Hylif Nitrogen
Mae Hylif Nitrogen yn hylif di-liw, heb arogl sy'n debyg o ran ymddangosiad i ddŵr ac fe'i defnyddir i gadw samplau biolegol, systemau pwmp gwactod, samplau oeri mewn microsgopau electron, cryostatau ar gyfer ymchwil tymheredd isel a systemau magnet uwch-ddargludol. Os na chaiff ei drin yn iawn gall achosi anafiadau difrifol a hyd yn oed marwolaeth felly mae'n hanfodol bod y canllawiau'n cael eu dilyn.