Hyfforddiant Asesu Risg Ymarferol
Rydym yn darparu sesiynau ymarferol byr i alluogi unigolion i gwblhau asesiadau risg ar gyfer eu meysydd gwaith eu hunain neu’r gweithgareddau y maent yn eu cyflawni.
Gall y rhain fod yn gyrsiau cyffredinol sy'n ymdrin a’r broses a'r gwaith papur gydag enghreifftiau cyffredinol, ond yn aml maent wedi eu haddasu i Golegau penodol, Adrannau neu grwpiau o staff gydag enghreifftiau o weithgareddau neu dasgau penodol, megis lleoliadau myfyrwyr neu waith cynnal a chadw gerddi a thir.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Pob aelod staff sy'n cymryd rhan mewn asesiadau risg ar gyfer eu gwaith eu hunain neu weithgareddau y gallant eu cyflawni. Unrhyw staff sy'n cynorthwyo myfyrwyr i gwblhau asesiadau risg ar gyfer eu projectau.
Amcan y gweithdy
I ddangos sut y gellwch gwblhau asesiad risg sy'n addas ar gyfer eich gwaith neu weithgaredd - heb greu pentwr o waith papur.
I allu egluro a helpu myfyrwyr i gwblhau asesiadau risg ar gyfer y projectau y maent yn eu gwneud.
Manteision y gweithdy
Erbyn diwedd y sesiwn hon dylech allu:
• deall y broses asesu risg
• cynorthwyo i gwblhau, cynhyrchu ac ysgrifennu asesiadau risg ar gyfer eich meysydd a’ch gweithgareddau eich hun
• deall y pwysigrwydd o gael asesiad risg a'r rheswm pam na ellir ystyried diffyg asesiad risg fel unrhyw amddiffyniad os aiff pethau o chwith!
Cynnwys
Y broses asesu risg - y pum cam
1. Adnabod y broblem
2. Pwy allai gael niwed a sut
3. Pwyso a mesur y risgiau a phenderfynu ar ragofalon
4. Cofnodi eich darganfyddiadau a'u rhoi ar waith
5. Adolygu eich asesiad risg a’i ddiweddaru os oes angen
Hyd
3 awr
Dulliau Dysgu
Sesiwn gyfranogol a rhyngweithiol fel y gall pobl ddatblygu a chynhyrchu eu hasesiadau risg eu hunain. Rhoi cyfle i ddysgu o brofiadau pobl eraill mewn grwpiau bychain.
Asesu
Nid yw'r cwrs wedi'i asesu.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk