Gweithio ar Uchder
Disgyn o uchder yw prif achos marwolaethau yn y gwaith ac un o brif achosion anaf mawr. Yn anffodus, gellid bod wedi atal mwyafrif yr anafiadau hyn pe bai'r rhagofalon angenrheidiol wedi cael eu rhoi ar waith. Rhaid gwneud asesiad risg cyn gwneud unrhyw waith ar uchder yn y brifysgol, am ragor o wybodaeth cysylltwch â HSS ar 3847 neu healthandsafety@bangor.ac.uk
Index:
- Beth yw Gweithio ar Uchder?
- Hierarchaeth Rheoliadau
- Rheolau i atal pobl rhag disgyn
- Dewis cyfarpar mynediad
- Diogelwch ysgolion
- Llwyfannau gweithio diogel
- Cyfarpar mynediad symudol a chyfarpar crog
- Harneisiau diogelwch
- Diogelu rhag deunyddiau'n disgyn
- Rhagor o gyfarwyddyd
Beth yw gweithio ar uchder
Yn ôl Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005, mae rhywle 'ar uchder' os gallai rywun gael ei anafu wrth ddisgyn oddi arno, hyd yn oed os yw ar lefel y ddaear neu'n is ac mae 'gweithio' yn cynnwys symud o gwmpas mewn man gwaith (ac eithrio ar risiau mewn lleoliad gwaith parhaol).
Hierarchaeth Rheoliadau
Mae'r Rheoliadau Gweithio ar Uchder yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr wneud popeth sy'n rhesymol ymarferol i atal unrhyw un rhag ddisgyn wrth wneud eu gwaith. Dyma'r broses reoli hierarchaidd sylfaenol i reoli gweithio ar uchder:
- Peidio â gweithio ar uchder.
- Defnyddio cyfarpar gwaith neu fesurau eraill i atal pobl rhag ddisgyn os na ellir osgoi gweithio ar uchder.
- Os oes risg o ddisgyn o hyd, defnyddio cyfarpar gwaith neu fesurau eraill i leihau'r pellter a'r canlyniadau pe bai rhywun yn digwydd disgyn, e.e. rhwydg.
Nodyn: dylai mesurau cyffredin bob amser gael blaenoriaeth dros fesurau personol e.e, rheiliau gwarchod yn hytrach na harneisiau diogelwch.
Rheolau i atal pobl rhag disgyn
Dylid ystyried y pwyntiau canlynol wrth weithio ar uchder:
- Peidio â gweithio ar uchder oni bai ei bod yn hanfodol gwneud hynny ac mai dyna'r unig ffordd o gyflawni'r gwaith.
- Cynllunio a threfnu'r holl waith ar uchder yn gywir.
- Sicrhau bod pawb sy'n gweithio ar uchder wedi eu hyfforddi ac yn gymwys i wneud hynny.
- Sicrhau y darperir goruchwyliaeth briodol.
- Sicrhau bod y man lle mae gweithio ar uchder yn digwydd yn ddiogel e.e. dim ceblau uwchben, dim arwynebau bregus, dim risg o eitemau yn disgyn, tir sefydlog, digon o le i weithio, dim risg y bydd rhywun/rhywbeth yn effeithio ar gyfarpar mynediad e.e. ysgolion.
- Sicrhau bod y cyfarpar yn addas i'r dasg y mae'n cael ei ddefnyddio ar ei chyfer e.e. bydd yn gallu dal pwysau'r gweithwyr sy'n ei ddefnyddio ac y gellir clymu unrhyw ddeunyddiau ac offer y maent yn debygol o'u defnyddio neu eu storio arno yn ddigonol.
- Sicrhau y caiff cyfarpar ei archwilio a'i gynnal a'i gadw'n rheolaidd yn unol â'r argymhellion.
- Asesu'r tywydd cyn gweithio ar uchder.
