Ysgolion
Cyffredinol
Dylai unrhyw waith ar uchder fod yn destun asesiad risg, nid oes rhaid i asesiadau o'r fath wahardd defnyddio ysgolion ond dylent bob amser ystyried dewisiadau amgen a sicrhau nad oes unrhyw risg sylweddol i'r defnyddiwr. Os byddwch yn defnyddio ysgolion, gofynnwch i chi eich hun.
- Ai defnyddio ysgol yw'r ffordd iawn o wneud y gwaith? Peidiwch â gweithio ar ysgol os oes ffordd well!
- Ydy'r ysgol mewn cyflwr da?
- A yw'r ysgol yn pwyso yn erbyn arwyneb solet ac nid yn erbyn deunyddiau bregus neu anniogel?
- A yw'r ysgol wedi ei chlymu i'w rhwystro rhag llithro i'r ochr neu at allan?
- A yw'r ysgol yn mynd digon uchel uwchben y man glanio? Os nad yw, a oes rhywbeth arall i afael ynddo?
- A yw'r ysgol wedi ei gosod fel nad oes rhaid i'r defnyddwyr orymestyn?
- Dim ond ar gyfer gwaith tymor byr, ysgafn y dylid defnyddio ysgol.
O 31 Rhagfyr 2018, nid yw Dosbarth 1 a Dosbarth 3 bellach yn berthnasol i ysgolion sydd yn y categori BS EN 131 Domestig (i ddefnyddwyr domestig yn unig) a BS EN 131 Masnach a Diwydiannol (defnydd yn y gwaith).
Yn y brifysgol, ysgolion safon 'Masnach a Diwydiannol' BS EN 131 sy'n rhaid eu defnyddio yn y gwaith, er y gellir parhau i ddefnyddio ysgolion hŷn Dosbarth 1/EN131 tan cânt eu newid maes o law am ysgolion Masnach a Diwydiannol BS EN 131 newydd.
SYLWER: Ni ddylai unrhyw ysgol fod â marc CE ar y label gan nad oes cynllun tystysgrif CE ar gyfer ysgolion. Mae gan rai ysgolion pwyso farc CE ar y label oherwydd gellir eu defnyddio fel ysgol do sefydlog a chânt eu hystyried fel offer adeiladu ac felly maent yn dod o dan ddeddfwriaeth sy'n caniatáu marc CE. Erys trestlau Dosbarth 1.
Defnyddio ysgolion
Os bwriedir defnyddio ysgolion, rhaid sicrhau'r canlynol:
- Dim ond un llaw sy'n rhaid ei defnyddio i weithio.
- Gellir cyrraedd y gwaith heb ymestyn.
- Gellir gosod yr ysgol i'w rhwystro rhag llithro.
- Mae lle gafael da ar gael.
Rhaid sicrhau nad oes unrhyw ffordd well o gyrraedd y man dan sylw cyn defnyddio ysgol gan fod llawer o ddamweiniau ysgol yn digwydd wrth wneud gwaith sy'n cymryd llai na hanner awr i'w gwblhau, yn enwedig pe bai sgaffald tŵr neu lwyfan mynediad symudol yn fwy diogel ac effeithlon.
Os bydd rhaid defnyddio ysgol mewn sawl man, sy'n golygu bod rhaid symud yr ysgol yn gyson, dyna pryd mae pobl yn mynd yn ddiofal a dylai'r gweithiwr hefyd allu cyrraedd y gwaith o safle 1m islaw pen yr ysgol.
Cofiwch gario offer ysgafn mewn bag ysgwydd neu holster sydd ynghlwm wrth wregys fel bod y ddwy law yn rhydd i ddringo. Ni ddylid cario llwythi trwm neu swmpus i fyny neu i lawr ysgolion - dylid defnyddio olwyn gin neu offer codi arall.
Gwiriwch gyflwr yr ysgol
Er mwyn defnyddio ysgol yn ddiogel, rhaid iddi fod yn ddigon cryf ar gyfer y dasg ac mewn cyflwr da.
- Dylech sicrhau nad yw'r estyll wedi torri, byclu na chamu, nad oes unrhyw ffyn wedi cracio nac ar goll ac nad oes unrhyw draed diogelwch ar goll.
- Peidiwch â defnyddio ysgolion symudol neu ysgolion cartref na defnyddio ysgol sydd wedi ei thrwsio dros dro.
- Peidiwch â defnyddio ysgolion wedi eu paentio, oherwydd gall y paent guddio diffygion.
- Efallai na fydd ysgolion a wneir at ddefnydd domestig yn ddigon cryf i wneud gwaith ar safle adeiladu ac mae'n well eu hosgoi.
- PEIDIWCH â cheisio trwsio ysgolion.
SYLWER: Dylid cofnodi pob archwiliad
Gwiriwch fod yr ysgol wedi ei gosod yn ddiogel
Nid yw ysgolion yn ddiogel os nad ydynt yn pwyso ar arwyneb cadarn, gwastad. Peidiwch â'u rhoi ar frics rhydd neu ddeunydd pacio. Dylent hefyd gael eu clymu gyda rhaff neu ddyfais sefydlogi addas arall er mwyn sicrhau nad yw'r ysgol yn symud i'r ochr nac yn llithro oddi wrth y wal.
Dylech hefyd sicrhau:
- Bod yr ysgol ar ongl i leihau'r risg o lithro at allan; fel rheol, rhaid i'r ysgol fod yn 'one out for every four up'.
- Bod pen yr ysgol yn pwyso yn erbyn arwyneb solet; ni ddylai ysgolion bwyso yn erbyn deunyddiau bregus neu ansicr (e.e. dalen sment, cwteri plastig).
- Bod dwy droed yr ysgol ar sylfaen gadarn ac ni allant lithro.
- Bod yr ysgol wedi ei chlymu os yw'n fwy na 3m o hyd, neu'n cael ei defnyddio fel ffordd i fynd yn ôl ac ymlaen i fan gweithio. Gwneir hyn fel arfer trwy ei chlymu yn y pen uchaf neu weithiau ar y gwaelod.
- Bod rhywun arall yn gafael yng ngwaelod yr ysgol wrth iddi gael ei defnyddio (mae hyn hefyd yn berthnasol tra bod yr ysgol yn cael ei gosod), os nad oes modd clymu'r ysgol.
- Bod yr ysgol yn ymestyn i uchder digonol (tua 1m) uwchben unrhyw fan glanio lle bydd pobl yn mynd arni ac oddi arni oni bai bod man gafael digonol arall ar gael.
- Bod mannau glanio neu lwyfannau addas ar gael pan ddefnyddir ysgolion mewn rhediad sy'n mesur pellter fertigol o fwy na 9m. Mae'r unig eithriad i hyn yn ymwneud â rhai ysgolion simneiwyr nad oes â mannau glanio arnynt yn aml. Serch hynny, dylid darparu gymaint o fannau glanio â phosib.
Ysgolion bach
Mae ysgolion bach yn cynnig dull mynediad rhydd, ond rhaid eu defnyddio'n ofalus. Nid ydynt wedi eu cynllunio i lwytho unrhyw beth o'r ochr ac mae'n hawdd eu troi drosodd. Peidiwch â gorgyrraedd. Ni ddylid gweithio ar gam uchaf ysgol fach oni bai ei bod wedi ei chynllunio at y diben hwnnw.