Menig a thrin cemegion a gwydr ac ati ... gyda gofal
Ydych chi'n defnyddio cemegion ac ati? Os ydych, pa fenig fyddwch chi'n eu gwisgo? Ydych chi'n gwisgo'r math cywir? Pa wahaniaeth mae hynny'n ei wneud?
Mae dewis y menig cywir a mwyaf addas yn gymhleth, ac mae'n anodd dirnod i ba raddau y byddant yn eich amddiffyn. Os yw menig amddiffynnol yn cael eu gwisgo'n anghywir gallant hefyd achosi problemau iechyd i'r gwisgwr:
- Halogydd yn mynd i mewn i'r faneg
- Gwisgo'r menig am gyfnodau hir gan achosi chwys, sydd ei hun yn llidydd
- Adwaith alergaidd i rwber naturiol
Mae gan bob pâr o fenig a ddefnyddir i amddiffyn rhag cemegion a pheryglon biolegol Gyfradd Treiddio - sef y gyfradd y bydd cemegyn yn treiddio 'trwy'r' faneg ac at y croen. Mae'n hanfodol deall beth yw'r Gyfradd hon a sut y bydd y menig yn effeithio ar waith.
Er mwyn deall sut y gall ac na all menig eich amddiffyn - mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cynhyrchu HSG205: Assessing and managing risks from skin exposure to chemical agents. (copi ar gael i'w weld o dan drwydded i ddefnyddwyr Prifysgol Bangor yn unig)
Mae cysylltiadau defnyddiol eraill, gan gynnwys siartiau a chanllawiau treiddio cemegol a diraddio cemegol ar gael yn:
-
- siart lliw ddefnyddiol ar gyfer cydweddoldeb cemegion labordy cyffredin ac amseroedd treiddio
-
- siart lliw addysgiadol ar gyfer menig labordy 'cyffredin'
-
Canllaw Dewis Menig yr HSE - selecting protective gloves for work with chemicals
- - siart cemegion
Cofiwch, nid yw'r ffaith eich bod chi'n gwisgo menig yn golygu eich bod chi'n rhydd o risg halogiad. Rhaid i'r menig fod y menig cywir ar gyfer y perygl cemegol neu fiolegol, rhaid newid y menig yn rheolaidd ac ar ôl cyffwrdd â chemegion. Er enghraifft, os yw aseton mewn cysylltiad â Maneg Lab latecs bydd yn treiddio i'r faneg mewn tua 3 munud ac yn mynd ar y croen, ar gyfer menig labordy Nitrile mae'r amser treiddio yn cael ei fesur mewn eiliadau!
Nid oes UN faneg labordy sy'n addas i bob senario.
Asesiadau Risg / COSHH
Rhaid i'r camau i'w dilyn wrth ddewis menig addas ar gyfer y gwaith fod yn rhan annatod o'r broses Asesu Risg / COSHH, gan nodi'r deunydd a'r offer cywir, gan gynnwys Cyfarpar Diogelu Personol, yn glir. Dylai'r dogfennau hyn ystyried yr holl gyfarpar diogelu personol, gan gynnwys menig i sicrhau bod y menig priodol yn cael eu dewis a bod defnyddwyr yn gwybod sut i'w defnyddio; h.y. eu gwisgo amdanoch, eu defnyddio, eu tynnu oddi amdanoch a'u gwaredu, heb eu difrodi a heb eu gwneud yn anniogel.
Ystyriwch anghenion yr unigolyn bob amser h.y. y rhai ag alergedd latecs yn ystod y broses Asesu Risg / COSHH.
Mae rhagor o ganllawiau ynglyn â Chyfarpar Diogelu Personol i'w gweld yma.