Cerdded
Ar y tudalen we yma ceir rhai llwybrau o wahanol fannau ar safleoedd Bangor a Porthaethwy a hefyd rhai llwybrau hanesyddol i chi ddod i adnabod yr ardal. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnig llwybrau o’n holl safleoedd ni i staff eu mwynhau.
Yn hytrach na chymryd eich car i gyfarfodydd mewn rhannau eraill o'r campws, a ydych wedi ystyried gadael y 10-15 munud ychwanegol i fynd am dro braf neu seiclo yn lle hynny? Rhan fwyaf o'r amser rydych yn treulio 5 munud yn chwilio am le parcio beth bynnag!
I gael amrywiaeth o lwybrau o le rydych yn byw neu gampws Wrecsam ewch i’r tudalen yma. Mae yna ddewis o lwybrau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn Llŷn, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Chyngor Conwy.
Mae'r clwb Undeb Myfyrwyr yma yn cynnig pob cyfle i fyfyrwyr a staff wneud y mwyaf o'r cyfle i archwilio nid oes ots os ydych yn ddechreuwr neu'n gerddwr fryn profiadol.
Cyn dechrau allan gwell edrych ar y tywydd!!!
Yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a diddan, ond hefyd yn darparu hanes o'r ardal.
Eryri Ramblers
Mae cerdded yn ffordd wych o gadw'n heini ac mae'r Cerddwyr yn ffordd wych o gymdeithasu a chwrdd â phobl newydd wrth gerdded. Croeso i bawb i ddod draw. Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chris ar 01248 382413.
Cerdded Conwy Walks
Mae Cerdded Conwy yn grŵp annibynnol, nid er elw o Arweinwyr Teithiau Cerdded Gwirfoddol sy’n llunio rhaglenni cerdded tymhorol gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Gŵyl Gerdded Corwen
Mae Gŵyl Gerdded Corwen fel arfer yn cael ei chynnal diwedd mis Awst neu dechrau mis Medi. Mae Corwen yn le delfrydol ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad ac yn ganolfan wych i gerddwyr brwd gan fod nifer o deithiau cerdded yn arwain o’r dref sy’n addas i bawb.
Gŵyl Gerdded Barmouth
Mae Gŵyl Gerdded yn cymryd lle o diwedd mis Medi fel arfer. Mae'r Ŵyl Gerdded yn ddigwyddiad a sefydlwyd i fanteisio ar y teithiau cerdded gwych a thirwedd ddramatig sydd ar gael o'r Bermo, ar arfordir gorllewinol Cymru.