Profi Offer Trydanol Symudol
Cwrs a gynlluniwyd yn benodol i alluogi unigolion i archwilio a phrofi Offer Trydanol Symudol ar gyfer swyddfeydd, labordy ac amgylcheddau tebyg.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Unrhyw un sy'n bwriadu gweithredu fel profwr offer symudol i Goleg / Adran / Ysgol a gwneud gwaith archwilio a phrofi.
Amcan y gweithdy
Darparu gwybodaeth i alluogi cyfranogwyr i gynnal arolygiadau diogelwch hanfodol o offer trydanol symudol ac i ddefnyddio’n fedrus offer llaw profi trydanol darllen-uniongyrchol.
Cynnwys
• Cefndir a'r gyfraith
• Arolygiadau gweledol
• Defnyddio'r profwr
• Asesiad ymarferol
• Cadw cofnodion
Hyd
3-4 awr (yn dibynnu ar y nifer o gyfranogwyr)
Dulliau Dysgu
Gweithredir hyn trwy weithgareddau cyflwyno, arddangos ac ymarferol.
Dyddiadau’r Cwrs
I drefnu cwrs i'ch Coleg / Adran neu i fynd ar gwrs cysylltwch â ni ar 3847 neu anfonwch neges e-bost atom iechydadiogelwch@bangor.ac.uk