Cysylltiadau cyflym
- Diogelwch rhag Tân
- Templed Asesiad DSEAR
- Hysbysiadau Statudol (ffrwydron)
- Pyrotechneg
Tân a Ffrwydrad
I gael gwybodaeth a chefnogaeth benodol ar asesu risgiau sylweddau fflamadwy ac atmosfferau ffrwydrol (DSEAR), cysylltwch â'r Iechyd a Diogelwch yn y lle cyntaf. I gael gwybodaeth ynglŷn â ffrwydron (Dosbarth 1) gweler yr Hysbysiadau Statudol.
Rhaid ystyried pob risg o dân a ffrwydrad yn asesiad risg eich labordy/gweithgaredd yn y lle cyntaf. Lle bo hynny'n briodol ac yn gymesur â lefel y risg, efallai y bydd rhaid gwneud asesiad manwl.
Cyffredinol
Gall hylifau a chynhyrchion fflamadwy fod yn hynod beryglus os na chânt eu trin neu eu storio'n gywir. Gall trin, defnyddio a storio amhriodol arwain at danau a ffrwydradau, damweiniau a digwyddiadau difrifol, gan achosi marwolaeth a difrod i eiddo a'r amgylchedd. Ceir risg debyg gyda llwch penodol ac atmosfferau ffrwydrol eraill.
Fel rheol gyffredinol, dylai unrhyw un sy'n defnyddio hylifau fflamadwy wneud y canlynol:
- Tynnu'r holl ffynonellau tanio amlwg o'r mannau storio a thrin, e.e. gwreichion o offer trydanol, arwynebau poeth, fflamau agored o offer gwresogi a thrydan statig.
- Defnyddio cyn lleied â phosib a dychwelyd y cynwysyddion ar unwaith i'r man storio diogel.
- Sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â'r gweithgaredd yn gwybod pa gamau i'w cymryd os bydd tân.
- Sicrhau bod offer diffodd tân addas ar gael, gydag arwyddion clir sut i'w ddefnyddio'n gywir.
- Ni ddylid byth ychwanegu ocsigen wedi ei gyfoethogi at yr awyrgylch.
Mewn sefyllfaoedd prin iawn efallai y bydd angen 'parth' atmosfferau a allai fod yn ffrwydrol er mwyn gweithredu rheolyddion ychwanegol i leihau'r risg o greu ffrwydrad.
Parth 0:Â Cymysgedd tanwydd ffrwydrol-aer yn bresennol drwy'r amser neu am gyfnodau hir.
Parth 1:Â Cymysgedd tanwydd ffrwydrol-aer yn debygol o ddigwydd yn ystod gweithrediad arferol.
Parth 2: Nid yw cymysgedd tanwydd ffrwydrol-aer yn debygol o ddigwydd yn ystod gweithrediad arferol, ac os bydd yn digwydd dim ond am gyfnod byr y bydd yn bodoli.
Parth 20: Rhyddhau parhaus y tu mewn i offer cyfyngu llwch caeedig lle ceir awyrgylch ffrwydrol, ar ffurf cwmwl o lwch llosgadwy yn yr aer, yn bresennol yn barhaus, neu am gyfnodau hir neu'n aml am gyfnodau byr.
Parth 21: Man lle mae awyrgylch ffrwydrol, ar ffurf cwmwl o lwch llosgadwy yn yr aer, yn debygol o ddigwydd weithiau yn ystod gweithrediad arferol.
Parth 22: Man lle nad yw awyrgylch ffrwydrol, ar ffurf cwmwl o lwch llosgadwy yn yr aer, yn debygol o ddigwydd yn ystod gweithrediad arferol ond, os bydd yn digwydd, bydd yn parhau am gyfnod byr yn unig.
Arddangos arwyddion 'EX' lle ceir risg o awyrgylch ffrwydrol.
Sylwer: Nid oes unrhyw adeiladau/ardaloedd Parth 0-1 na Pharth 20-22 ar brif gampysau'r brifysgol.
Trefniadau Argyfwng
-
Rhaid i drefniadau argyfwng ystyried natur/maint y sylweddau sy'n cael eu storio; lleoliad y cyfleuster storio a phawb y gallai hyn effeithio arnynt.
-
Sicrhau bod pawb y gallai hyn effeithio arnynt yn cael eu hyfforddi yn y trefniadau argyfwng. Mae hyn yn cynnwys ymwelwyr a phersonél perthnasol e.e. y Gwasanaethau Brys.
-
Arddangos copïau o'r trefniadau argyfwng o amgylch y lle gwaith.
-
Cadw gweithgareddau gwaith sy'n defnyddio'r sylwedd mor bell â phosib o lwybrau gwagio adeiladau.
Hyfforddiant
-
Rhaid i'r holl staff a myfyrwyr gael eu hyfforddi i storio a thrin a thrafod hylifau fflamadwy yn ddiogel a'r camau i'w cymryd mewn argyfwng.
-
Rhaid i staff a myfyrwyr ddeall sut i ddefnyddio unrhyw gyfarpar diogelu personol a ddarperir i reoli unrhyw risg