimlo'n nerfus iawn, ond gyda chefnogaeth fy nhiwtor Dysgu Gydol Oes, fe wnes i gofrestru i wneud gradd Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Roedd o'n dipyn o sioc i'r system. Ro'n i'n teimlo'n eithaf diaddysg wrth ochr y bobl ifanc 'ma oedd newydd adael ysgol ar ôl gwneud lefel A. Ro'n i'n gwybod be allwn i ei wneud ac yn gwybod pa mor benderfynol ydw i felly fe wnes i fwrw iddi. Roedd y myfyrwyr iau yn meddwl amdana i fel unrhyw fyfyriwr arall ac mi wnes i sylweddoli mai'r unig reswm yr o'n i'n teimlo'n annigonol oherwydd fy niffyg hyder i fy hun gan i mi fod i ffwrdd o'r byd addysg mor hir.
Y rhwystr pennaf oedd cyrraedd lefel academaidd ddigonol wrth ysgrifennu aseiniadau. Do'n i erioed wedi gorfod cyflwyno traethawd o'r math yma o'r blaen. Roedd yr 'Ysgol Ysgrifennu' yn amyneddgar iawn efo fi wrth i fi weithio ar fy aseiniadau yn y flwyddyn gyntaf a thros rywfaint o'r ail flwyddyn nes i mi deimlo'n ddigon hyderus i'w gwneud ar fy mhen fy hun. Fedra i ddim diolch digon iddyn nhw ac mi fyddwn yn argymell i unrhyw fyfyriwr ar unrhyw lefel ymweld â'r adran hon, ond yn enwedig os oes cyfnod hir ers i chi fod mewn addysg ffurfiol.
Mae'r Ysgol Saesneg wedi rhoi cefnogaeth dda i fi trwy gydol y radd. Gallaf ddweud, â'm llaw ar fy nghalon, pryd bynnag y gwnes i ofyn am help roedd rhywun ar gael i fy helpu bob amser, os nad yr eiliad honno, yna yn hwyrach yn y dydd o leiaf.
Roedd y tiwtoriaid wastad yn fy ysbrydoli ac yn gefnogol ac ers graddio dwi wedi dilyn meysydd nad o'n i erioed wedi breuddwydio eu dilyn o'r blaen. Ar ôl gwneud y modiwl Literature in the Community, mae fy niddordeb mewn Dementia wedi parhau.
Hefyd, fe wnaeth y modiwl Welsh Writing in English fy ysbrydoli i ymchwilio i hanes fy nheulu. Rwyf wedi hel fy achau ar draws y byd gan mai dim ond fy nhad arhosodd yng Nghymru. Rwy'n gobeithio mai dyma fydd sail fy mhroject PhD ar ôl gorffen fy MA. Â
Byddwn yn annog pobl hŷn i wneud gradd. Nid dim ond y pethau y sonnir amdanyn nhw yn y prosbectws sy'n cael sylw ar y radd ond mae hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd eraill a fydd yn ehangu eich gorwelion a'ch dewisiadau at y dyfodol. Mae'n gwella eich hunanhyder, eich hunan-barch a'ch gwybodaeth gyffredinol ond hefyd mae'n gwella faint rydych yn ei wybod am werthoedd y genhedlaeth iau. Ar ôl treulio tair blynedd yng nghwmni'r bobl ifanc yma maen nhw wedi ehangu fy ngorwelion o ran gwerthfawrogi gwahanol werthoedd ac maen nhw wedi gwneud i mi deimlo'n rhan go iawn o ddiwylliant y brifysgol.
Mae'n rhaid wrth waith caled, a chadw at ddyddiadau cyflwyno, ac mae'n rhaid astudio mwy nag y byddech chi erioed wedi meddwl sy'n bosibl, a chofio bod yn rhaid gwneud hyn i gyd yng nghanol cyfrifoldebau eraill 'pobl hÅ·n'.
Mae wedi bod yn brofiad gwych a rhyfeddol - dw i wedi caru pob munud o'r cyfnod. Ar ddiwedd y cwrs mi fuon ni'n cofleidio, yn cyfnewid cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn cyn i bawb fynd ei ffordd ei hun. Mi gerddais i fyny at y cwad a ffonio fy ngŵr ac mi ddechreuodd y dagrau lifo, oherwydd fod y cyfnod wedi mynd heibio mor gyflym ac ohewydd y byddai gen i hiraeth.Â
Dylai unrhyw un sy'n ystyried rhoi eu hunain drwy hyn fachu ar y cyfle a mwynhau bob munud oherwydd mae amser yn hedfan ac fe fydd y cyfan ar ben cyn i chi sylwi.              Â