Gweithio ar Uchder
Defnyddio ysgolion a sgaffaldiau cludadwy.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Unrhyw un sy'n defnyddio ysgolion / ysgolion bychain neu sgaffaldiau cludadwy yn eu gwaith.
Amcan y gweithdy
Rhoi gwybodaeth a chanllawiau i alluogi unigolion i weithio’n ddiogel ar uchder gan ddefnyddio'r offer cywir.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
• Dewis yr offer cywir ar gyfer y swydd
• Cynnal archwiliadau offer
• Trefnu a chwblhau gwaith tasgau uchder mewn modd priodol
Cynnwys
Dewis offer addas - yr un cywir ar gyfer y gwaith
Defnyddio offer yn ddiogel - lleoliad - math - gosod
Dewis offer diogel - stepiau, ysgol, sgaffald tŵr
Archwilio, gwiriadau a chadw cofnodion
Hyd
2 awr
Dylliau Dysgu
Gweithredir hyn trwy weithgareddau cyflwyno, arddangos ac ymarferol.
Asesu
Nid yw'r cwrs wedi'i asesu.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk