Recriwtio Perfformwyr 💃🕺 ar gyfer Gala Un Byd
Mae Gala Un Byd, digwyddiad elusennol blynyddol Prifysgol Bangor, yn ei ôl!
Digwyddiad i ddathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Bangor yw hwn ac mae’n cynnwys rhaglen lawn o berfformiadau lliwgar a bywiog. Mae'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol, ar hyn o bryd yn recriwtio perfformwyr – grwpiau neu unigolion – i berfformio ar y noson.
Pa fath o berfformwyr?
Byddent yn croesawu unrhyw berfformiadau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddawns 🕺💃, cerddoriaeth 🎹 a drama ðŸŽ.
Pam cymryd rhan?
Mae'n gyfle gwych i chi dynnu sylw at eich doniau gan ei fod yn ddigwyddiad artistig proffil uchel, y mae nifer o bwysigion yn ei fynychu.
Y clyweliadau:
Cynhelir y clyweliadau ddydd Iau, 17 Chwefror, rhwng 6pm a 9pm yn Neuadd PJ, Prif Adeilad y Celfyddydau.
Bydd nifer o grwpiau ac unigolion yn cael eu dewis a chânt wybod ar y dydd Gwener. Ar ben hynny, bydd disgwyl i'r rhai sy’n cael eu dewis fynychu ymarferion ar gyfer y digwyddiad - bydd rhagor o fanylion ar gael yn nes at yr amser - a dylech fod ar gael ar y noson y digwyddiad - 10 Mawrth 2022.
Sut i wneud cais:
Gofynnir i bawb sy’n fodlon cymryd rhan yn y clyweliadau gadarnhau eu bod ar gael drwy anfon e-bost i internationsupport@bangor.ac.uk . Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech sgwrs am hyn, mae croeso i chi gysylltu.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Chwefror 2022