Gweithio ar eich pen eich hun
Yn aml, ceir camsyniad bod gweithio ar eich pen eich hun yn erbyn y gyfraith, ond nid yw hynny’n wir. Yn hytrach, mae’r gyfraith yn disgwyl i ni ystyried a delio ag unrhyw risgiau a allai godi, fel y byddem yn ei wneud gydag unrhyw weithgaredd gwaith arall.
Beth yw gweithiwr ar ei ben ei hun?
Mae rhai o'r farn mai dim ond os ydym yn gweithio i ffwrdd o ganolfan sefydlog yr ydym yn gweithio ar ein pennau ein hunain, ond gweithwyr unigol hefyd yw rhai sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain heb oruchwyliaeth agos nac uniongyrchol lle bynnag y maent. Er enghraifft, yn y brifysgol, gall 'gweithio ar eich pen eich hun' gynnwys:
Staff mewn canolfannau sefydlog:
- Staff sy’n gweithio’n bennaf ar eu pennau eu hunain mewn gweithdai/adeiladau, e.e. safle Biogyfansoddion ym Mona, staff Iechyd a Diogelwch yn Reichel, sydd ar eu pennau eu hunain am gyfnodau hir pan fydd cydweithwyr allan.
- Staff sy’n gweithio mewn rhan arall o adeilad i eraill. I roi hyn yn ei gyd-destun, meddyliwch a ydych chi'n gweithio am gyfnodau hir ar eich pen eich hun lle pe baech chi'n gweiddi am help na fyddai unrhyw un yn clywed neu nad oes unrhyw un byth yn mynd heibio, e.e. pe baech chi'n gweithio ar un pen i goridor hir a bod rhywun arall yn gweithio yn y pen arall a set o ddrysau yn eich gwahanu, neu chi’n gweithio ar un llawr a chydweithwyr ar lawr arall.
- Pobl sy'n gweithio y tu allan i oriau arferol e.e. technegwyr yn bwydo anifeiliaid, staff domestig.
Staff yn gweithio i ffwrdd o'u canolfan sefydlog:
- Staff cynnal a chadw a thiroedd sy’n symud o hyd gyda’u gwaith o un man i’r llall.
- Gweithwyr fferm yn y caeau.
- Staff ar ymweliadau cartref, e.e. fel rhan o'u hymchwil neu fel rhan o'u swydd.
- Staff ar deithiau maes gartref a thramor.
- Staff diogelwch.
Beth sydd angen ei wneud?
Dylech asesu gweithgareddau ‘gweithio ar eich pen eich hun’ bob amser. Y dull gorau yw ei asesu fel rhan o'ch asesiad risg arferol yn y gweithle, gan y bydd hyn yn eich helpu i fesur y risg 'gweithio ar eich pen eich hun' ochr yn ochr â'ch gwaith arferol.
Bydd y cysylltiadau canlynol yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am yr hyn i'w ystyried wrth asesu risgiau 'gweithio ar eich pen eich hun':
- Asesu a Rheoli Risgiau Gweithio ar eich pen eich hun
- Canllawiau IOSH - Rheoli Gweithio o Bell
- Gwaith Maes ac Ymchwil Maes
- Gweithio Gartref