Defnyddio Offer Codi'n Ddiogel
Fel y gwyddoch, caiff defnydd 'Offer Codi' yn y Brifysgol ei reoli gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, yn benodol gan 'Reoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998' (LOLER). O dan reoliadau LOLER mae'n rheidrwydd statudol archwilio a phrofi'r holl offer codi o bryd i'w gilydd - mae hynny hefyd yn rheidrwydd gan Yswirwyr y Brifysgol.
Er mwyn sicrhau y caiff yr holl offer perthnasol eu 'profi a'u harchwilio' yn unol â'r gofynion statudol mae'n rhaid i bob Adran roddi manylion pob eitem o 'offer codi' sydd ganddi neu y mae'n eu defnyddio. Rhaid cynnwys manylion y Rhifau Cyfresol, y Gwneuthuriad, y Disgrifiad a'r Lleoliad.
I helpu adnabod offer codi, dyma rai enghreifftiau isod:
- Craeniau
- Wagenni Fforch Godi
- Platfformau Gweithio Hydrolig
- Rhaffau a Phwlïau
- Pwli a Rhaff
- Rhaffau a slingiau a ddefnyddir i godi
- Gefynnau Codi
- Jaciau Troli
- Lifft Lestri
- Cadwyni Codi
- Berau Potel
- Tryciau Platfform
- Tryciau Paledi
Rhaid cofnodi pob eitem o offer codi gyda Swyddog Yswiriant y Brifysgol a'i archwilio'n ffurfiol ar gyfnodau penodol gan Beiriannydd Cymwys (i'w drefnu trwy'r Swyddog Yswiriant).
Rhagor o Wybodaeth