Defnyddio Cyfrifiaduron yn Ddiogel - Aseswyr
Mae hyfforddi aseswyr ar Ddefnyddio Cyfrifiaduron yn Ddiogel yn galluogi unigolion i asesu rhestrau gwirio er mwyn nodi unrhyw newidiadau neu ddarpariaethau ychwanegol a all fod yn ofynnol.Mae'n darparu gwybodaeth sut i greu systemau cofnodi ac yn rhoi arddangosiadau ymarferol ychwanegol i alluogi aseswyr i roi cyngor pellach wrth argymell a blaenoriaethu unrhyw gamau neu brynu offer ychwanegol i ddefnyddwyr cyfrifiadurol o fewn eu mannau gwaith.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Unrhyw un sy’n gweithredu fel Aseswr OSA Coleg / Adran / Ysgol.
Amcan y gweithdy
Galluogi unigolion i gyflawni gwaith Aseswr OSA er mwyn nodi risgiau o weithgareddau cyfrifiadurol o fewn eu mannau gwaith a’u lleihau.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
• Deall sut mae Aseswyr OSA yn adolygu ffurflenni risg OSA i nodi, argymell ac/neu gyflawni camau gweithredu sydd eu hangen
• Nodi camau gweithredu, yn cynnwys cyfeirio neu adolygu, awgrymiadau addasu i weithfannau presennol, argymhellion ar gyfer offer newydd a/neu brynu ychwanegol yn ôl y gofyn
• Nodi a chynhyrchu cofnodion yn y fformat y dylai Aseswyr OSA eu cadw
Cynnwys
Deall yr offer cywir a sut i osod y weithfan: gan gynnwys addasu'r weithfan i'r gweithiwr, nid y gweithiwr i'r weithfan.
Deall ac adnabod problemau iechyd sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfrifiadur: atal - nid gwella.
Deall y buddion y mae'r Brifysgol yn eu cynnig mewn profion llygad am ddim a sbectol presgripsiwn i ddefnyddio cyfrifiaduron, a chynnal y broses hon a chofnodion.
Blaenoriaethu camau gweithredu a phethau y mae angen eu prynu.
Cofnodion a chadw cofnodion.
Hyd
3 awr
Noder: mae'r cwrs yn cynnwys y cwrs Defnyddio Cyfrifiaduron yn Ddiogel
Gellir dilyn y cwrs hwn gydag ymweliad safle ymarferol i gynorthwyo gydag asesu yn eu mannau gwaith eu hunain
Dulliau Dysgu
Gweithredir hyn trwy weithgareddau cyflwyno, arddangos ac ymarferol.
Asesu
Nid yw'r cwrs wedi'i asesu.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk