Cyfarpar Diogelu Personol (PPE)
Cyfarpar sy’n diogelu’r defnyddiwr rhag risgiau iechyd neu ddiogelwch yn y gwaith yw cyfarpar diogelu personol. Gall gynnwys eitemau fel helmedau diogelwch, menig, sbectol, dillad llachar, esgidiau diogelwch a harneisiau diogelwch. Mae hefyd yn cynnwys cyfarpar diogelu resbiradol (RPE). Daw’r canlynol o )
Mae'r daflen wybodaeth ar ddewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol, ond dyma’n fras mae’n ei chynnwys:
Pam mae cyfarpar diogelu personol yn bwysig?
Mae gwneud y gweithle’n ddiogel yn cynnwys darparu cyfarwyddiadau, gweithdrefnau, hyfforddiant a goruchwyliaeth i annog pobl i weithio mewn modd diogel a chyfrifol.
Hyd yn oed ar ôl rhoi rheolyddion peirianneg a systemau gwaith diogel ar waith, gallai rhai peryglon barhau. Mae'r rhain yn cynnwys anafiadau i’r canlynol:
- Yr ysgyfaint, e.e. ar ôl anadlu aer halogedig
- Y pen a'r traed, e.e. o bethau’n disgyn
- Y llygaid, e.e. o ronynnau neu hylifau cyrydol yn tasgu
- Y croen, e.e. o gysylltiad â deunyddiau cyrydol
- Y corff, e.e. o eithafion gwres neu oerfel
Mae angen cyfarpar diogelu personol yn yr achosion hyn i leihau'r risg
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud?
Defnyddiwch cyfarpar diogelu personol fel dewis olaf yn unig
- Os oes angen cyfarpar diogelu personol ar ôl gweithredu rheolyddion eraill (a bydd amgylchiadau pan fydd ei angen, e.e. amddiffyniad pen ar fwyafrif y safleoedd adeiladu), rhaid i chi ei ddarparu i'ch gweithwyr yn rhad ac am ddim
- Rhaid i chi ddewis y cyfarpar yn ofalus (gweler y manylion isod) a sicrhau bod gweithwyr wedi eu hyfforddi i'w ddefnyddio'n gywir, a'u bod yn gwybod sut i nodi ac adrodd am unrhyw ddiffygion
Dewis a Defnyddio
Dylech ofyn y cwestiynau canlynol i chi eich hun:
- Pwy sydd mewn perygl ac o beth?
- Am ba hyd byddant mewn perygl?
- Faint o berygl maent ynddo?
Wrth ddewis a defnyddio cyfarpar diogelu personol:
- Dewiswch eitemau sydd â marc CE yn unol â Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol - gall cyflenwyr eich cynghori
- Dewiswch offer sy'n addas i'r defnyddiwr - ystyriwch faint, ffit a phwysau'r cyfarpar. Os yw'r defnyddwyr yn helpu ei ddewis, byddant yn fwy tebygol o'i ddefnyddio
- Os oes mwy nag un eitem o gyfarpar diogelu personol yn cael ei gwisgo ar yr un pryd, cofiwch sicrhau y gellir eu defnyddio gyda'i gilydd, e.e. gall gwisgo sbectol ddiogelwch darfu ar sêl anadlydd, gan achosi i aer ollwng
- Cyfarwyddo a hyfforddi pobl sut i'w ddefnyddio, e.e. hyfforddi pobl i dynnu menig heb halogi eu croen. Dywedwch wrthynt pam fod ei angen, pryd i'w ddefnyddio a beth yw ei gyfyngiadau
Cyngor arall ar gyfarpar diogelu personol
- Peidiwch byth â chaniatáu eithriadau rhag gwisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer y tasgau hynny sydd ‘ddim ond yn cymryd ychydig funudau’
- Gwiriwch â'ch cyflenwr pa gyfarpar diogelu personol sy'n briodol - esboniwch y dasg iddynt
- Os ydych yn ansicr, gofynnwch am gyngor pellach gan gynghorydd arbenigol
- SYLWER: O dan reoliadau cyfarpar diogelu personol, dylid darparu cyfarpar at ddefnydd personol yn unig oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio am gyfnodau cyfyngedig ac y gellir ei lanhau'n drylwyr i sicrhau nad oes unrhyw risgiau iechyd i'r person nesaf
Cynnal a Chadw
Rhaid gofalu am gyfarpar diogelu personol yn gywir a'i storio pan nad yw'n cael ei ddefnyddio, e.e. mewn cwpwrdd sych, glân. Os gellir ei ailddefnyddio, rhaid ei lanhau a'i gadw mewn cyflwr da. Meddyliwch am y canlynol:
- Defnyddio'r rhannau newydd cywir sy'n cyfateb i'r gwreiddiol, e.e. hidlwyr anadlydd
- Sicrhau bod cyfarpar diogelu personol newydd ar gael
- Pwy sy'n gyfrifol am gynnal a chadw a sut dylid ei wneud
- Cael cyflenwad o siwtiau tafladwy priodol sy'n ddefnyddiol i dasgau budr lle mae costau golchi dillad yn uchel, e.e. i ymwelwyr sydd angen dillad diogelwch
- Gellir sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a rennir (dim ond am gyfnodau cyfyngedig yn unig) yn cael ei lanhau'n drylwyr er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risgiau iechyd i'r person nesaf
Rhaid i weithwyr wneud defnydd priodol o gyfarpar diogelu personol a rhoi gwybod os caiff eitemau eu colli neu eu dinistrio neu am unrhyw ddiffygion.
Monitro ac Adolygu
Gwiriwch yn rheolaidd bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddefnyddio. Os nad ydyw, ewch ati i ddarganfod pam
- Gall arwyddion diogelwch atgoffa pobl y dylid gwisgo cyfarpar diogelu personol
- Sylwch ar unrhyw newidiadau o ran cyfarpar, deunyddiau a dulliau - efallai y bydd rhaid i chi ddiweddaru'r hyn rydych yn ei ddarparu
Rhagor o wybodaeth