Gwaith ac Iechyd
- Cyfrinachedd a Recordiau Meddygol
- Absenoldeb Salwch
- Ffurflenni Absenoldeb Salwch
- Defnyddwyr Sgrinniau Arddangos
- Teithwyr Tramor
- Edrych ar ôl eich llais
- Effaith eich Iechyd ac eich Gallu i Weithio
- Osgoi Afiechydon Cyffredin a Gwellhad
- Llwybrau i Iechyd o Absenoldeb Salwch
- Mae canser yn dod â llawer o bryderon - helpu i sicrhau nad yw gwaith yn un
- Gwybodaeth am Iechyd
- Cadw Golwg ar Iechyd
- Cyflyrau Iechyd Cysylltiedig a'r Gwaith a all effeithio ar yr Aelodau Uchaf
- Peryglon Cemegol, Biolegol neu Radiolegol
- Haint Bacteria a Firws
- Canllawiau ar y menopos a'r gweithle
Defnyddio Sgrinniau Arddangos
Un o’r peryglon mwyaf y gellwch ei gael o fewn y swyddfa yw'r cyfrifiadur (OSA) ac, wrth i lawer o weithwyr ddefnyddio cyfrifiaduron am ran helaeth o'u diwrnod gwaith, os oes unrhyw broblemau ynglŷn â’ch gweithfan neu’ch cyfrifiadur, gall hyn effeithio ar eich iechyd. Er y gall rhai symptomau fod dros dro (e.e. cur pen a straen ar y llygaid) os na chaiff y problemau ynglŷn â’r weithfan a’r dulliau gweithio eu datrys, gallant hefyd arwain at broblemau iechyd mwy difrifol a pharhaol, megis syndrom twnnel y carpws. Felly, mae’n bwysig eich bod yn gofalu amdanoch eich hun ac yn dilyn rhai camau hawdd ac ymarferol i sicrhau nad yw eich defnydd ar y cyfrifiadur yn eich rhoi mewn perygl.
Bwriedir i’r cyngor canlynol eich helpu i atal straen ailadroddus a’ch galluogi i weithio’n rhwyddach.
Gweithiwch yn gyffyrddus
Peidiwch â threfnu eich man gweithio mewn modd sy’n gwneud i chi dro ar ôl tro ysigo ymlaen i weld ac ymestyn am eitemau a ddefnyddiwch yn aml.
Defnyddiwch i’r eithaf unrhyw le gwag a fo gennych
Tynnwch unrhyw rwystr o dan eich desg sydd naill ai’n eich atal rhag eistedd yn syth neu sy’n cyfyngu ar le i'ch coesau.
Addaswch eich cadair droi
Addaswch ogwydd a/ neu uchder eich cynhalydd cefn i gynnal gwaelod y cefn.
Defnyddiwch fysellfwrdd cyffyrddus
Addaswch uchder eich sedd hyd nes bod eich breichiau fwy neu lai’n llorweddol.
Cynhaliwr traed
Os na allwch chi orffwys yn gyfforddus efo ddau droed yn wastad ar y llawr, defnyddiwch gynhaliwr traed.
Arddyrnau Syth
Peidiwch â phlygu eich arddyrnau wrth deipio.
Gofalwch am eich llygoden
Gosodwch eich llygoden yn union wrth ochr eich bysellfwrdd a defnyddiwch hi gydag arddwrn syth.
Sgrîn arddangos
Osgowch wddf anystwyth drwy addasu uchder eich sgrîn arddangos i lefel sy’n gyffyrddus i chi. Addaswch leoliad ac ongl y monitor i leihau unrhyw adlewyrchiadau ar y sgrîn. Cadwch y sgrîn yn lân ac addaswch reolyddion y disgleirdeb a’r cyferbynnedd fel y byddant yn gyffyrddus i chi.
- Os oes modd, gwnewch dasgau gwaith bob yn ail er mwyn i chi gael seibiant naturiol o waith bysellfwrdd, a chymerwch seibiannau bob hyn a hyn. Bydd eich cyhyrau’n llai blinedig os byddwch yn estyn eich breichiau a’ch coesau!
- Ac os ydych yn cael unrhyw anhawster i gadw o fewn eich terfynau amser ac yn teimlo dan straen, siaradwch â'ch Rheolwr!
Am ragor o wybodaeth am waith ar sgriniau arddangos, ewch i'r dudalen Gwybodaeth am OSA