Gwaith ac Iechyd
- Cyfrinachedd a Recordiau Meddygol
- Absenoldeb Salwch
- Ffurflenni Absenoldeb Salwch
- Defnyddwyr Sgrinniau Arddangos
- Teithwyr Tramor
- Edrych ar ôl eich llais
- Effaith eich Iechyd ac eich Gallu i Weithio
- Osgoi Afiechydon Cyffredin a Gwellhad
- Llwybrau i Iechyd o Absenoldeb Salwch
- Mae canser yn dod â llawer o bryderon - helpu i sicrhau nad yw gwaith yn un
- Gwybodaeth am Iechyd
- Cadw Golwg ar Iechyd
- Cyflyrau Iechyd Cysylltiedig a'r Gwaith a all effeithio ar yr Aelodau Uchaf
- Peryglon Cemegol, Biolegol neu Radiolegol
- Haint Bacteria a Firws
- Canllawiau ar y menopos a'r gweithle
Chyfrinachedd Meddygol, Cofnodion Iechyd yn y Gwaith ac Adroddiadau
1. Cyffredinol
Gall aelodau staff neu eu cynrychiolwyr wneud cais am weld eu cofnodion iechyd galwedigaethol, a gedwir gan Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, neu a ddarperir drwyddynt. Fel rheol mae angen gwneud cais ysgrifenedig am hyn.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 ac, mewn rhai achosion y Ddeddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol, yn rhoi'r hawl i unigolion gael gweld gwybodaeth bersonol sydd gan y Brifysgol amdanynt. Gellir mynd at gofnodion o fewn terfynau amser penodol unwaith y bydd y 'rheolydd data' yn sicr bod ganddynt hawl i weld y cofnod.
Gellwch wneud hyn drwy wneud cais i'r Swyddfa Cynllunio a Llywodraethu yma.
2. Adroddiadau neu Gofnodion Meddygol / Iechyd - Caniatâd Ysgrifenedig
O bryd i’w gilydd gall y Brifysgol gael rheswm dros ofyn am adroddiadau arbenigol gan weithiwr meddygol proffesiynol ar iechyd aelod staff a’i effaith ar eu gwaith.
Pan wneir cais am adroddiad mae angen caniatâd yr aelod staff, y cyfeirir ato fel "caniatâd claf", cyn i gais gael ei wneud.
Sylwer: er 2009 yn unol â chanllawiau arfer da ar gyfrinachedd a ddarparwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC), cynghorir Gweithwyr Iechyd Galwedigaethol Proffesiynol pan fo’r cyflogwr yn gwneud cais am Adroddiad Meddygol ar aelod staff, mae angen caniatâd ysgrifenedig pendant cyn datgelu gwybodaeth feddygol i ddibenion ac eithrio darparu ar gyfer eu gofal, megis yswiriant neu geisiadau am fuddion.
Os yw aelod staff yn gwrthod â rhoi caniatâd i Adroddiad Meddygol gael ei lunio a’i ddarparu wedi hynny i’r rheolwr perthnasol ac i Adnoddau Dynol, yna bydd unrhyw wybodaeth yn ymwneud â risgiau a nodwyd, neu addasiadau a argymhellir, yn dal i gael eu hanfon at y rheolwr a’r Swyddog Adnoddau Dynol, ond ni chaiff unrhyw fanylion neu wybodaeth feddygol ei rhyddhau, fel bo’n briodol.
• Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
Er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr a phobl eraill efallai y bydd angen cael caniatâd staff i ryddhau’n gyfyngedig wybodaeth sydd, fel arall, yn gyfrinachol, i bartïon perthnasol. Lle nad oes modd caniatâd i ryddhau gwybodaeth gyfrinachol , yna bydd cyngor cyffredinol yn cael ei roi, yn ddigonol i sicrhau iechyd a diogelwch. Mewn rhai achosion gall hyn olygu atal dyletswyddau penodol.
3. Cyfrinachedd
Mae gan y Iechyd a Diogelwch gofnodion ac adroddiadau iechyd galwedigaethol holl aelodau staff cyfredol. Mae'n cael ei staffio gan Ymarferydd Nyrsio cofrestredig sy'n darparu gwasanaeth cyfrinachol, a gweithwyr proffesiynol eraill y mae'n rhaid iddynt gadw at y gweithdrefnau cyfrinachedd.
Mae hyn yn sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin fel gwybodaeth gyfrinachol feddygol ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo, oni bai bod gweithiwr yn rhoi caniatâd. Yr eithriad i hyn yw lle ceir gwybodaeth a allai beri risg sylweddol i iechyd a diogelwch yr unigolyn neu eraill.
4. Safonau Proffesiynol
Mae Prifysgol Bangor, drwy ei Hymarferwr Iechyd Galwedigaethol, wedi ymrwymo i gadw at god ymddygiad caeth a lywodraethir gan gyrff proffesiynol.
5. Dogfennau Arweiniad
Bydd y Iechyd a Diogelwch, drwy'r Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol, yn dilyn safonau diweddar a chanllawiau ar gyfer ymarfer yn unol â'r dogfennau enghreifftiol canlynol a restrir isod:
Cod Ymddygiad Proffesiynol yr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth: Safonau Proffesiynol Ymarfer ac Ymddygiad ar gyfer Nyrsys a Bydwragedd 2015
( - darllenwyd ar 3ydd Hydref 2016)
Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) Adolygiad arweiniad ar Cyfrinachedd (2009)
( - darllenwyd ar 3ydd Hydref 2016)
Deddf Cydraddoldeb 2010
( - darllenwyd ar 3ydd Hydref 2016)
Rheoli Absenoldeb Salwch Tymor Hir ac Analluogrwydd i Weithio, Canllawiau Iechyd y Cyhoedd NICE 2009
( - darllenwyd ar 3ydd Hydref 2016)
Pecyn Cymorth Rheoli Absenoldeb HSE
( - darllenwyd ar 3ydd Hydref 2016)
6. Cofnodion Absenoldeb Salwch
Mae gwybodaeth am gael mynediad at Gofnodion Absenoldeb Salwch ar gael yn y ddogfen ganlynol ddogfen ganlynol.