Canllawiau i Ddarparwyr Allanol Cymorth An-feddygol (NMH)
Rhagarweiniad
Rhaid i ddarparwyr Cymorth An-feddygol (NMH) gadw at safonau'r Fframwaith Sicrhau Ansawdd Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA-QAF), a sicrhau bod holl bolisïau a dulliau gweithredu wedi'u sefydlu, eu bod yn cael eu rhannu â'r myfyriwr, ac ar gael i'r brifysgol.ÌýÌý
Mae ar y Grŵp Sicrhau Ansawdd DSA (DSA-QAG) angen i ddarparwyr allanol NMH sefydlu trefniadau adrodd â Sefydliadau Addysg Uwch (HEIs) i roi gwybod iddynt am y gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'w myfyrwyr.ÌýÌý Rhaid iddynt egluro pwysigrwydd y trefniadau adrodd wrth fyfyrwyr, ac annog myfyrwyr i roi caniatâd i wybodaeth gael ei rhannu.ÌýÌý Rhaid i ddarparwyr allanol hefyd ymgyfarwyddo â'r wybodaeth a ddarperir gan yr HEI (gweler isod) ynghylch rhoi gwasanaethau NMH i'w myfyrwyr, a sicrhau bod eu gweithwyr NMH yn derbyn y wybodaeth hon.
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi fframwaith ar gyfer gweithgareddau gweithredol er mwyn sicrhau fod pawb yn ymwybodol o'r safonau a ddisgwylir ganddynt.
Cyfathrebu ac Adborth
Gwasanaethau Anabledd
Mae'r Gwasanaethau Anabledd yn rhan o'r Gwasanaethau Myfyrwyr ac yn cydweithio â rhwydwaith o Diwtoriaid Anabledd ar draws ysgolion ac adrannau academaidd i hwyluso amgylchedd dysgu hygyrch a chynhwysol i fyfyrwyr anabl.ÌýÌý Mae Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP) yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gweithredu.ÌýÌý Ceir mwy o wybodaeth am swyddogaethau a chyfrifoldebau yn:Ìý/studentservices/disability/index.php.cy
Y Rheolwr Cymorth Anabledd yw'r pwynt cyswllt penodedig i ddarparwyr allanol NMH.ÌýÌý Dylai gwybodaeth am ddarpariaeth allanol NMH gael ei hanfon i gyfeiriad e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Cyfrifoldebau Darparwyr Allanol Cymorth An-feddygol (NMH):
Rhaid i ddarparwyr allanol NMH wneud y canlynol:
- Rhoi gwybod i'r brifysgol os ydych yn rhoi cefnogaeth i'n myfyrwyr, yn cynnwys yr unigolyn penodedig yn y sefydliad (yn cynnwys manylion cyswllt) y gallwn gysylltu ag ef/â hi gydag unrhyw ymholiadau'n ymwneud â chefnogi myfyrwyr.
- Lle mae myfyrwyr yn cael cyllid DSA, disgwylir iddynt rannu eu Hadroddiad Asesu Anghenion gyda'r brifysgol a dylai'r darparwr allanol roi gwybod i fyfyrwyr am hyn a hwyluso'r gweithgaredd hwn gyda'r brifysgol fel bo'r angen.
- Sicrhau bod cyllid ar gael cyn dechrau sesiynau â myfyriwr, monitro'r defnydd o'r oriau a bennir, a sicrhau nad yw myfyrwyr yn rhedeg allan o gyllid (nid yw Prifysgol Bangor yn atebol am unrhyw daliadau y mae'r SFE yn gwrthod eu talu).Ìý
- Trefnu ystafelloedd cyfarfod addas ar gyfer sesiynau cefnogi.Ìý
- Cyfeirio myfyrwyr yn ôl at y Cynghorwr Anabledd / SpLD / Iechyd Meddwl neu ysgol academaidd i drafod unrhyw faterion yn ymwneud â gwasanaethau prifysgol neu eu cwrs.ÌýÌý Dylai myfyrwyr gydag ymholiadau'n ymwneud â'u cefnogaeth anabledd gysylltu â ni eu hunain.ÌýÌý Nid ydym yn annog gweithwyr NMH i gyfryngu dros fyfyrwyr.ÌýÌý Yn aml y ffordd orau i fyfyrwyr gysylltu â ni yw drwy e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffonio: 01248 382032
- Cysylltu'n syth â'r Gwasanaethau Anabledd gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk os bydd unrhyw bryderon yn codi o ran ymwneud â'r gefnogaeth, lles, diogelwch, neu gynnydd academaidd, fel y gellir rhoi sylw prydlon iddynt.ÌýÌý
- Darparu adroddiad cryno ar ddiwedd pob semester (diwedd Ionawr a Mai) i bob myfyriwr sy'n derbyn cefnogaeth band 4. Dylai hwn gynnwys:ÌýÌý
- enw'r myfyriwr/myfyrwyr a rhif CRN;
- enw'r gweithiwr/gweithwyr allanol NMH;Ìý
- disgrifiad byr o’r gefnogaeth a roddwyd;
- dyddiad y dechreuodd y gefnogaeth;Ìý
- nifer sesiynau / oriau o gefnogaeth a roddwyd y tymor hwnnw, a chyfanswm am y flwyddyn hyd yma;Ìý
- lleoliad y gefnogaeth a roddir;Ìý
- gwybodaeth am unrhyw faterion y mae angen i'r brifysgol wybod amdanynt neu fynd ar eu hôl.
