Eisiau cwblhau’r GCB eleni?
Mae’r dyddiad cau ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n cwblhau y GCB eleni ar Mai 11eg, 2022. Os ydych eisoes wedi cwblhau’r wobr, neu’n bwriadu gwneud hynny, cwblhewch y os gwelwch yn dda.
Fel a gyhoeddwyd yn semester 1, mae wedi newid, ac mae cwblhau’r Wobr nawr yn haws i fyfyrwyr gymryd rhan ynddi a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr fydd wir yn eich helpu i ddarparu ar gyfer bywyd ar ôl Prifysgol, boed hynny yn eich helpu i weithio allan beth yw eich trywydd gyrfa, neu cael yn barod at broses recriwtio cyflogwyr! 
Mae’r GCB yn gyfres o dasgau, gweithdai ac ymarferion adfyfyriol y gallwch weithio drwy yn eich amser eich hun ac wedi ei dylunio i'ch helpu i ddeall a datblygu eich cyflogadwyedd, tra’n adfyfyrio ar eich gweithgareddau allgyrsiol. Bydd cwblhau pob un o ofynion y Wobr yn golygu eich bod yn derbyn tystysgrif ychwanegol wrth raddio, a cydnabyddiaeth ar eich .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut mae’r GCB wedi newid o’r fformat blaenorol, cyfeiriwch at ein , ac ar gyfer unrhyw ymholiadau am gwblhau’r Wobr cysylltwch gyda ni ar cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2022