Rhagarweiniad
Wrth brynu offer newydd (gan gynnwys peiriannau), mae'n ofynnol i ni sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau cyflenwi perthnasol, bod gennym ddatganiad cydymffurfio neu fynediad at un, ac wedi cael cyfarwyddiadau defnyddiwr yn Saesneg; a sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg amlwg iddo (fel gardiau coll).
Gall fod yn ddigon anodd gwirio hyn wrth brynu gan gyflenwyr yn y Deyrnas Unedig (Cymru, Lloegr a’r Alban) ond mae popeth yn mynd yn fwy cymhleth wrth brynu offer o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Prynu nwyddau o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig
Anogir colegau a gwasanaethau proffesiynol i brynu nwyddau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE (gan gynnwys gwledydd yr UE a Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, a Norwy)). Mae hyn oherwydd ei fod yn symlach o ran cludo nwyddau trwy'r tollau ac oherwydd y safonau sy'n rhaid eu bodloni wrth roi eitemau ar y farchnad i'w gwerthu, ac mae hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd bod y nwyddau'n bodloni safon diogelwch addas.
Marc UKCA
Yn dilyn Brexit, penderfynodd y llywodraeth y byddai newid yn y marc CE ac o 1 Ionawr 2025 dim ond eitemau â marc UKCA arnynt fyddai’n cael eu derbyn yn y Deyrnas Unedig.
FODD BYNNAG – NEWID PWYSIG
Ar 1 Awst 2023, datganodd y llywodraeth ei bwriad i ymestyn cydnabyddiaeth o'r marc CE ar y rhan fwyaf o nwyddau ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, am gyfnod amhenodol, y tu hwnt i fis Rhagfyr 2024. Mae'r diweddariadau hyn yn berthnasol i'r 18 o reoliadau sy'n dod o dan yr Adran Fusnes a Masnach (DBT). Y rhain yw:
-
teganau
-
pyrotechneg
-
cychod hamdden a badau dŵr personol
-
llongau gwasgedd syml
-
cydnawsedd electromagnetig
-
offerynnau pwyso anawtomatig
-
offer mesur
-
poteli mesur cynhwysion
-
lifftiau
-
offer ar gyfer atmosfferau a allai fod yn ffrwydrol (ATEX)
-
offer radio
-
offer pwysedd
-
cyfarpar diogelu personol
-
cyfarpar nwy
-
peiriannau
-
offer i'w defnyddio yn yr awyr agored
-
aerosolau
-
offer trydanol foltedd isel
SYLWER: Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i ddyfeisiau meddygol, cynhyrchion adeiladu, ceblau, offer pwysedd cludadwy, systemau awyrennau di-griw, cynhyrchion rheilffyrdd, offer morol ac ecoddylunio. Bydd yr adrannau perthnasol sy'n cynnwys y sectorau hyn wedi cyfathrebu, neu'n cyfathrebu, eu cynlluniau maes o law.
Beth mae hyn yn ei olygu? Marc CE a marc UKCA
Mae’n golygu, yn y 18 maes a nodir uchod, y bydd cwmnïau Prydeinig yn gallu dewis defnyddio’r marc UKCA newydd neu gadw’r marc CE (sy’n ofynnol os ydynt yn dymuno gwerthu eu cynnyrch yn yr UE) trwy wneud cais i gael achredu eu cynnyrch gan gorff Ewropeaidd achrededig. Felly, gall colegau/gwasanaethau weld marc CE neu farc UKCA neu gymysgedd o’r ddau ar nwyddau a brynwyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd angen marc CE o hyd ar nwyddau o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig oherwydd cyfreithiau’r UE.
A yw'r marc CE / UKCA yn gwarantu diogelwch?
Drwy osod marc UKCA a/neu CE, mae'r gwneuthurwr yn honni bod y peiriannau'n cydymffurfio â'r gyfraith. Fodd bynnag, nid yw marc yn gwarantu diogelwch a dylech barhau i gynnal gwiriadau sylfaenol i sicrhau bod yr eitem yn ddiogel cyn ei defnyddio am y tro cyntaf. Er enghraifft, nid oes dim ar goll, mae giardiau yn eu lle, mae labeli rhybuddio yn cael eu harddangos, mae'r canllawiau defnyddiwr cywir wedi eu darparu yn Saesneg, mae ceblau a phwyntiau cysylltu yn gadarn, mae cloeon diogelwch yn gweithio.
Beth am Allforion o Tsieina?
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi defnyddio presenoldeb marc CE fel dangosydd diogelwch gan ein bod yn tybio ei fod yn dangos bod y nwyddau neu'r offer yn bodloni safonau perthnasol a llym yr Undeb Ewropeaidd.
Yn anffodus, daeth rhai prifysgolion yn ymwybodol o farc tebyg y gallai'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr a hyd yn oed gwerthwyr ei gamgymryd fel marc CE yr Undeb Ewropeaidd ond a oedd yn wahanol. Roedd y marc CE amgen hwn yn golygu "China Export" a dim ond yn golygu bod y cynnyrch wedi ei weithgynhyrchu yn Tsieina. Mae'n bwysig bod staff/myfyrwyr yn deall nad yw'r marc hwn yn awgrymu bod yr offer yn ddiogel ac yn cydymffurfio â safonau i werthu yn y farchnad Ewropeaidd.
Rhagwelir y gallai problemau godi hefyd gyda chynhyrchion â marc ffug / twyllodrus UKCA.