Diogelwch yn y Labordy - Defnyddio Offer yn Ddiogel
Nid sylweddau peryglus yw'r unig risgiau wrth weithio mewn labordai. Mae hefyd nifer o eitemau o offer, a all achosi anafiadau os na ch芒nt eu defnyddio'n iawn, ac mewn rhai amgylchiadau gallant hyd yn oed beri difrod i eiddo.
Er mwyn eich helpu chi ddefnyddio'r offer mwyaf cymhleth, lluniwyd y Taflenni Gwybodaeth canlynol ac Asesiad Risg Enghreifftiol y Labordy. Y gobaith yw y bydd y rhain yn rhoi arweiniad ymarferol manwl i'r staff a'r myfyrwyr yngl欧n 芒 defnyddio eitemau penodol o offer y labordy'n ddiogel.
Caiff Taflenni Gwybodaeth "Diogelwch y Labordy" eu hychwanegu fel bo'n briodol.
- Asesiad Risg Enghreifftiol y Labordy
- Taflen Wybodaeth 1 - Labordy Diogel: Gwybodaeth Gyffredinol
- Taflen Wybodaeth 2 - Diogelwch Trydanol
- Taflen Wybodaeth 3 - Defnyddio Microdonnau'n Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 4 - Defnyddio Ffyrnau Aerglos yn Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 5 - Defnyddio Microdonnau'n Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 6 - Defnyddio Lwfrau Gwyntyllu'n Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 7 - Trin a Defnyddio Silindrau Nwy Cywasgedig yn Ddiogel
(Cewch ganllawiau pellach ar Silindrau Nwy yma) - Taflen Wybodaeth 8 - Defnyddio Allgyrchyddion Cyflym Iawn yn Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 9 - Trin a Defnyddio Nitrogen Hylifol yn Ddiogel
- Systemau Echdynnu Hunangynhwysol a Chylchol
HYSBYSIAD ARBENNIG
Systemau Echdynnu Hunangynhwysol
Gwyddoch am y rheidrwydd i brofi a chynnal a chadw'r holl systemau 鈥渁wyru a gwac谩u lleol鈥 (LEV) cymwys o dan Reoliadau COSHH a gwyddoch hefyd fod angen cynnal y profion hynny o leiaf unwaith bob 14 mis. Ar gyfer systemau pibellog, fel y cypyrddau gwyntyllu traddodiadol, sydd fel arfer 芒 phibellau sy'n gwac谩u ar y to, bydd yr ystadau (Gwasanaethau Campws) fel arfer yn ymgymryd 芒'r gwasanaeth hwn ar eich rhan (gwerthfawrogir bod gan rai systemau echdynnu gronynnol yn y gweithdai drefniadau gwahanol).
Ar gyfer y mwyafrif o 鈥渟ystemau pibellog鈥 (gyda rhai eithriadau lleol) y cyfan sy'n ofynnol yn gyffredinol gan yr Ysgolion a'r Adrannau yw i geisio cadarnhad bod y Cwpwrdd Gwyntyllu (er enghraifft) 鈥測n dal o fewn dyddiad y prawf鈥, ei ddefnyddio'n gywir a sicrhau bod yr unedau oll yn gweithio'n ddiogel yn barhaus, fel y nodir yn Nhaflen Wybodaeth 6 (gweler uchod).
Fodd bynnag, dros y blynyddoedd prynodd llawer o Ysgolion ac Adrannau systemau/cypyrddau echdynnu hidlo hunangynhwysol, nad ydynt yn bibellog a rhaid nodi'n glir na fydd Gwasanaethau Campws yn cynnal yr arolygiadau a'r profion statudol ar yr Unedau hynny - oherwydd mai Cyfarpar yr Ysgol/Adran ydynt ac nad ydynt yn rhan o seilwaith yr adeiladau. Felly, rhaid i'r Ysgolion a'r Adrannau sicrhau eu bod yn cyflawni'r profion cyfyngiant/gweithredol priodol o leiaf bob 14 mis, a gweithredu a chynnal yr Unedau/Systemau'n unol 芒 chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Oherwydd bod yr unedau hyn yn ailgylchredeg, mae'n bwysicach fyth eu cynnal a'u cadw, eu profi a'u gweithredu'n gywir ac yn unol 芒'u dyluniad a gofynion y gweithgynhyrchwyr.
Ar gyfer Unedau fel y Cabinetau Microbiolegol, byddai'r profion priodol fel arfer yn cael eu gwneud gan arbenigwr gwasanaeth allanol, fel rhan o'r ailardystio ar y Cabinetau i'w defnyddio'n ddiogel lle mae organebau Gr诺p Haz 2/3 yn y cwestiwn.
Dylai'r holl systemau sy'n ailgylchredeg, a ddarperir gyda'r bwriad o echdynnu/hidlo sylweddau peryglus, gael eu cofrestru'n lleol, dylid nodi'r wybodaeth am brofi ac arolygu a darparu copi o'r atodlen i'r Iechyd a Diogelwch o leiaf unwaith y flwyddyn.
Cofiwch y caiff yr holl systemau echdynnu (gyda phibellau a heb bibellau) a ddarperir at y diben o echdynnu unrhyw sylweddau neu ddeunyddiau a allai fod yn beryglus oddi wrth bobl eu rheoli o dan amodau Rheoliadau COSHH a rhaid eu cynnal a'u cadw, eu profi a'u harolygu. Byddai hynny'n cynnwys bythau chwistrellu a hwdiau, cypyrddau cemegol a biolegol, systemau echdynnu mwg weldio, Systemau Gwac谩u/Hidlo sydd ynghlwm wrth offer gwaith coed, ac yn y blaen, p'un a ydynt yn bibellog neu'n hunangynhwysol.
Nid yw systemau cyffredinol y mae iddynt 'arogleuon amgylcheddol ac annymunol' ac yn y blaen, fel ffaniau vent-axia, aerdymheru, symudwyr aer, systemau rheoli llwch, cwfliau popty, o dan y gofynion hyn fel rheol gan na chawsant eu cynllunio i echdynnu sylweddau peryglus yn unol 芒 Rheoliadau COSHH.