COSHH (gan gynnwys Cemegion a Chyfryngau Biolegol)
-
- COSHH (fel y'u diwygiwyd)
Ceir amrywiaeth o gemegion a deunyddiau yn y brifysgol; mae rhai yn berffaith ddiogel, gall eraill achosi niwed i chi, i blentyn yn y groth neu niweidio'r amgylchedd. Dylid cofio hefyd nad i gemegion yn unig y mae COSHH yn berthnasol, mae hefyd yn berthnasol i gyfryngau biolegol a ddefnyddir yn rhywfaint o weithgarwch addysgu ac ymchwil y brifysgol.
Awdurdodiad
Sylwch fod angen awdurdodiad penodol ar gyfer rhai deunyddiau gan un o Uwch Swyddogion y Brifysgol, gan awdurdodau rheoleiddio cyn eu prynu a’u defnyddio, ac efallai y bydd angen trwyddedau, hawlenni, protocolau diogelwch ac ati ar rai deunyddiau. Hysbysiadau Statudol y gelwir y broses honno, ac mae’r adran Iechyd a Diogelwch yn cynnal cronfa ddata at y diben hwnnw, yn manylu ar yr holl ddeunyddiau perthnasol ac ar holl ofynion cysylltiedig y defnyddwyr. Dylid cyfeirio at yr atodlen o Hysbysiadau Statudol os ydych yn bwriadu gweithio gyda:
Bacteria yn Grwpiau 4, 3 a 2 |
Firysau yn Grwpiau 4, 3 a 2 |
Prionau |
Ffyngau yn Grwpiau 4, 3 a 2 |
Tocsinau |
Rhagsylweddion Cemegol |
Gwenwynau |
Ffrwydron |
Rhagsylweddion Cyffuriau |
Meinwe Dynol |
Organebau a Addaswyd yn Enetig |
Deunyddiau Ymbelydrol a Phelydr-X |
Pathogenau Anifeiliaid Penodedig |
Llyngyr yn Grwpiau 3 a 2 |
Protosoaid yn Grwpiau 3 a 2 |
Asesiadau COSHH
Oherwydd y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â chemegion a chyfryngau biolegol (deunyddiau), rhaid i chi, cyn cynnal unrhyw arbrawf neu weithgaredd yn y brifysgol, ystyried a oes angen Asesiad COSHH ac os oes, cynnal Asesiad (Cemegion) COSHH neu, yn achos Cyfryngau Biolegol, cynnal Asesiad Risg Peryglon Biolegol.
Mae'r broses hon yn hanfodol i ganfod beth yw peryglon defnyddio'r deunyddiau hynny, sut y gallant ryngweithio â sylweddau a deunyddiau eraill, a nodi pa gamau rheoli sydd eu hangen i reoli risg. Peidiwch byth â thybio oherwydd eich bod wedi gweithio gyda'r deunyddiau o'r blaen eich bod yn deall y risgiau’n llawn neu nad oes dim byd pellach y gellir ei wneud i leihau’r risg ymhellach neu i liniaru'r canlyniadau. Fe welwch hefyd y bydd eich Asesiad COSHH Cemegol yn gofyn i chi ystyried y risg o dân, adwaith ecsothermig a ffrwydrad.
Mae nifer o ganllawiau wedi'u cynhyrchu i’ch cefnogi a’ch helpu i ddeall a chynnal Asesiad COSHH / Peryglon Biolegol. Mae'r canllawiau'n cynnwys pecyn hyfforddi PowerPoint ar sut i gynnal Asesiad COSHH, cyfarwyddiadau cam wrth gam ar lenwi Ffurflen Asesu Risg COSHH a nifer o Daflenni Gwybodaeth. Mae’r Ffurflen Asesu Risg Peryglon Biolegol yn defnyddio dull cam wrth gam i fynd â chi drwy’r asesiad – gyda rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we Peryglon Biolegol.
Mae'n hanfodol fel rhan o hyn eich bod, cyn gweithio gyda deunydd, yn ymchwilio'n drylwyr iddo. Yn achos cemegion a’r Asesiad COSHH, cyfeiriwch at y Taflenni Data Diogelwch (Safety Data Sheets (SDS)) i gael gwybodaeth am y peryglon cemegol - mae a gwefan yn adnoddau da ar gyfer gwneud hyn. Mae rhagor o wybodaeth am fioberyglon i’w cael ar y wefan iechyd a diogelwch.
A chofiwch, os na allwch ddod o hyd i wybodaeth gofynnwch i'ch Goruchwyliwr am help.
Diogelwch gyda chemegion
Hefyd, mae nifer o Daflenni Gwybodaeth wedi'u paratoi ar bynciau diogelwch cemegol penodol. Gobeithir y bydd y rhain yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac yn ateb cwestiynau cyffredin ynglŷn â diogelwch cemegol, er enghraifft cydnawsedd cemegol, storio a gwaredu cemegion yn ddiogel ac ati.
Mae llawer o wybodaeth hefyd ar gael am yr offer y byddwch yn eu defnyddio mewn amgylchedd labordy i'ch cadw'n ddiogel wrth ddefnyddio cemegion.
Os yw'ch ysgol/adran yn bwriadu cynhyrchu a chyflenwi cemegion unigryw yna bydd y Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu yn berthnasol ar unwaith (yn ogystal ag ystyriaethau Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegion (REACH)). Ceir rhagor o wybodaeth gan yr adran Iechyd a Diogelwch neu:
-
E-bost: UKREACHCA@hse.gsi.gov.uk
-
[9]
-
Pa gemegion a restrir fel rhai "peryglus"?
Yn Nhabl 3.1, Atodiad VI, Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu, Yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd ceir tabl Excel ac ynddo’r holl ddiweddariadau o ran dosbarthiad a labelu sylweddau peryglus wedi'u cysoni. Mae'r tabl hwnnw ar gael yma.
Beth yw Cyfryngau Biolegol?
Mae y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch yn manylu ar yr holl ddeunyddiau perthnasol, gan gynnwys i ba Grŵp o Beryglon y maent yn perthyn a gellir defnyddio hynny ar y cyd â'r gronfa ddata Hysbysiad Statudol i sicrhau bod awdurdodiadau perthnasol ac ati yn eu lle. Mae canllawiau'r brifysgol ynghylch bioberyglon ar gael yma.
Gwybodaeth Newydd am Beryglon a'u Labelu -
Ers 1 Mehefin 2015, newidiodd y math o labeli rhybuddio a ddefnyddir ar sylweddau peryglus a ddosberthir/a gyflenwir gan wneuthurwyr ac ati o'r 'sgwâr oren' traddodiadol yr arferid ei ddefnyddio i siâp 'diemwnt' safon y byd. Mae llawer o'r delweddau wedi aros yr un peth ond cyflwynwyd nifer o ddelweddau rhybuddio newydd hefyd.
Hefyd, yn sgil y Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu cyflwynwyd datganiadau perygl a datganiadau rhagofalus wedi'u cysoni ar gyfer labeli, i ddisodli arddull yr hen ymadroddion risg a diogelwch. Enghraifft, Datganiadau Perygl: H240 - Gall gwresogi achosi ffrwydrad, H320 - Yn achosi llid ar y llygaid, H401 - Gwenwynig i fywyd dyfrol. Enghraifft, Datganiadau Rhagofalus: P102 - I’w gadw allan o gyrraedd plant, P271 - I’w ddefnyddio yn yr awyr agored yn unig neu mewn man lle ceir awyru da, P410 - I’w gadw allan o olau'r haul. Ceir rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu ar wefan y Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch ac yn Nhaflen Wybodaeth 8 fel y manylir uchod.