- Sicrhau bod gweithdrefnau brys ar waith ac y rhoddir gwybod amdanynt i'r holl aelodau staff sy'n ymwneud â'r gwaith.
Dewis cyfarpar mynediad
Os bydd rhaid i chi weithio ar uchder o bryd i'w gilydd, ac os nad ydych yn siŵr pa gyfarpar mynediad i'w ddefnyddio, mae gan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch ganllaw cam wrth gam i ddewis y cyfarpar mynediad cywir ar gyfer y dasg. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i ddefnyddwyr ar y ffactorau i'w hystyried wrth ddewis cyfarpar mynediad wrth gynllunio gwaith ar uchder.
Bydd natur a hyd y gwaith a'r risgiau sy'n gysylltiedig â chodi, ynghyd â defnyddio'r cyfarpar mynediad, oll yn dylanwadu ar y cyfarpar a ddewisir. Yn draddodiadol, gwneir llawer o waith ar sgaffaldiau, ond mae mathau eraill o gyfarpar mynediad fel MEWP, sgaffaldiau twr, cyfarpar crog personol (megis technegau mynediad gyda rhaffau a chadeiriau bosn) a gwahanol fathau o ysgolion ar gael hefyd.
Rhaid ystyried y canlynol wrth ddewis offer mynediad i le gwaith:
- Bod lle ar gael ar y safle. Bod angen lleiafswm o le ar gyfer pob math o lwyfan, e.e. mae angen sadwyr ar MEWPS a thyrau mynediad - a oes digon o le iddynt?
- Y math o waith sydd i'w wneud, e.e. a fydd angen llwythi trwm ar y llwyfan?
- Pa mor hir fydd y gwaith yn para?
- Pa risgiau fydd wrth godi'r llwyfan?
- Ar ôl ei godi, pa mor anodd fydd hi i gynnal a chadw'r llwyfan?
- Faint o bobl fydd angen defnyddio'r cyfarpar?
- A ellir sefydlogi'r cyfarpar, e.e. a ellir clymu'r sgaffald, y tŵr mynediad?
- A ellir darparu rhan o'r fframwaith ar ddechrau'r gwaith fel bod llwyfan gweithio parhaol yno?
Wrth ddewis dull mynediad, cofiwch y canlynol:
- Dim ond pan nad yw'n ymarferol darparu llwyfan gweithio gyda rheiliau gwarchod, y dylid defnyddio dulliau mynediad eraill (e.e. cadeiriau bosn, rhaffau, rhwydi).
- Os nad oes unrhyw ffordd arall o ddarparu man gwaith diogel ar uchder, yna dylid gwisgo harneisiau wedi eu hangori'n briodol. Ond os defnyddir harneisiau, rhaid bod dull ar gael i alluogi pobl i gael eu hachub pe baent yn disgyn ac yn cael eu dal dros dro gan eu harnais.
- Dylid clymu ysgolion bob amser os yn bosib. Dylid eu defnyddio'n bennaf ar gyfer mynediad a dim ond i wneud mân waith, cyflym, ac yna dim ond os yw'n ddiogel gwneud hynny. Yn gyffredinol, mae'n fwy diogel defnyddio sgaffald tŵr neu MEWP hyd yn oed i wneud gwaith tymor-byr. Ni ddylid byth wneud gwaith trwm fel drilio neu gario llwythi trwm ar ysgol. Wrth ddefnyddio ysgol, cofiwch sicrhau bod y sawl sydd ar yr ysgol yn cyffwrdd â'r ysgol gyda thair rhan o'r corff bob amser, h.y. y ddwy goes a llaw. Ni ddylai pobl byth orfod pwyso i'r ochr wrth godi ysgol.
- Dylid ystyried yr holl risgiau e.e. os dewisir rhwydi, a oes cliriad digonol o dan y rhwydi i atal anaf i'r bobl a allai ddisgyn iddynt? Os defnyddir harneisiau, a oes digon o gliriad o'r ddaear i ganiatáu i'r rhaff neu'r rîl siocleddfu ymestyn yn llawn?
- Gwiriwch fod cliriad digonol ar gyfer y cyfarpar e.e. gall llinellau trydan uwchben fod yn risg wrth godi sgaffaldiau neu ddefnyddio MEWP; gall fod risg o wasgu yn erbyn strwythurau cyfagos pan fydd llwyfannau mynediad symudol yn cael eu symud
- Dylid ystyried bob amser pwy arall sy'n defnyddio'r lle e.e. a yw'r man gwaith ger prif fynedfa gyda llawer o bobl yn mynd a dod?
Llwyfannau gweithio diogel
Llwyfannau gweithio yw'r rhannau o fframweithiau, MEWPs, tyrau mynediad ac ati y mae pobl yn sefyll arnynt wrth weithio. Yn ogystal â chael cefnogaeth ddigonol a darparu rheiliau gwarchod neu rwystrau, dylai llwyfannau gweithio:
- Bod o leiaf 600mm o led a/neu'n ddigon llydan i ganiatáu i bobl gerdded yn ôl ac ymlaen yn ddiogel ac i ddefnyddio unrhyw gyfarpar neu ddeunydd sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith.
- Yn rhydd o agoriadau a thrapiau lle gallai traed pobl gael eu dal, gan achosi iddynt faglu, disgyn neu gael eu hanafu.
- Wedi eu hadeiladu i atal deunyddiau rhag disgyn trwyddynt. Yn ogystal â byrddau traed neu amddiffyniad tebyg ar ymyl y llwyfan, dylid adeiladu'r llwyfan ei hun i atal unrhyw eitem y gellir ei ddefnyddio ar y llwyfan rhag disgyn trwy fylchau neu dyllau, gan achosi anaf i bobl sy'n gweithio islaw.
- Yn rhydd o beryglon baglu a llithro, dylid cadw llwyfannau yn lân ac yn daclus a pheidio â gadael i fwd gronni arnynt. Lle bo angen, dylid darparu lleoedd i law gydio ynddynt a throedleoedd.
Cyfarpar mynediad symudol a chyfarpar crog
Lle nad yw'n bosib gweithio o'r adeilad presennol ac nad yw defnyddio llwyfan gweithio sgaffald yn briodol, ceir amrywiaeth o gyfarpar mynediad symudol gan gynnwys, llwyfannau gwaith uchel symudol (MEWPs), crudiau crog, llwyfannau gwaith dringo mastiau (MCWP), gellir defnyddio cadeiriau neu seddi bosn, a rhaffau.
Dylai unrhyw un sy'n defnyddio'r math hwn o gyfarpar fod wedi ei hyfforddi ac yn gymwys i'w weithredu, mewn rhai achosion bydd angen mwy nag un i'w weithredu. Yn ogystal, dylai gweithredwyr ddeall y gweithdrefnau brys a gwacáu.
Cyn i'r gwaith ddechrau
Rhaid gwirio'r canlynol:
- Y darperir tystysgrif trosglwyddo gan y gosodwr. Dylai'r dystysgrif gynnwys sut i ymdrin ag argyfyngau, sut i weithio, gwirio a chynnal a chadw'r cyfarpar, a dylai nodi ei lwyth gweithio diogel.
- Mai dim ond arbenigwyr cymwys sy'n gosod, addasu a datgymalu cyfarpar.
- Bod adroddiad cyfredol ar archwiliad trylwyr o'r cyfarpar wedi ei wneud.
- Dim ond staff cymwys sydd wedi eu hyfforddi'n llawn sy'n gweithredu'r cyfarpar.
- Bod y ddaear yn gadarn ac yn wastad a bod teiars y cyfarpar wedi eu llenwi â digon o wynt.
