Ymwybyddiaeth Asthma
Yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, mae llwch yn yr awyr yn gallu ysgogi adwaith alergeddol sy'n amrywio o symptomau clefyd y gwair i byliau o asthma ymhlith y rhai sydd wedi cael diagnosis o'r clefyd hwnnw.
Mae asthma hefyd yn gysylltiedig ag adegau o straen arbennig yn ein bywydau. Felly mae cyfuniad o'r tywydd ac arholiadau yn arwain at risg uwch o byliau asthma neu anawsterau anadlu ysgafnach. Mae’n werth ystyried camau ymarferol i osgoi dod i gysylltiad â phethau sy’n creu trafferthion anadlu a gallu delio ag unrhyw symptomau cyn iddynt fynd allan o reolaeth.
Drwy osgoi’r ysgogiadau sy’n gwneud eich symptomau asthma’n waeth, a thrwy gymryd eich moddion neu’ch ffisig asthma yn gywir, gellwch leihau eich symptomau a pharhau i fwynhau’ch ffordd arferol o fyw. Os yw eich meddyg wedi rhoi pwmp asthma i chi cofiwch sicrhau nad yw wedi mynd heibio’r dyddiad a bod gennych gyflenwad digonol gyda chi bob amser.
Os cewch bwl o asthma dilynwch y camau syml hyn os gwelwch yn dda:
- Gwnewch yn siŵr dy fod yn cymryd un neu ddau bwff o dy anadlydd lliniaru (glas fel arfer)
- Eisteddwch i fyny ac anadlu’n araf a phwyllog. Peidiwch â chynhyrfu a cheisiwch dawelu'r meddwl
- Os na fydd yna welliant sydyn yn ystod bwl, parhewch i roi dau bwff o'r anadlydd lliniaru bob dwy funud, i fyny i 10 pwff
- Os na fydd y symptomau wedi gwella ar ôl cymryd eich pwmp neu os oes gennych unrhyw amheuaeth - ffoniwch 999
- Os na fydd ambiwlans yn cyrraedd ymhen 15 munud, ailadroddwch gam 3 tra rwyt yn disgwyl
- Hyd yn oed os byddwch yn teimlo’n well, gwnewch yn siŵr dy fod yn gweld meddyg neu nyrs asthma o fewn 24 awr
Os ydych wedi cael pwl o asthma yn y brifysgol ffoniwch 333 am ambiwlans a staff cymorth cyntaf
Os ydych yn dioddef o glefyd y gwair gallwch brynu meddyginiaeth dros y cownter mewn unrhyw fferyllfa. Os ydych yn gyrru neu’n defnyddio peiriannau mae’n syniad da prynu meddyginiaethau nad ydynt yn debygol o'ch gwneud yn gysglyd.
I gael rhagor o gyngor ar asthma ffoniwch linell gymorth Asthma UK ar 08457 01 02 03 neu ewch i
Mae canllawiau HSE hefyd