Myfyrwyr Presennol: Mynediad 2019
Mae'r cynlluniau bwrsariaethau sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs ym Medi 2019 yn cynnwys y bwrsariaethau isod. Cofiwch:
- Caiff bwrsariaethau ond eu talu i fyfyrwyr sy’n astudio cwrs llawn amser i israddedigion sydd â ffi ddysgu o £9,000, a gychwynnodd ei blwyddyn gyntaf mewn addysg uwch ar neu ar ôl Fedi 1af 2019, a chofrestrodd ac sydd yn bresennol 14 diwrnod cyn talu'r fwrsariaeth.
- Nid yw myfyrwyr sydd yn derbyn unrhyw daliad bwrsariaeth arall (e.e. GIC, Cyngor Gofal Iechyd a Chymdeithasol, Grant Hyfforddi HAGA) yn deilwng ar gyfer y cynllun bwrsariaethau.
- Caiff y Bwrsariaethau eu gweinyddu a’i dosbarthu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran y Brifysgol. Rhaid i chi fod wedi cwblhau ffurflen asesu cyllid myfyrwyr (PN1) i fod yn deilwng am fwrsariaeth. Yn ogystal, rhaid i chi fod wedi rhoi caniatâd ar y ffurflen i rannu eich gwybodaeth gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Bwrsariaethau Bangor
Mae Bwrsariaeth Bangor yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr o deuluoedd ag incwm isel a gallwch dderbyn hyd at £1,000 o gymorth ariannol y flwyddyn gan y Brifysgol. Y fwrsariaeth ar gael i fyfyrwyr o'r DU (eithro Cymru) ar UE yn unig. Mae’r swm yr ydych yn ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref:
- Bydd myfyrwyr gydag incwm cartref llai na £25,000 yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth Bangor gwerth £1,000
- Bydd myfyrwyr gydag incwm cartref rhwng £25,001 a £40,000 yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth Bangor gwerth £500.
Cliciwch yma i weld Cwestiynau ac Atebion am Fwrsariaethau Bangor.
Bwrsariaethau Cychwyn
Mae bwrsariaethau cychwyn o £1,000 ar gael i’r rheini sy’n dod i’r brifysgol o ofal. Bwriad y bwrsariaethau cychwyn yw talu am y llyfrau, y cyfarpar, y teithio a’r cymhorthion astudio sy’n gysylltiedig â’r cwrs. Dim ond yn ystod y flwyddyn gyntaf y bydd y bwrsariaethau hyn yn cael ei talu. Nid oes rhaid eu talu’n ôl.
Bydd rhaid i fyfyrwyr sydd yn dod i’r brifysgol o ofal adael i Wendy Williams yr Ymgynghorwr i Fyfyrwyr o Ofal yn yr Uned Cymorth Ariannol wybod hyn fel bod y fwrsariaeth yn cael ei dalu. Ffoniwch Wendy ar 01248 383637 neu ebostiwch wendy.williams@bangor.ac.uk
Bwrsariaeth Astudio Trwy'r Gymraeg
Caiff myfyrwyr sydd yn astudio 40 credyd neu fwy o'u cwrs trwy'r Gymraeg fwrsariaeth o £250.
Bwrsariaethau Ychwanegol
Mwy o wybodaeth yma.