Ymwybyddiaeth o Ddiabetes
Mae ymwybyddiaeth Diabetes yn trio atal mwy o bobl rhag datblygu diabetes trwy eu haddysgu am arwyddion a ffactorau risg y cyflwr. Addysgwch eich hunan yn awr gan ddefnyddio’r prawf a’r wybodaeth isod i weld a allwch atal eich hun neu rywun arall yn eich teulu rhag datblygu diabetes.
- i helpu chi rheoli eich diabetes yn effeithiol a byw bywyd arferol ac iachus
Gwrandewch ar aelod o staff sydd efo diabetes at sut maent yn ymdopi yn waith
Atal diabetes
Ar hyn o bryd, ni ellir atal diabetes math 1. Ond gellir atal diabetes math 2 mewn llawer o achosion trwy beidio â bod dros eich pwysau a gwneud ymarfer corff.
Ffactorau risg diabetes
Ceir nifer o ffactorau risg i ddiabetes math 2. Maent yn cynnwys:
- Bod dros eich pwysau – gwasg yn mesur dros 37" i ddynion neu dros 31" i ferched
- Diffyg ymarfer corff
- Anoddefedd glwcos na nodwyd yn flaenorol
- Diet afiach
- Heneiddio
- Pwysedd gwaed uchel a cholesterol uchel
- Hanes o ddiabetes yn y teulu
- Hanes o ddiabetes yn ystod beichiogrwydd
- Ethnigrwydd - mae graddfeydd uwch o ddiabetes wedi eu canfod ymysg bobl o Asia, pobl Sbaenaidd, pobl frodorol (Unol Daleithiau, Canada, Awstralia) ac Americanwyr Affricanaidd
Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, ewch i weld eich meddyg teulu i gael prawf!
Deall diabetes: yr arwyddion
Dyma rai o arwyddion* diabetes:
- Pasio dŵr yn aml
- Syched eithafol
- Eisiau bwyd yn amlach
- Colli pwysau
- Blinder
- Diffyg diddordeb a chanolbwyntio
- Chwydu a phoenau yn yr ystumog (yn cael ei gamgymryd am y ffliw yn aml)
- Pinnau bach neu ddiffyg teimlad yn y dwylo neu’r traed
- Methu gweld yn glir
- Cael heintiau yn aml
- Clwyfau’n cymryd amser i wella
*Nid yw pawb gyda diabetes math 2 yn dioddef o’r rhain i gyd neu gallent ddioddef ffurf ysgafn arnynt.
Os ydych yn dioddef o’r symptomau hyn, ewch i weld meddyg!