Stevie Fox: Fy mhrofiad i fel myfyriwr
Unwaith y gwnes i sylweddoli nad oedd dim o'i le â pheidio â gwybod pethau, a dod i delerau â'r ffaith fy mod i yn hŷn a derbyn nad oedd disgwyl i fi wybod beth ro'n i'n ei wneud, mi wnes i lwyddo i ymlacio a mwynhau'r holl brofiad o fod yn y Brifysgol. Unwaith i'r myfyrwyr iau yn y grŵp astudio roi'r gorau i fy nhrin i fel 'person hŷn' - hynny ydy - gofyn caniatâd i fynd i gael diod, neu ymddiheuro i mi am fod yn hwyr - ac unwaith y gallwn i roi'r gorau i ddweud pethau fel 'Dim fi ydy'ch tiwtor /mam / nain chi', myfyriwr dwi 'run fath â chi', ac fe ddechreuon nhw fy nghynnwys yn eu jôcs, eu sylwadau sarhaus a'u sgyrsiau cyffredinol - mi wnes i sylwi gymaint yr oedden ni yn hoffi ein gilydd, ac roedden ni'n cyd-dynnu'n wych. Byddwn yn gwahodd rhai ohonynt draw am swper go iawn bob hyn a hyn, ac yn eu tro roedden nhw yn fy helpu i efo fy nulliau astudio (mae sut maen nhw'n dysgu mewn ysgolion bellach mor wahanol i'r hyn y gwn i amdano) a fy ffôn symudol newydd. O ddifrif.
Un o'r pethau gorau am fod yn fyfyriwr hŷn yw bod gennych yr hyder a'r sgiliau bywyd sy'n gwneud i chi allu gofyn cwestiynau, dod at y pwynt yn gyflym a gwybod pryd nad ydych chi'n gwybod rhywbeth. Rydych yn ymwybodol o'r bylchau yn eich gwybodaeth, ac yn ddigon hyderus i fynd i'r afael â nhw efo'ch tiwtoriaid. Ddim i roi darlithoedd yn unig y mae eich tiwtoriaid yno. Mi wnân nhw bopeth o fewn eu gallu i'ch cefnogi ac maen nhw'n wirioneddol falch os ydych chi'n gofyn am help.
Peth arall y gwnes i ei fwynhau yn arw oedd bod yn Arweinydd Cyfoed, gan helpu i groesawu myfyrwyr newydd o bob oed a'u helpu i ymgartrefu. Ro'n i'n treulio lot o amser yn ystod y Penwythnos Croeso yng nghwmni rhieni, sydd wastad yn hapus i weld person hÅ·n yn cymryd eu plentyn dan eu hadain. Roedd hynny'n rhoi hyder i’r rhieni, ac ro'n i'n teimlo'n falch eu bod nhw'n ymddiried ynof fi i gadw llygad ar eu plant. (Yn y rhan fwyaf o achosion, doedd dim angen edrych ar eu holau ar ôl dechrau'r semester). Mi allwch chi wneud hyn ar ôl eich blwyddyn gyntaf - helpu i wneud argraff ar fyfyrwyr newydd.
Cymerwch ran mewn cymaint o bethau ag y gallwch o weithgareddau eraill ar wahân i astudio. Efallai na fyddwch eisiau camu i'r llwyfan, ond, da chi, ewch i weld rhai o gynyrchiadau'r myfyrwyr a chefnogi'r timau chwaraeon, ac ati. Mae yna glybiau a chymdeithasau ar gyfer pob dim. Os yw'r amser sydd gennych i wneud pethau allgyrsiol yn brin oherwydd ymrwymiadau eraill, mae 'na rywbeth yn digwydd yn rhywle drwy'r amser. Mae hyn i gyd yn ffordd o wneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned y myfyrwyr.Â
Cofiwch bob amser eich bod yn rhan o sefydliad rhyfeddol - manteisiwch i'r eithaf ar bob munud yno.Â
Eich Prifysgol chi yw hi, a bydd yn brofiad a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes. Yn anad dim - MWYNHEWCH EICH HUNAIN.
Awgrymiadau Stevie i Fyfyrwyr HÅ·n
- Peidiwch â meddwl y dylech chi wybod pethau dim ond oherwydd eich bod yn hŷn na rhai o'r myfyrwyr eraill yn eich grŵp. Mi fues i'n meddwl hynny - nes i mi sylweddoli…
- Does neb wedi dysgu hyn i fi eto.
- Peidiwch â gadael i'r myfyrwyr iau yn eich grŵp wneud i chi deimlo yn nerfus. Mwy na thebyg eu bod nhw hyd yn oed yn fwy nerfus ohonoch chi nag ydych chi ohonyn nhw.
- Mae gan bob un ohonoch yr un aseiniadau i'w gwneud a'r un dyddiadau cyflwyno.
- Rydych chi'n gwybod pethau nad ydyn nhw'n eu gwybod - cyllidebu, coginio, gofal iechyd ac ati.
- Maen nhw'n gwybod pethau nad ydych chi'n eu gwybod - technoleg, ffasiwn, cerddoriaeth ac ati.
- RHANNWCH EICH GWYBODAETH am bopeth - dysgwch gyda'ch gilydd. GWNEWCH FFRINDIAU.
- Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i'ch tiwtoriaid. Peidiwch â cheisio dyfalu eich ffordd trwy rywbeth nad ydych chi wir yn ei ddeall.
- Does dim angen i chi fod â chywilydd os oes bylchau yn eich addysg.
- Oni bai eich bod yn gofyn am help, bydd eich tiwtor yn tybio eich bod yn ymdopi.
- Os ydych yn cael trafferth - ewch i siarad â'ch tiwtor. Weithiau pethau go wahanol sy'n achosi pryder i fyfyrwyr hÅ·n - gofalon cartref a theulu, gofal plant, ac ati.Â
- Bodau dynol yw tiwtoriaid - maen nhw'n deall bod pethau eraill yn mynd â'ch amser hefyd.
- Os na allwch gyrraedd darlith/seminar - cysylltwch â'r swyddfa i roi gwybod iddynt. Peidiwch â dibynnu ar fyfyriwr arall i drosglwyddo neges - mi allan nhw anghofio.
- Os oes rhaid i chi fod yn absennol - gofynnwch i rywun a wnân nhw rannu eu nodiadau â chi er mwyn i chi gael dal i fyny â'r gwaith. Fydd dim un o'r darlithoedd yn cael eu hailadrodd.
- Prynwch recordydd llais a recordio eich darlithoedd (dylech ofyn am ganiatâd gan y darlithydd).Â
- Gallwch wrando arnynt eto ochr yn ochr â'ch nodiadau i ddatblygu eich gwybodaeth a pharatoi at eich arholiadau.
Mae hefyd yn ddefnyddiol i gael cofnod o unrhyw awgrymiadau am ddeunyddiau i'w darllen a gewch yn ystod y ddarlith. Fe ddaw'r geiriau atoch yn un llifeiriant.