Lle bynnag y bo modd, rydym eisiau i wybodaeth gael ei rhannu'n electronig mewn fformat diogel.
- Darparu copïau o unrhyw bolisïau perthnasol os gofynnir amdanynt.
- Rhoi gwybodaeth i'r brifysgol ar sut i roi adborth ar sail ad hoc.Ìý
Mynediad i Brifysgol Bangor i weithwyr allanol NMH
Ymweld a Pharcio
Nid yw Prifysgol Bangor yn brifysgol ar un campws ac mae lleoedd parcio'n gyfyngedig iawn.ÌýÌýÌý Anogir ymwelwyr i ddefnyddio meysydd parcio cyhoeddus gerllaw.ÌýÌý Gall deiliaid bathodynnau glas drefnu parcio drwy gysylltu â parking@bangor.ac.ukÌý Ìý
Mae gwybodaeth ynghylch ymweld a sut i fynd o gwmpas i'w chael yn:Ìý
/mapcampws
Mae taflen y brifysgol, Mynd o Gwmpas Bangor, hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar fynd i adeiladau:Ìý
/studentservices/guide/index.php.cy
Mannau y gellir eu harchebu i gynnal cyfarfodydd cyfrinachol
Mae darparwyr allanol yn gyfrifol am ddarparu cyfleusterau cyfarfod addas sy'n gyfforddus, cyfrinachol a chymryd i ystyriaeth anghenion myfyrwyr yn gysylltiedig ag anabledd.ÌýÌýMae myfyrwyr yn gallu archebu ystafelloedd cyfarfod y Brifysgol, fodd bynnag, mae'r rhain yn gyfyngedig iawn mewn argaeledd. ÌýGall darparwyr allanol gysylltu â Gwasanaethau Datblygu Busnes y brifysgol am wybodaeth ar logi ystafelloedd:
/commercial-services/conferencing.php.cyÌý
/management_centre/photogallery/categories/conference/conference.php.cy
Dim ond mannau y mae arnynt angen mynd iddynt fel rhan o'u cefnogaeth NMH y cytunwyd arni y dylai gweithwyr NMH allanol fynd iddynt.ÌýÌý Ni ddylent fynd i mewn i unrhyw weithdai, labordai neu fannau peryglus eraill oni bai eu bod yn cael caniatâd penodol gan staff y brifysgol, ac wedyn dim ond pan maent yn cael eu goruchwylio a gwisgo dillad/offer diogelwch priodol (nas darperir gan y brifysgol).
Mynediad gweithwyr cefnogi at ddeunyddiau ar-lein (addysgu ar-lein)
Caiff hyn ei asesu ar sail unigol gan roi ystyriaeth i anghenion unigol y myfyriwr sy'n cael ei gefnogi, y gweithgaredd dysgu a'r cymorth anfeddygol a asesir. Cysylltwch â'n cydlynydd cymorth anfeddygol am wybodaeth bellach.
Mynediad i Lyfrgelloedd
Gweler:Ìý /library/visitor/visitor.php.cy
Lleoedd i fwyta ac yfed ym Mhrifysgol Bangor:
Gweler:Ìý /commercial-services/index.php.cy
Gwybodaeth am Iechyd a Diogelwch
Gweler:Ìý /hss/visitors.php.cy
Mae dyletswydd ar weithwyr NMH i ymgyfarwyddo â threfniadau argyfwng ar gyfer yr adeilad (fel y dangosir ar arwyddion gweithredu mewn argyfwng).ÌýÌý Pe bai larwm argyfwng yn seinio, mae'n rhaid i weithwyr NMH adael yr adeilad yn syth yn unol â chyfarwyddiadau.ÌýÌý
Gwasanaeth Diogelwch
Mae is-adran Diogelwch yr Adran Gwasanaethau Campws ac Eiddo yn cynnwys tîm o unigolion wedi'u hyfforddi'n dda sy'n gyfrifol am ddiogelwch myfyrwyr, staff ac ymwelwyr, yn ogystal ag ystâd y brifysgol.
Rhaid rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Diogelwch am unrhyw ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd argyfwng, gweler:Ìý /eo/security.php.cy Ìýam rifau ffôn.
Delio ag Argyfwng Iechyd Meddwl
Gweler:Ìý /studentservices/mentalhealth/emergency.php.cy
Gwasanaethau/Polisïau Prifysgol Bangor perthnasol i Ddarparwyr a Gweithwyr NMH Allanol
Math |
Ffynhonnell |
Gwasanaethau Myfyrwyr |
|
Gwasanaethau AnableddÌý |
|
Polisïau a Dulliau Gweithredu |
|
Wedi'i ddiweddaru mis Awst 2024