- Y defnyddir harnais gyda rhaff atal disgyn ynghlwm wrth lwyfan MEWP.
- Bod rhwystrau o amgylch rhannau o'r safle lle gallai pobl gael eu taro gan y llwyfan neu gan eitemau'n disgyn. Efallai y bydd angen bwa malurion neu lwybrau cerdded dan do hefyd.
- Mae systemau ar waith i atal pobl yn yr adeilad rhag cael eu taro gan y llwyfan wrth iddo fynd i fyny neu i lawr ac atal y llwyfan rhag dod i gysylltiad â ffenestri agored neu rwystrau tebyg a allai beri iddo droi drosodd.
- Bod ategion e.e. sadwyr yn cael eu hymestyn yn gywir a'u cloi. Yn ogystal, rhaid eu hamddiffyn rhag difrod (e.e. trwy gael eu taro gan gerbydau sy'n pasio neu drwy ddifrod gan fandaliaid).
- Y gellir amddiffyn y cyfarpar rhag tywydd garw. Gall gwyntoedd cryfion wyro llwyfannau a'u gwneud yn ansefydlog. Dylid darganfod beth yw'r cyflymder gwynt diogel mwyaf y gellir gweithredu'r cyfarpar ynddo. Gall stormydd ac eira hefyd ddifrodi llwyfannau, felly dylid eu harchwilio cyn eu defnyddio ar ôl tywydd garw.
- Bod gweithdrefnau brys ar waith ac y rhoddir gwybod amdanynt i'r holl aelodau staff perthnasol.
Ar ddiwedd pob diwrnod
Rhaid gwirio'r canlynol:
- Bod y llwyfan wedi ei glirio o offer a chyfarpar.
- Bod yr holl bŵer wedi ei ddiffodd a, lle bo hynny'n briodol, bod ceblau pŵer wedi eu hynysu a'u rhwymo.
- Bod y cyfarpar wedi ei osod mewn lle na fydd yn hygyrch i fandaliaid neu dresmaswyr.
- Bod hysbysiadau ynghlwm wrth y cyfarpar yn rhybuddio nad yw'n gweithio ac na ddylid ei ddefnyddio.
- Yr adroddiad sifft am rybuddion nad yw'r cyfarpar yn gweithio'n gywir, ayb.
Harneisiau diogelwch
Darparu man gwaith diogel a system waith i atal pobl rhag disgyn ddylai fod yr ystyriaeth gyntaf bob amser. OND gall fod achosion pan nad yw'n ymarferol bodloni pob un neu unrhyw rai o'r gofynion ar gyfer rheiliau gwarchod, etc. (e.e. os yw rheiliau gwarchod yn cael eu tynnu i lawr am gyfnodau byr i ollwng deunyddiau). Os gall pobl fynd at ymyl agored y gallent ddisgyn ohono, bydd angen mathau eraill o amddiffyniad. Mewn rhai achosion, gallai harnais sydd wedi ei atodi'n addas a llinell achub lorweddol dros dro ganiatáu gweithio'n ddiogel.
Wrth ddefnyddio harneisiau a llinellau achub llorweddol dros dro, cofiwch y canlynol:
- Mae harneisiau a rhaffau wedi eu gwneud o ffibrau gwneud ac maent yn dueddol o gael eu diraddio gan olau'r haul, cemegau, etc. Mae'n bwysig gwirio'r offer pob diwrnod trwy ei gyffwrdd mewn golau da cyn defnyddio harneisiau a rhaffau ac os oes yr amheuaeth leiaf ynglŷn â harnais neu raff, peidiwch â'u defnyddio. Gall newid yn y lliw, rhwygiadau neu deimlad garw wrth gyffwrdd yr offer ddangos bod diffygion ynddo.
- Rhaid symud unrhyw offer nad yw'n ddiogel i'w ddefnyddio a nodi'n glir arno na ddylid ei ddefnyddio.
