Ymgymeriad mewn Archwilid Cerbydau
Pwy ddylai gymryd rhan?
Unrhyw un a enwebwyd gan yr Ysgol / Adran i gynnal archwiliadau wythnosol ar gerbydau a chynnal a chadw sylfaenol cerbydau.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Amcan y gweithdy
I roi digon o wybodaeth i alluogi cyfranogwyr i wneud gwiriadau cynnal a chadw sylfaenol, ond hanfodol, yn ddiogel ar gerbydau sy’n eiddo’r Brifysgol neu a brydlesir ganddi.
Manteision y gweithdy
Ar ddiwedd y sesiwn, dylech fedru gwneud gwiriadau diogelwch wythnosol ar gerbydau mewn ffordd fedrus ac yn unol â manylebau’r gwneuthurwr, Rheolau'r Ffordd Fawr a gofynion priodol y Brifysgol.
Cynnwys
- Cefndir y Polisi a'r Gyfraith
- Sesiwn ymarferol, teiars, hylifau a systemau
- Asesiad ymarferol o gerbyd
- Y gofynion o ran cadw cofnodion
Hyd
2 awr
Dulliau Dysgu
Sesiwn theoretig a ddilynir gan ymarferion ymarferol, gan ddiweddu gyda phrawf ymarferol syml.
Asesu
Mae'r cwrs yn cael ei asesu drwy arsylwi gwaith ymarferol a chwblhau archwiliad diogelwch cerbydau.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk