Nofio a Chanolfannau Hamdden
Os ydych yn mwynhau nofio neu hyd yn oed erobeg dŵr mae yna nifer o leoliadau yn yr ardal neu yn agos at ble rydych yn byw. Mae oriau agor yn amrywio yn ddibynnol ar amser y flwyddyn a gwyliau ysgol ac ati, felly cysylltwch â'r ganolfan am fanylion pellach.
PWLL NOFIO BANGOR
Ffordd Y Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2SD, Ffôn: (01248) 370600, Safle We:
Mae'r baddonau efo gyfleusterau hygyrch. Mae'r Ganolfan hefyd hefo gaffi a man gwylio, dau faes pêl-droed 5-bob-ochr ac Ystafell Ffitrwydd newydd.
CANOLFAN HAMDDEN PLAS ARTHUR, LLANGEFNI
Penrallt, Llangefni, Anglesey, LL77 7QX, Ffôn: (01248) 722966 / 752040, Safle We:
Yn ogystal pwll 25m â phwll babanod ar wahân mae'r Ganolfan efo Canolfan Ffitrwydd ac mae'n darparu amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd.
CANOLFAN HAMDDEN AMLWCH
Pentrefelin, Amlwch, Anglesey, LL68 9TH, Ffôn: (01407) 830060, Safle We:
Mae'r Ganolfan yn darparu nid yn unig bwll 25m, ond hefyd campfa newydd ei hadnewyddu. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd yn cael eu darparu hefyd.
CANOLFAN HAMDDEN CAERGYBI
Kingsland, Holyhead, Anglesey, LL65 2YE, Ffôn: (01407) 764111, Safle We:
Mae gan Gaergybi bwll nofio mawr 25m a phwll bach i’r babanod. Mae'r Ganolfan hefyd efo campfa fawr newydd ei hadnewyddu gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd.
PLAS MENAI
National Watersports Centre, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1UE, Ffôn: 01248 670964, Safle We:
Mae'r pwll nofio ym Mhlas Menai efo raglen brysur o sesiynau cyhoeddus a gwersi nofio. Yn ogystal, mae'r Ganolfan yn darparu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon dŵr ac efo campfa, wal ddringo a llwybr beicio mynydd.
CANOLFAN NOFIO LLANDUDNO
Mostyn Broadway, Llandudno, Conwy. LL30 1YR, Ffôn: (01492) 575900, Safle We:
Mae'r Ganolfan efo bwll nofio 8 lôn gellir eu defnyddio ar gyfer sesiynau a gwersi. Mae hefyd efo bwll hyfforddiant ar wahân ar gyfer gwersi nofio a sesiynau mam a babi.
CANOLFAN HAMDDEN A GWEITHGAREDDAU'R BYD DWR
Bodhyfryd, Wrexham, LL13 8DH, Ffôn: (01978) 297300, Safle We:
Mae'r cyfleusterau dŵr yn cynnwys pwll cystadlu 25 metr â 6 o lonydd a chadeiriau, pyllau i ddysgwyr a derbyniadau, llithren 65 metr, phwll bybylu hamddenol a reid dyfroedd gwylltion. Yn ogystal mae yna Ystafell Ffitrwydd sydd â mwy na 40 o ddarnau o offer cardiofasgwlaidd a gwrthiannol ac Ystafell Iechyd sy’n cynnwys jacwsi, sawna ac ystafell stêm.
CANOLFAN HAMDDEN ABERGELE
Faenol Avenue, Abergele, Conwy, LL22 7HT, Ffôn: (01492) 577940, Safle We:
Mae gan y Ganolfan lawer i'w gynnig yn y ffordd o gyfleusterau gan gynnwys Prif Neuadd, ystafell ffitrwydd, caeau awyr agored a phwll nofio.
CANOLFAN HAMDDEN BAE COLWYN
Eirias Park, Bae Colwyn, Conwy. LL29 7SP, Ffôn: (01492) 577900, Safle We:
Mae Canolfan Hamdden Colwyn lawer i'w gynnig mewn cyfleusterau gan gynnwys Prif Neuadd, ystafell ffitrwydd, caeau awyr agored, cwrt sboncen a phwll nofio.
CANOLFAN HAMDDEN CYFFORDD LLANDUDNO
Ffordd 6G, Llandudno Junction, Conwy. LL31 9XY, Ffôn: 01492 577925, Safle We:
Nid oes gan y Ganolfan pwll nofio, ond mae o efo wal ddringo dan do, ystafell ffitrwydd Storm, cyrtiau sboncen a Prif Neuadd lle mae amrywiaeth o weithgareddau yn digwydd.
CANOLFAN HAMDDEN BEAUMARIS
Rating Row, Beaumaris, Anglesey, LL58 8AL, Ffôn: (01248) 811200, Safle We:
Nid yw'r Ganolfan efo pwll nofio ond mae yna gampfa gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd.
CANOLFAN HAMDDEN DAVID HUGHES
Ysgol David Hughes, Menai Bridge, Anglesey, Ffôn: (01248) 715653, Safle We:
Nid yw'r Ganolfan efo pwll nofio ond mae ganddi neuadd chwaraeon gellir eu harchebu ar gyfer pob math o weithgareddau. Mae yna hefyd campfa fodern ac amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gael.