Trin yn Ddiogel yn y Gweithle - Sylfaenol
Hyfforddiant i rai sy’n gwneud gwaith codi a chario.
Mae hwn yn hyfforddiant ymarferol sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n ymgymryd codi a chario fel rhan o'u gwaith. Mae'n rhoi cyngor ymarferol ar sut i ofalu am eich cefn, gwybod beth y gellwch ei wneud a beth na ddylech roi cynnig arno, a nodi’r dulliau ymarferol gorau i wneud gwaith fel codi, gwthio a thynnu.
NODWCH: Nid ydym yn cynnig cyrsiau i bobl allanol sydd ddim yn staff y Brifysgol.
Pwy ddylai gymryd rhan?
Mae'r hyfforddiant hwn yn addas i unigolion sy'n gwneud gweithgareddau codi, cludo, gwthio neu dynnu yn ystod eu diwrnod gwaith arferol.
Amcan y gweithdy
Er mwyn atal anafiadau wrth godi a thrin a thrafod pethau yn y gwaith. Amcanion yn cynnwys:
- Rhoi gwybod i fynychwyr bod gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i leihau'r risg o anaf a achosir gan godi a chario pethau yn y gwaith a bod rhan o reoli risgiau’n cynnwys hyfforddiant i gyflawni tasgau’n ddiogel
a. Nid ydym eisiau i bobl gael eu hanafu yn y gwaith gan fod y canlyniad yn achosi poen a dioddefaint diangen
b. Pan fydd pobl i ffwrdd yn sâl, maent yn cael eu colli! - Bydd y sesiwn yn egluro beth yw codi a thrin a thrafod pethau a'r ffactorau risg i iechyd sy’n deillio o hynny. Yna defnyddir y diffiniad hwnnw yn sail ar gyfer dangos codi a thrin a thrafod diogel
- Bydd eglurhad syml yn disgrifio sut mae'r corff yn cyflawni gwaith codi a thrin a thrafod pethau a'r rhesymau am anafiadau trin a thrafod y gellir eu hosgoi
Dyddiadau’r Cwrs
Mae gan rai Ysgolion ac Adrannau eu hyfforddwyr mewnol ei hun, cysylltwch â'ch cydlynydd iechyd a diogelwch am fwy o wybodaeth.
Os nad oes gan eich Ysgol/Adran hyfforddwr mewnol anfonwch eich asesiad risg codi a chario i iechydadiogelwch@bangor.ac.uk fel y gallwn roi cyngor ar opsiynau hyfforddi sydd ar gael.