Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr
Myfyrwyr Wrecsam
Croeso i dudalen we'r Gwasanaeth Cynghori ar gyfer Myfyrwyr Wrecsam.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori ar gael i'ch cefnogi ar-lein.
Rydym yn cynnig sesiynau cefnogaeth sain / fideo, y gellir eu harchebu ar y diwrnod y byddwch chi'n cysylltu â ni, ac asesiadau ar-lein a sesiynau cwnsela. Mae'r rhain i gyd yn digwydd trwy Microsoft Teams.
Rydym wedi symud i ddarparu gwasanaethau ar-lein, felly bydd llawer o'n grwpiau a'n gweithdai ar gael i chi hefyd.
Edrychwch ar y wybodaeth ar ein dewislen, a gweddill tudalennau gwe'r Gwasanaeth Cynghori i gael mwy o wybodaeth.
Mae Sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi profi i fod yn boblogaidd iawn gyda gweithwyr gofal iechyd yn ystod y pandemig COVID – felly ystyriwch gofrestru ar gyfer ein sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol.
Gweler tudalennau ychwanegol am restrau cynhwysfawr o ganllawiau hunangymorth, ac hefyd, Adnoddau Ar-lein Iechyd Meddwl y Brifysgol.
Sylwch nad ydym yn wasanaeth brys. Nid ydym yn rhedeg gwasanaeth y tu allan i oriau. Os yw eich sefyllfa yn fater o argyfwng, dylid cysylltu â'ch Meddyg Teulu neu, tu allan i oriau gwaith arferol, dylid cysylltu gyda'r Gwasanaeth Argyfwng a Damweiniau yn eich ysbyty lleol. Gweler ein rhestr o gysylltiadau brys am ffynonellau cymorth eraill.
Dylid cyfeirio pob ymholiad / cais archebu at cynghori@bangor.ac.uk - bydd Helen Williams, ein Rheolwr Swyddfa, yn hapus i'ch helpu chi.