- Ni fydd harnais yn atal pobl rhag disgyn ond bydd yn lleihau'r risg o anaf os bydd rhywun yn disgyn. Gall y sawl sy'n disgyn gael ei anafu gan effaith y llwyth ar y corff pan fydd y rhaff yn mynd yn dynn neu pan fydd yn taro yn erbyn rhannau o'r fframwaith wrth ddisgyn. Gall amsugnwr egni wedi ei osod ar y rhaff amsugno egni leihau'r risg o anaf o effaith llwyth.
- Lleihau'r pellter disgyn yn rhydd. Dylid cadw'r angorau mor uchel â phosib, gan leihau pellteroedd disgyn, rhaid i'r pwynt atodi hefyd allu gwrthsefyll effaith y llwyth pe bai rhywun yn disgyn. Lle bo modd, dylid cysylltu'r rhaff amsugno egni uwchben y sawl sy'n ei gwisgo.
- Dylai systemau fod yn eu lle i godi unrhyw un sy'n disgyn.
- Dylai unrhyw un sydd angen atodi ei hun allu gwneud hynny o safle diogel. Rhaid iddynt allu atodi eu hunain cyn symud i sefyllfa lle maent yn dibynnu ar yr amddiffyniad a ddarperir gan yr harnais.
- Rhaid cael uchder disgyn digonol i ganiatáu i'r system gychwyn ac atal y sawl rhag disgyn ymhellach.
- Efallai y bydd rhaid cael dwy raff os oes angen i'r sawl sy'n eu gwisgo symud o gwmpas. Mae dwy raff yn caniatáu i'r gwisgwr glipio ei hun ar un rhaff mewn lle gwahanol cyn dad-glipio'r rhaff arall.
- Rhaid i rywun â chymwysterau addas oruchwylio'r gwaith o osody cyfarpar y bydd harneisiau yn rhwym iddo, e.e. angor. Rhaid gwirio'r angorau yn ffurfiol hefyd i sicrhau bod y llwythiadau'n ddigonol cyn cael eu defnyddio am y tro cyntaf.
- Rhaid i bawb sy'n defnyddio harnais wybod sut i'w wirio, ei wisgo a'i addasu cyn ei ddefnyddio a sut i gysylltu eu hunain â'r fframwaith neu'r llinell ddiogelwch fel sy'n briodol.
- Rhaid archwilio harneisiau a rhaffau'n drylwyr o bryd i'w gilydd, a/neu o leiaf bob chwe mis.
Amddiffyn rhag eitemau'n disgyn
Dylid lleihau'r risg o eitemau'n disgyn ac achosi anaf trwy gadw llwyfannau gweithio yn glir o ddeunyddiau rhydd. Yn ogystal, dylid darparu ffordd o atal deunyddiau neu eitemau eraill rhag rholio, neu gael eu cicio, oddi ar ymylon llwyfannau. Gellir gwneud hyn gyda byrddau traed, rhwystrau solet, rheiliau brics, etc. ar ymylon agored. Os codir y sgaffald mewn man cyhoeddus, efallai y bydd angen rhwydi, bwâu neu lwybrau cerdded dan do i roi amddiffyniad ychwanegol i bobl a allai fod yn cerdded islaw. Nid yw rhwydi rhwystr gwelededd uchel yn addas i'w ddefnyddio fel dyfais i atal pobl ac eitemau rhag disgyn.
Arweiniad
Mae'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau ar atal pobl rhag disgyn o uchder. Dylid ystyried y rhain wrth baratoi eich asesiad risg a nodir mai'r safonau a osodir gan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn ei chyhoeddiadau yw'r rhai y mae'r brifysgol yn disgwyl i bawb gadw atynt.
- The Working at Heights Regulations ()
- Health and Safety in Roof Work ()
- Working at heights in the theatre ()
- Safe design and build of production sets used for film and television ()
- Preventing Falls in Agriculture ()