Ymbelydredd Optegol
Dogfennau Allweddol y Brifysgol
- Defnydd Diogel o Safon Polisi Ffynonellau Golau Ymbelydredd Optegol Artiffisial
- Taflen Wybodaeth: Rheoli Peryglon Golau UV a Gynhyrchir gan Offer Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw Ymbelydredd Optegol
Mae ymbelydredd optegol yn derm arall ar gyfer golau, sy'n cynnwys ymbelydredd uwchfioled (UV), golau gweladwy, ac ymbelydredd is-goch. Gelwir unrhyw ffynhonnell golau a wnaed gan ddyn, p'un a yw'n weladwy neu'n anweledig, yn ymbelydredd optegol artiffisial (AOR).
Mae'n debyg bod y risgiau mwyaf i iechyd yn dod o:
-
Ymbelydredd UV o'r haul. Gall amlygiad y llygaid i ymbelydredd UV niweidio'r gornbilen. Mae'r effeithiau ar y croen yn amrywio o gochni, llosgi a heneiddio'n gyflym, i wahanol fathau o ganser y croen.
-
Camddefnyddio laserau pwerus. Gall laserau pwer uchel achosi niwed difrifol i'r llygad (gan gynnwys dallineb) yn ogystal â llosgi croen.
Deddfwriaeth
Daeth y i rym ar 27 Ebrill 2010. Mae'r Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i'r Brifysgol amddiffyn llygaid a chroen pobl rhag dod i gysylltiad â ffynonellau peryglus ymbelydredd optegol artiffisial (AOR). Gwneir hyn trwy'r broses asesu risg.
Yn y Brifysgol
Mae Ymbelydredd Optegol Artiffisial yn cynnwys golau a allyrrir o bob ffynhonnell artiffisial yn ei holl ffurfiau megis trawstiau uwchfioled, is-goch a laser (ac eithrio golau haul).
Rhaid i Golegau/Ysgolion/Adrannau nodi offer/gweithgareddau a allai gynhyrchu AOR, asesu'r risgiau y mae pobl yn agored iddynt; yna rhoddir rheolaethau priodol ar waith i ddileu neu liniaru'r risg.
Yn y Brifysgol, daw'r prif ffynonellau amlygiad i AOR o:
- Laserau
- Golau uwchfioled a gynhyrchir gan offer sy'n seiliedig ar Wyddoniaeth
Gwybodaeth Bellach
- Laserau: Gwefan Iechyd a Diogelwch
- Weldio a