Gwasanaeth Dydd y Cofio'r Brifysgol
Bydd Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ar 11 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Brifysgil (neu dan do yn Narlithfa Eric Sunderland (MALT) os bydd tywydd gwael iawn).
Bydd y Parch John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt yn arwain. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10.50am a bydd yn para am 10-15 munud gan gynnwys 2 funud o dawelwch am 11am. Mae croeso i bawb.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Tachwedd 2022