Diogelwch Offer a Pheirianneg
Mae'r dudalen hon yn amlinellu gofynion y Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith (PUWER) ac yn disgrifio'r hyn y gallai fod rhaid i ni ei wneud i ddiogelu pobl yn y gwaith.
Offer a'r gyfraith
Mae’r Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith yn mynnu bod yr offer a ddarperir i'w ddefnyddio yn y gwaith bodloni’r gofynion canlynol:
- yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd
- yn ddiogel i'w ddefnyddio, yn cael ei gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel a'i archwilio i sicrhau ei fod wedi ei osod yn gywir ac nad yw'n dirywio wedi hynny
- yn cael eu defnyddio gan bobl sydd wedi cael gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant digonol yn unig
- yn cael eu defnyddio ynghyd â mesurau iechyd a diogelwch addas, megis dyfeisiau a rheolyddion diogelu. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys dyfeisiau stopio brys, dulliau digonol o ynysu oddi wrth ffynonellau ynni, marciau a dyfeisiau rhybuddio sy'n amlwg yn weladwy
- yn cael eu defnyddio’n unol â gofynion penodol, ar gyfer offer gwaith symudol a gweisg pŵer
Hyfforddiant
Mae darparu hyfforddiant a chyfarwyddiadau addas yn rhan hanfodol o ddiogelwch offer a pheirianneg. Rhaid i bob proses ystyried yr angen am hyfforddiant defnyddwyr ac am weithdrefnau gweithio diogel ynghyd â dogfennau sy’n cyd-fynd â hwy (gweithdrefnau gweithredu safonol). Dylai eich asesiad risg ystyried gofynion hyfforddi ar ôl i chi weithredu'r hierarchaeth neu'r rheolaeth risg (e.e. cael gwared ar risg sylweddol neu liniaru risg o'r fath trwy reolaethau corfforol) ar gyfer offer.
Nodyn: Defnydd diogel o dâp Emery
Mae adegau pan ddymunir defnyddio tâp emery i sgleinio neu lanhau eitem ar durn neu offer cylchdroi arall. Mae llawer o beryglon wedi eu nodi sy’n gysylltiedig â'r arfer hwn a pholisi'r brifysgol yw y dylid ystyried defnyddio tâp emery dim ond os nad oes unrhyw opsiynau rhesymol eraill ac os felly, rhaid i’r defnydd yn amlwg ddilyn taflen wybodaeth yr HSE ar "". Ar gyfer turnau cyfrifiaduron a reolir yn rhifiadol (CNC) NI ddylid BYTH ddefnyddio brethyn Emery yn uniongyrchol â llaw na thrwy ddefnyddio bwrdd cefn neu ddyfais ddal debyg.
Cynhyrchu / Cydosod Offer
Mae llawer o raglenni gradd a phrojectau ymchwil yn cynnwys cydosod cydrannau, ac addasu neu greu offer arbenigol i gyflawni swyddogaeth benodol. Gall y gyfraith ynglÅ·n ag offer o'r fath fod yn gymhleth, er mai gofyniad sylfaenol yw'r angen i ystyried, trwy asesiad risg, y rheolaethau a'r mesurau diogelwch y byddwch yn eu sefydlu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risgiau sylweddol i'r defnyddiwr nac eraill (e.e. risg fecanyddol neu drydanol, amlygiad UV, ac ati). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ofynion iechyd a diogelwch hanfodol .
Pa offer sy'n dod o dan y rheoliadau?
Yn gyffredinol, mae pob eitem o offer yn y brifysgol yn dod o dan y rheoliadau, er enghraifft morthwylion, cyllyll, ystolion, peiriannau drilio, gweisg pŵer, llifiau crwn, llungopiwyr, offer codi (gan gynnwys lifftiau), cyfarpar wedi ei osod neu ei gynhyrchu yn benodol ar gyfer project, a hyd yn oed modur cerbydau.
Yn yr un modd, os yw'r brifysgol yn caniatáu i bobl ddarparu eu hoffer eu hunain yna bydd hefyd yn dod o dan y Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith a bydd rhaid i chi sicrhau ei fod yn cydymffurfio, ei fod yn ddiogel ac yn addas..