Tîm Caplaniaeth Darlithoedd Ar-Lein - 'Caru Duw a Charu EIN Cymydog'
29 Medi 2021
Sancteiddrwydd’, Professor Andrew Louth
Mae’r Athro Andrew Louth yn Athro Emeritws mewn Astudiaethau Patristig a Bysantaidd yn Adran Ddiwinyddiaeth a Chrefydd Prifysgol Durham. Cyn hynny, bu'n dysgu ym Mhrifysgol Rhydychen (patristig yn bennaf) ac yn darlithio ar hanes Bysantaidd a chanoloesol cynnar yng Ngholeg Goldsmiths (hanes canoloesol cynnar a Bysantaidd gan fwyaf). Fe’i hetholwyd yn gymrawd o’r Academi Brydeinig yn 2010, bu’n Llywydd y Gymdeithas Hanes Eglwysig (2009–10), ac yn ddiweddar mae wedi gorffen golygu pedwerydd argraffiad yr enwog Geiriadur Rhydychen yr Eglwys Gristnogol.
Wedi gadael yr offeiriadaeth Anglicanaidd, trodd at yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ym 1989 ac fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn yr eglwys honno yn 2003.
27 Hydref 2021
‘Da, Gwan, ac Agored i Ras: Anthropoleg Gristnogol mewn Cymdeithas Seciwlar ', Edward Hadas.
Mae Edward Hadas yn Gymrawd Ymchwil yn Blackfriars, un o Neuaddau Preifat Parhaol Prifysgol Rhydychen. Mae’n gweithio ym maes Cyllid ac Economeg Foesol a Dysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig. Gweithiodd am 25 mlynedd ym maes cyllid ac am 15 mlynedd yn newyddiadurwr cyllid, yn fwyaf diweddar fel colofnydd economeg i Reuters Breakingviews.
Cyhoeddiadau: A Moral Look at the Dismal Science (2008); Counsels of Imperfection: An Introduction to Catholic Social Teaching (2020). Mae ei lyfr 'Money, Finance, Reality, Morality' yn chwilio am gyhoeddwr.
24 Tachwedd 2021
‘Bangor i'r Byd’, Rev Pauline Edwards
Y Parch Pauline Edwards yw Bugail Eglwys Cynulliadau Dduw (Pentecostaidd) yma Mangor. Yn dilyn ymweliad â’r India a newidiodd ei bywyd, roedd y Parch Pauline Edwards yn benderfynol o wneud rhywbeth dros y tlawd. Er nad oedd ganddi unrhyw brofiad manwerthu, agorodd siop elusen o'r enw Annie's Orphans ym Mangor ym 1997 i gefnogi cartref plant amddifad yn yr India. Agorodd siop ddodrefn yn fuan wedyn. Ers hynny mae siopau elusennol Annie's Orphans wedi egino yn y rhan fwyaf o'r Deyrnas Unedig ac mae'r elw'n cefnogi nifer o brojectau mewn gwledydd sy'n datblygu. Bu i’r elusen adeiladu a chefnogi pum cartref plant amddifad yn yr India, dau gartref plant amddifad yn Burma, ac un cartref plant amddifad a dwy ysgol gynradd yn Burundi, Affrica.
Bydd pob darlith yn rhithiol, ar Microsoft Teams. Byddant yn dechrau am 1 y pnawn, yn para 30 - 40 munud, ac yna bydd cyfle i holi cwestiynau a thrafod yn agored.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2021