Diogelwch y Laser
Ciwbiau Laser ac Offer Adloniant Laser Tebyg (laserau Dosbarth 3 a 4)
Sylwch fod angen cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Iechyd a Diogelwch i ddefnyddio ciwbiau laser ac offer adloniant tebyg, gan gynnwys defnydd gan 3ydd Parti ar ran Ysgol / Gwasanaeth.
Rhagymadrodd
Ymbelydredd electromagnetig yw pelydr laser (fel golau bwlb golau) a gall fod yn yr is-goch, y gweladwy neu'r uwchfioled ar y sbectrwm. Defnyddiwyd laserau gyntaf mewn cymwysiadau milwrol ac ymchwil ond heddiw maen nhw i'w cael mewn llawer o ddiwydiannau e.e. meddygaeth, y swyddfa ac yn y cartref.
Mae maint laserau yn amrywio o'r microsgopig i'r enfawr ac mae defnyddiau amrywiol iawn iddynt. Mae'r difrod y gall laser ei wneud yn dibynnu ar bŵer a thonfedd y pelydr laser a'r llygaid a'r croen sydd yn y perygl mwyaf o gael eu difrodi gan belydr.
Yn 2010 cyflwynwyd deddfwriaeth newydd i . Yn y bôn yn ogystal â nodi nifer o hanfodion, mae'r Rheoliadau wedi ategu'r angen am ddulliau rheoli a dyna sydd ar waith erioed yma yn y Brifysgol ac maent wedi'u hymgorffori yn Safon Polisi Defnydd Diogel Laserau'r Brifysgol a'r Daflen Wybodaeth gysylltiedig.
POLISI DEFNYDDIO LASERAU'N DDIOGEL
&
DAFLEN WYBODAETH
&
FFURFLEN LF1, FFURFLEN LF2, FFURFLEN LF3
Mae'r cynllun Dosbarthu Laserau, a luniwyd yn wreiddiol yn Safon Brydeinig BS EN 60825-1, yn ei hanfod yn safon sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu ar gyfer cynhyrchion laser ond sydd hefyd yn cefnogi diogelwch laserau. Mae gan y Safon hefyd rannau eraill yn y gyfres 60825 sy'n ymdrin â defnyddiau penodol ac yn cynnig arweiniad i ddefnyddwyr.
Mae'r dosbarthiadau fel a ganlyn:
Dosbarth 1 | Yn ddiogel i'w ddefnyddio o dan yr holl amodau defnydd a ragwelir yn rhesymol. |
Dosbarth 1M | Fel Dosbarth 1 ond ddim yn ddiogel wrth edrych gyda chymhorthion optegol fel loupes llygaid neu ysbienddrych. |
Dosbarth 1C | Fe'i lluniwyd yn benodol ar gyfer cyswllt â'r croen neu feinwe anocwlaidd e.e. cynhyrchion tynnu gwallt. |
Dosbarth 2 | (Pelydrau laser gweladwy yn unig). Credir bod y ffaith bod pobl yn blincio'n ddigon i warchod rhag niwed, er y gallai fod yn beryglus dros gyfnod hir. |
Dosbarth 2M | Fel Dosbarth 2 ond ddim yn ddiogel wrth edrych gyda chymhorthion optegol fel loupes llygaid neu ysbienddrych. |
Dosbarth 3R | Yn fwy tebygol o achosi niwed i'r llygad na laserau dosbarth is ond nid oes angen cymaint o ddulliau rheoli arnynt â laserau dosbarth uwch. |
Dosbarth 3B | Niwed i'r llygaid yn debygol o edrych ar y pelydr yn uniongyrchol neu adlewyrchiadau sgleiniog. |
Dosbarth 4 | Niwed i'r llygaid a'r croen yn debygol o'r prif belydr laser a phelydrau sy'n adlewyrchu. Gallant hefyd achosi tanau. |
Ceir mwy o wybodaeth am ddefnyddio laserau'n gyffredinol gan y Iechyd a Diogelwch. I gael help penodol ar ddefnyddio laserau Dosbarth 3b a Dosbarth 4, cysylltwch â Swyddog Diogelwch Laser y Brifysgol, Dr. Yanhua Hong yn yr Ysgol Peirianneg Electronig.
Ymbelydredd Optegol/Ymbelydredd Optegol Artiffisial (AOR)
Term arall am olau yw ymbelydredd optegol, sy'n cynnwys ymbelydredd uwchfioled (UV), golau gweladwy, ac ymbelydredd is-goch. Gelwir unrhyw ffynhonnell o olau a wneir gan ddyn, p'un a yw'n weladwy neu'n anweledig, yn ymbelydredd optegol artiffisial (AOR).
Dilynwch y cyswllt yma am ragor o wybodaeth.