Hysbysiadau Statudol
Mae llawer o sylweddau, cyfryngau, cynhyrchion a deunyddiau a ddefnyddir yn y gwyddorau yn destun rheolaeth ddeddfwriaethol lem, ac mewn rhai achosion, mae'n rhaid rhoi gwybod amdanynt i swyddogion y Brifysgol ac o bosibl awdurdodau statudol. Rhoddir gwybod amdanynt naill ai cyn i ddeunyddiau gael eu prynu/ creu, neu i gadarnhau bod stoc yn cael ei gadw/ defnyddio o hyd. Mae'n ofynnol i golegau/ ysgolion/ adrannau edrych ar y ddogfen hon (Taenlen Excel) i gadarnhau eu bod yn defnyddio/ cadw unrhyw eitem a restrir, neu'n dymuno gwneud hynny. Mae angen caniatâd ysgrifenedig gan swyddog perthnasol y Brifysgol cyn prynu/ defnyddio/ creu.
Mae'n hanfodol bod Taenlen Excel [cysylltiedig uchod] yn cael ei hasesu'n rheolaidd i sicrhau bod hysbysiadau addas wedi'u rhoi, ac y derbyniwyd cymeradwyaeth. Caiff cyfryngau/ sylweddau eu rhestru/ categoreiddio fel:
Bacteria Grwpiau 4, 3 a 2 |
Firysau Grwpiau 4, 3 a 2 |
Prions |
Ffyngau Grwpiau 4, 3 a 2 |
Tocsinau | Rhagsylweddion Cemegol |
Gwenwynau | Ffrwydron |
Rhagsylweddion Cyffuriau | Meinwe Ddynol |
Organebau a Addaswyd yn Enetig | Deunyddiau Ymbelydrol a phelydr-x |
Pathogenau Anifeiliaid Penodedig | Helminths Grwpiau 3 a 2 |
Protosoa Grwpiau 3 a 2 |
Mae defnyddio rhai sylweddau yn ei gwneud yn ofynnol i drwyddedau penodol fod ar waith gyda hysbysiadau’n cael eu rhoi i'r awdurdodau perthnasol, megis y Swyddfa Gartref, cyn cael y sylwedd, neu ei greu a'i ddefnyddio, am y tro cyntaf. Er mwyn cynorthwyo'r broses hon, mae'r Brifysgol wedi penodi nifer o staff allweddol i drin hysbysiadau a thrwyddedu perthnasol, ac a fydd yn gallu cynghori ar reolaethau ychwanegol y gallai fod angen eu sefydlu wrth ddefnyddio sylweddau o'r fath e.e. cyfleusterau, offer a hyfforddiant.
Yn ogystal, dylid nodi bod defnyddio rhai sylweddau wedi'i wahardd, naill ai o ganlyniad i ddeddfwriaeth neu oherwydd y ffaith nad oes gan y Brifysgol gyfleusterau priodol i drin y sylwedd yn ddiogel, e.e. Ffyngau Grŵp Peryglon 3. Pan fo * neu 1 wrth gyfrwng biolegol, gall fod rhai amgylchiadau lle gall defnyddio'r cyfrwng hwnnw ddigwydd y tu allan i'r rheolyddion HG3 llym (Lefel Cynhwysiant 3). Mae angen awdurdodiad penodol ar gyfer defnydd o'r fath, ac mewn rhai amgylchiadau, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodiad gan y cyrff statudol.
Rhaid i golegau/ adrannau sy'n dymuno defnyddio sylweddau a restrir yn y ddogfen hon gysylltu â'r unigolyn perthnasol (fel yr amlinellir yn y daenlen gysylltiedig) cyn eu cael, eu creu neu eu defnyddio. Gellir cael mwy o wybodaeth gan Iechyd a Diogelwch.
Cysylltiadau Defnyddiol: