Gweithio Gartref
Mae'r canllaw hwn ar gyfer staff sydd wedi cytuno â'u rheolwr llinell y gellir gwneud gwaith cartref achlysurol/dros dro am gyfnodau byr i gwblhau darnau penodol o waith y cytunwyd arnynt neu yn dilyn cytundeb i weithio'n ddeinamig.
Byddai gweithio gartref fel rheol yn cael ei wneud am resymau penodol, fel:
• cefnogi anabledd neu gyflwr meddygol dros dro
• yn ystod cyfnodau o dywydd gwael
• dyletswyddau gofalu dros dro
Mae gweithio gartref yn golygu gwneud eich gwaith prifysgol arferol am yr oriau y cytunwyd arnynt o'ch cartref yn hytrach na'ch gweithle arferol.
Gweithfan
Campws y Brifysgol yw eich prif weithle o hyd, felly, ni fydd y brifysgol fel rheol yn darparu offer TG ychwanegol, ffôn, cysylltiad band eang na ddodrefn i weithio gartref. Cofiwch, fel gweithiwr, mae gennych yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ag sydd gennych yn y gwaith o hyd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sicrhau bod yr offer rydych chi'n ei ddefnyddio yn addas at y diben, yn ddiogel, eich bod yn cymryd gofal rhesymol o'ch iechyd a'ch diogelwch eich hun, ac ac yn gallu cyflawni ystum cyfforddus, cynaliadwy wrth weithio gyda OSA.
Mae sefydlu'ch gweithfan yn gywir gartref yr un mor bwysig â phan rydych chi yn y swyddfa, ac mae'r un egwyddorion yn berthnasol. Os ydych chi'n gweithio gartref mae angen i chi gwblhau Hunanasesiad Sgrin Arddangos, a dylech ail-ymgyfarwyddo â'r egwyddorion i sicrhau bod gennych y trefniant gorau y gallwch ei reoli gyda'r hyn sydd gennych. Os nad oes gennych gadair y gellir ei haddasu, efallai gallwch greu gwell desg uchel i chi eich hun ar yr arwyneb gweithio yn y gegin neu defnyddiwch eitemau cartref bob dydd i greu gwell gweithfan, megis clustogau fel gorffwys troed, tywel wedi'i rolio i fyny y tu ôl i’ch cefn, neu ychydig o lyfrau i godi'ch sgrin.
Cofiwch: Gall gweithfan wael arwain at anhwylderau cyhyrysgerbydol corfforol, blinder gweledol a blinder a straen meddyliol. Ailwiriwch eich gweithfan trwy ddilyn y fideos hyn:
Gweithfan HSE wedi'i sefydlu gartref ac yn y swyddfa - ystum da
Ergonomeg Gliniadur - Cynghorion Sylfaenol - Defnyddio Gliniadur yn y Cartref
Eitemau Ychwanegol i'w Nodi
Offer trydanol - Mae'n ofynnol i staff wirio offer trydanol, gwifrau estyniad, plygiau a socedi a ddefnyddir i weithio gartref yn aml.
Llithro a baglu - Yn union fel ar y safle, gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich ardal waith yn glir o rwystrau a cheblau llusgo ac ati.
Digwyddiadau - Os ydych yn cael damwain gartref oherwydd y gweithgaredd gwaith yr ydych yn ei wneud neu oherwydd yr offer a ddarparwyd i chi, cofiwch lenwi Ffurflen Digwyddiad.
Canllawiau TG ar Weithio Gartref
Mae Gwasanaethau TG wedi darparu rhestr o dasgau y gallwch eu cyflawni oddi ar y campws a rhywfaint o gyngor gwych ar gyrchu rhaglenni, a hyd yn oed cymorth â chysylltiad rhyngrwyd gwael.
Y Diwrnod Gwaith
1. Ceisiwch sefydlu ‘ardal waith’ bwrpasol, lle nad oes unrhyw flerwch a phethau i dynnu eich sylw.2. Os gallwch, gweithiwch dan olau naturiol ac ymhell oddi wrth olau artiffisial llachar.
3. Codwch a gwisgwch fel petaech yn mynd i weithio (hyd yn oed os mai dillad cyfforddus y byddwch yn eu gwisgo) - mae'n ffordd o wahanu gwaith a bywyd cartref.
4. Mae'n hawdd ymgolli yn eich gwaith heb sylweddoli nad ydych wedi symud am sbel. Symudwch o gwmpas yn aml. Po fwyaf ‘dros dro’ yw eich man gwaith, y pwysicaf yw eich bod yn symud digon.
5. Os oes gennych chi swyddfa gartref dda, cymerwch seibiant am 5-10 munud bob awr. Os nad ydych yn cymryd saib mwy rheolaidd bob 20-30 munud.
6. I osgoi blinder llygaid dylech newid ffocws neu agor a chau eich llygaid o bryd i'w gilydd. Edrychwch ar y .
7. Codwch a gwnewch ychydig o ymarferion ymestyn, fel y rhain - .
8. Pennwch amser i gael cinio a phaned. Cadwch atynt a gadael eich ‘ardal waith’ yn ystod y cyfnodau hyn.
Cadw Mewn Cysylltiad
Er bod manteision i weithio gartref, mae angen i chi hefyd gadw mewn cysylltiad cyson â'ch Rheolwr a'ch cydweithwyr tra byddwch yn gweithio gartref. Defnyddiwch y dechnoleg sydd ar gael i gadw mewn cysylltiad â chydweithwyr a rheolwr e.e. e-byst, galwadau ffôn, FaceTime, WhatsApp.
Gwybodaeth Bellach
- Adnoddau Dynol - Gweithio Deinamig
- Tudalen We Gweithio ar eich pen eich hun
- Canllawiau IOSH - Rheoli Gweithio o Bell