Cwestiwn 3: Sut gallaf ddefnyddio'r gefnogaeth hon?
- Gallwch gael y gefnogaeth hon os cafodd ei hargymell gan gynghorydd anawsterau dysgu penodol fel rhan o'ch Lwfans Myfyriwr Anabl, neu gan gynghorydd anawsterau dysgu penodol. Gallwch drafod gyda'ch tiwtor sgiliau astudio a chymorth strategaeth pa mor aml yr hoffech fynd, a gallwch ddewis sesiynau rheolaidd neu sesiynau wedi eu targedu yn ôl yr angen.
- Byddwch yn derbyn e-bost awtomatig yn gofyn i chi gadarnhau eich presenoldeb ar ôl pob sesiwn, sy'n ein galluogi i hawlio am y gefnogaeth a ddarparwyd.
- Os yw eich cefnogaeth yn cael ei ariannu, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cyllid yn parhau o’r naill flwyddyn academaidd i'r llall, gan nad yw hyn bob amser yn digwydd yn awtomatig.